EISTEDDFOD Y GARREG LAS WALDOAIDD
Bu Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd yn eisteddfod Waldoaidd ar lawer ystyr eleni o gofio’r sylw a roddwyd i’r gwron.
Ar y dydd Sadwrn cyntaf, mewn sesiwn a drefnwyd gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, cafwyd trafodaeth rhwng Elan Closs Stephens a’r Archdderwydd Mererid am ei champ yn llunio drama yn y gyfres Mewn Cymeriad yn seiliedig ar fywyd a gwaith Waldo Williams.
Hwyrach mai’r peth pennaf ddaeth i’r golwg oedd cadarnhad mai tai ar hyd arfordir Sir Benfro yw’r rheiny a nodir gan Waldo yn llinell agoriadol y gerdd ‘Cwmwl Haf’. “Durham, Devonia, Allendale – dyna’u tai a’r un enw yw pob enw” meddai.
Bu rhai yn dyfalu mai enwau tai a welodd y bardd tra oedd yn byw yn alltud yn Lloegr oedden nhw. Ond, na, mae’r enwau i’w gweld yn Solfach, Wdig a Thyddewi mynnai Mererid wrth esbonio eu harwyddocâd. Mae’n arfer gan bobl sy’n symud o’u cynefin i arddel enwau cyfarwydd ar eu tai alltud. Dyna wna’r Cymry hefyd.
Roedd hynny yn rhan o’r allwedd i ddeall y gerdd. Ond mae’n dal yn astrus.
Yn ddiweddarach yn y dydd cyhoeddwyd bod enillydd y gystadleuaeth llunio Adolygiad yn yr adran ddrama wedi gwerthuso’r cyflwyniad theatrig y bu Mererid yn ei lunio ar gyfer Ryland Teifi a oedd yn portreadu Waldo. Yr enillydd oedd Hefin Wyn. Meddai’r beirniad, Non Tudur, am ymgais ‘Mwrcyn’ – “Dyma i chi bictiwr o adolygiad . . . adolygydd medrus a deallus, sydd yn ei hoelio hi o’r llinell gyntaf: . . . yn feistr ar adolygu cynhyrchiad theatr”.
Cymdeithas yr Hoelion Wyth drefnodd ddarlith gan Emyr Llywelyn am Waldo prynhawn Sul gan ganolbwyntio ar ei hiwmor. Rhannodd ei atgofion personol o ganfasio adeg etholiadau cyffredinol yng nghwmni Waldo. Soniodd fel y deuai hiwmor cynnil gyda thinc o obaith i’r wyneb yn aml, yn enwedig pan nad oedd yr argoelion yn dda. Dirdynnol oedd clywed amdano yn mynd â Waldo am dro yn ystod ei waeledd olaf pan oedd cyfathrebu yn anodd.

Jason Walford Davies
A ninnau’n meddwl nad oes yna’r un llyfr arall y gellir ei gyhoeddi am Waldo Williams bellach, cafwyd gwybod gan yr Athro Jason Walford Davies, mewn darlith ysgubol fore Mawrth yn y Babell Lên, bod ganddo yntau ddeunydd ar gyfer tair cyfrol o leiaf!
Hynny ar sail papurau Jâms Nicholas sydd yn ei feddiant, yn cynnwys gohebiaeth, cerddi heb eu cyhoeddi a phob math o nodiadau, a chyfres o lythyrau o eiddo Waldo at ei wraig, Linda.
Manylodd ar y modd roedd llawer o farddoniaeth Jâms yn adleisio eiddo Waldo a’u bod yn gyfeillion mynwesol er bod yna chwarter canrif o wahaniaeth o ran oed. Rhoddodd y ddarlith, a drefnwyd gan Gymdeithas Waldo, modd i fyw i bawb oedd yn y Babell Lên.
Ac yn Y Stiwdio ar y dydd Gwener rhoddodd Ryland Teifi ddau berfformiad o’i gyflwyniad ‘Mewn Cymeriad: Waldo.’ A heb anghofio’r datganiad o ‘Y Tangnefeddwyr’ gan Gôr Cymysg Crymych yn ystod y Gymanfa Ganu ar y nos Sul.

Yn ystod yr wythnos hefyd cyhoeddwyd llyfr clawr caled ‘Adnabod Waldo’ gan gylchgrawn Y Faner Newydd sy’n costio £15. Mae’n werthfawr pe bai dim ond am ddadansoddiadau llachar Emyr Llywelyn o gerddi Waldo a ymddangosodd yn y cylchgrawn rhwng 1997 a 2023. Trysor arall yw cyhoeddi, am y tro cyntaf, ddarlith a draddodwyd gan Waldo uwchben yr odyn galch yng Nghwmtydu rhywbryd, pan oedd yn cymharu awen Alun Cilie a Dic Jones. Roedd y ddarlith yn dangos ehangder ei wybodaeth.Cofiwch am y Ddarlith Flynyddol wedyn yng Nghapel Bethel, Mynachlog-ddu nos Wener, Medi 25 pan fydd yr arlunydd Meirion Jones yn traethu ac yn arddangos lluniau perthnasol.
PLAC SOLFACH
Trwy ymdrechion yr awdur lleol, Matthew Raggett a chymorth Cyngor Cymuned Solfach, gosodwyd plac i gofio am y cyfnod byr dreuliodd Waldo yn athro yn yr hen ysgol. Cafodd ei ddadorchuddio gan yr Archdderwydd Mererid. Wrth fynd lan y rhiw serth i Solfach Uchaf, ac ar ôl mynd heibio’r gofgolofn rhyfel, fe welwch ffordd ar y chwith a’r plac ar y wal dal ar y dde.


Waldo Williams
1904 – 1971
Ystyrir Waldo Goronwy Williams yn ffigwr mytholegol. Nid oedd neb a’i hadwaenai yn ei gasáu. Byddai pawb a dreuliai amser yn ei gwmni yn ei anwylo ac yn trysori pob cyfarfyddiad. Roedd plant bychain bob amser yn hoff ohono pan ddeuai i’w dysgu.
Mynna rhai y perthynai iddo nodweddion sant. Yn sicr, roedd ganddo argyhoeddiadau dwfn a direidi difalais. Dywedodd rhywun ei bod wedi cymryd dwy fil o flynyddoedd o wareiddiad Cymraeg i greu dyn fel Waldo. Roedd wedi ei drwytho ei hun yn hanes ei genedl.
Ar un achlysur safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiad seneddol. Er iddo golli ei ernes enillodd llu o edmygwyr. I lawer Waldo oedd bardd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif. I eraill roedd yn heddychwr a ddigwyddai fod yn fardd. Edmygwyd ei safiad yn wynebu dau gyfnod yng ngharchar am wrthod talu treth incwm mewn protest yn erbyn gorfodaeth filwrol a rhyfela.
Pan oedd yn ganol oed ymunodd â’r Crynwyr. Carai’r distawrwydd a’r modd o gyrraedd y canol llonydd yn addoliad y Tŷ Cwrdd. Cyflwynodd ei unig gyfrol o farddoniaeth Dail Pren yn gyfrwng iachâd i’w genedl. Ni wyddom am yr un bardd arall a wnaeth y fath gymwynas â chenedl.
- Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo 2026 Cynhelir y ddarlith flynyddol eleni yng Nghapel Bethel Mynachlog-ddu ar Fedi’r 25. Y darlithydd gwadd fydd yr arlunydd o Aberteifi, Meirion Jones,…
- DARLITH FLYNYDDOL CYMDEITHAS WALDO 2025Cofio Waldo – ‘Creu Cenedl Heddwch’ Fe soniodd Jill Evans am yr Iddewes Nurit Peled-Elhanan a fu’n ceisio addysgu heddwch…
- ‘NABOD WALDO’ Dyma’r gyntaf o gyfres o bodlediadau o dan y teitl ‘Nabod Waldo.’ Mae Hefin Wyn yn sgwrsio â’r prifardd Alan…



