Cerddi

Cynhwysir tair o gerddi Waldo er mwyn cyflwyno rhychwant ei awen. Cyfansoddwyd ‘Cofio’ yn 1936 pan oedd ar ffarm ei gyfaill mawr, Willie Jenkins, yn Hoplas, ger Penfro. Yn ôl Waldo fe ddaeth y gerdd iddo’n sydyn fin nos wrth i’r haul fachlud. Fe fu ‘Cofio’ yn ffefryn fel darn adrodd mewn eisteddfodau am gyfnod nes ei bod yn colli ei harwyddocâd. Ystyrid hi’n ddim mwy na datganiad o sentiment. Ond bellach adferwyd ei gwerth fel cerdd sydd ag iddi waelod.   Cyfansoddwyd ‘Preseli’ yn 1946 mewn ymateb i’r bygythiad i droi llethrau’r Preselau yn faes ymarfer milwrol parhaol. Ar y pryd roedd Waldo’n byw yn alltud yn ardal Lyneham yn Lloegr. Ymddengys fod y gerdd hon hefyd wedi ymarllwys o enaid Waldo. Caiff y ddwy linell olaf eu dyfynnu’n amlach nag odid unrhyw linellau o farddoniaeth Gymraeg. Llethrau’r Preseli yw prif lun y wefan hon.   Cyfansoddwyd ‘Mewn Dau Gae’ yn 1956 yn benodol ar gyfer ei chynnwys yn y gyfrol Dail Pren.

Mwynhau picnic yn un o'r perci a ysbrydolodd y gerdd 'Mewn Dau Gae'
Mwynhau picnic yn un o’r perci a ysbrydolodd y gerdd ‘Mewn Dau Gae’

Ond ar un ystyr roedd y gerdd ar y gweill ers pan oedd Waldo’n laslanc am ei bod yn seiliedig ar brofiad cyfriniol a gafodd mewn dau barc ger y cartref teuluol yn Llandysilio. Dyma’r gerdd yn anad yr un arall sy’n cyfleu mawredd Waldo a’r profiadau dyfnion yr ymgodymai â nhw.   Mae argraffiad ysblennydd diweddar Gwasg Gomer o Dail Pren ar gael os am werthfawrogi awen Waldo yn ei chyfanrwydd. Cynhwysa’r gyfrol gyflwyniad treiddgar gan Mererid Hopwood.

Cofio

Mewn Dau Gae

Preseli

Back to top