
Waldo Williams
1904 – 1971
Ystyrir Waldo Goronwy Williams yn ffigwr mytholegol. Nid oedd neb a’i hadwaenai yn ei gasáu. Byddai pawb a dreuliai amser yn ei gwmni yn ei anwylo ac yn trysori pob cyfarfyddiad. Roedd plant bychain bob amser yn hoff ohono pan ddeuai i’w dysgu.
Mynna rhai y perthynai iddo nodweddion sant. Yn sicr, roedd ganddo argyhoeddiadau dwfn a direidi difalais. Dywedodd rhywun ei bod wedi cymryd dwy fil o flynyddoedd o wareiddiad Cymraeg i greu dyn fel Waldo. Roedd wedi ei drwytho ei hun yn hanes ei genedl.
Ar un achlysur safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiad seneddol. Er iddo golli ei ernes enillodd llu o edmygwyr. I lawer Waldo oedd bardd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif. I eraill roedd yn heddychwr a ddigwyddai fod yn fardd. Edmygwyd ei safiad yn wynebu dau gyfnod yng ngharchar am wrthod talu treth incwm mewn protest yn erbyn gorfodaeth filwrol a rhyfela.
Pan oedd yn ganol oed ymunodd â’r Crynwyr. Carai’r distawrwydd a’r modd o gyrraedd y canol llonydd yn addoliad y Tŷ Cwrdd. Cyflwynodd ei unig gyfrol o farddoniaeth Dail Pren yn gyfrwng iachâd i’w genedl. Ni wyddom am yr un bardd arall a wnaeth y fath gymwynas â chenedl.
- DARLITH FLYNYDDOL CYMDEITHAS WALDO 2026 WALDO A ROTHKO – AR YR UN DONFEDD Meirion Jones yn cyflwyno’r artist Americanaidd, Mark Rothko Pwy feddyliai y byddai’n…
- EISTEDDFOD Y GARREG LAS WALDOAIDDBu Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd yn eisteddfod Waldoaidd ar lawer ystyr eleni o gofio’r sylw a roddwyd…
- DARLITH FLYNYDDOL CYMDEITHAS WALDO 2025Cofio Waldo – ‘Creu Cenedl Heddwch’ Fe soniodd Jill Evans am yr Iddewes Nurit Peled-Elhanan a fu’n ceisio addysgu heddwch…



