Gwleidydd


Gwleidydd anfoddog oedd Waldo Williams. Yn groes i’r graen y cytunodd i sefyll fel ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru yn Sir Benfro yn etholiad cyffredinol 1959.

 

Bu’n rhaid i Waldo gael ei ryddhau o’i statws fel methdalwr cyn ei fabwysiadu yn ymgeisydd am nad O gychwyn ymgyrchu aeth Waldo ati’n egnïol gyda chymorth Eirwyn Charles, y canwr opera, yn asiant anghonfensiynol iddo. Cychwynnwyd a gorffennwyd yr ymgyrch yn Nhyddewi am mai yno oedd cartref nawdd sant y Cymry ac o’r herwydd crud Cristnogaeth y genedl. Roedd gweithredoedd symbolaidd o’r fath yn bwysig yng ngolwg Waldo.oedd y gyfraith yn caniatáu i fethdalwr fod yn aelod seneddol. Roedd yn fethdalwr bwriadol am nad oedd am i’r awdurdodau gymryd arian o’r un cyfrif banc o’i eiddo i dalu ei ddyledion treth incwm.

Gydol yr ymgyrch gwrthododd Waldo feirniadu ei gyd-ymgeiswyr a mater o ddifyrrwch a thestun englyn iddo oedd ambell gyfarfod lle nad oedd neb yn bresennol. Deliai â heclwyr a holwyr cwestiynau lletchwith mewn cyfarfodydd etholiadol yn ddeheuig. Gofynnodd un ffermwr iddo a wyddai faint o asennau oedd gan fochyn. Atebodd Waldo nad oedd yn gwybod ond petai’r bonheddwr am ddod â mochyn i’r llwyfan byddai’n barod i’w cyfrif.

Collodd ei ernes ond enillodd Waldo lu o edmygwyr wrth ddenu 2,253 o bleidleisiau. Gwrthododd sefyll drachefn a gwell ganddo oedd treulio cyfnodau yn Iwerddon yn dysgu Gwyddeleg na bwrw ati i fraenaru’r tir yn enw Plaid Cymru yn Sir Benfro rhwng etholiadau. Serch hynny, byddai’n mynychu Ysgolion Haf Plaid Cymru’n rheolaidd ac yn ganolbwynt yr hwyl yn gyson ar gownt ei ddoniolwch.

Cofier nad ar dir cenedlaetholdeb y cofrestrodd Waldo fel gwrthwynebydd cydwybodol adeg yr Ail Rhyfel Byd, fel y gwnaeth llawer o Gymry, ond ar dir heddychiaeth. Er ei sêl dros Gymru a’r nod o sicrhau hawl iddi ei rheoli ei hun rhyw ddiwrnod, ni chyfansoddodd Waldo erioed yr un gerdd yn moli’r hen dywysogion am eu bod, yn ei olwg ef, yn arweinwyr treisgar yn ymwrthod â gweithredu trwy ddulliau heddychlon.