Cynhelir y ddarlith flynyddol eleni yng Nghapel Bethel Mynachlog-ddu ar Fedi’r 25. Y darlithydd gwadd fydd yr arlunydd o Aberteifi, Meirion Jones, a’i destun fydd ‘Waldo mewn delweddau’. Mae’n bosib y bydd arddangosfa fechan o’i waith yn y Festri hefyd.
“Y trywydd y bydda’ i’n ei gymryd yw trafod rhai delweddau a gafodd ddylanwad ar Waldo, yn ogystal â gweithiau celf sydd yn yr un gwynt â’i gerddi.
Y darn cyntaf y byddaf yn cyfeirio ato fydd Cernunnos – y duw corniog o’r traddodiad Celtaidd,” meddai.

Dyma un o’r delweddau y bydd Meirion yn cyfeirio atyn nhw – ‘Y Pladurwyr’ o waith ei dad, Aneurin Jones – hwyrach yn gyfeiriad at rai o linellau’r gerdd ‘Preseli’.
Trannoeth cynhelir Taith Gerdded o Festri Bethel at Garreg Waldo ac yn ôl wedi’i threfnu gan Fenter Iaith Sir Benfro. Tebyg y ceir darlleniadau o gerddi Waldo. Cyfarfod am 10am.
