Beth mae nhw wedi ei ddweud

Beth tybed yw cyfrinach apel Dail Pren? Mae’n siwr bod gan bob darllenydd ei ddamcaniaeth ei hunan. Ond i mi, un o’r atebion, heb os, yw grym diffuantrwydd y canu. Wrth ddarllen y gyfrol – ac mae’n werth gwneud hynny o glawr i glawr weithiau, nid dim ond agor y ffefrynnau’n unig – cystal i mi gyfaddef na allaf honni fy mod i’n deall y cwbl sydd gan Waldo i’w ddweud. Ond rwy’n credu, o adael i’w eiriau ef siarad yn y clyw ac yn y galon, ei bod hi’n bosib amgyffred y neges. Mae’r taerineb sydd ym mhob llinell yn ein cario ni gydag ef ac yn ein galluogi ni i ddirnad ei weledigaeth. Un peth sy’n sicr, mae’n amhosib brysio drwy Dail Pren. Mae’n rhaid oedi gyda’r testun. Oedi er mwyn clywed ‘galw’r iet’, a dal yn yr eiliad sy’n caniatau i ni weld y pethau na welsom ni o’r blaen.

Ystyriwch sawl gwaith mae Waldo’n cysylltu’r eiliad fyrhoedlog â’r awr dragwyddol. Droeon cawn ein hatgoffa o’r munudau mân sydd, nid yn unig yn cysylltu nawr â thragwyddoldeb, ond sydd hefyd yn datgelu tragwyddoldeb i ni. Does dim syndod bod llawer wedi cydnabod pwysigrwydd y gerdd sy’n dwyn y gair ‘Yr Eiliad’ yn deitl iddi. Hon yw un o’r cerddi y cyfeiriodd Jâms Niclas ati yn angladd Waldo. Dyma’r gerdd a ddewisodd T. James Jones fel un o’r dylanwadau arno, ac mae Caerwyn Williams yn ei nodi yn ei ragarweiniad i gyfrol Gwasg Gregynog o gerddi Waldo.

Mererid Hopwood,  Rhagymadrodd Dail Pren  Gwasg Gomer Medi 2010

Ddydd Gwener, mi ddylen ni i gyd fod yn casglu ar ddarn o weundir llwm yn Sir Benfro. Mi fyddai mynyddoedd y Preseli’n ffurfio hanner cylch o’n cwmpas ni bron ac mi fyddai llond dwrn o ehedyddion yn tywallt eu cân ar ein pennau. Union 40 mlynedd yn ôl y buodd farw Waldo Williams, y bardd sydd wedi cydio mwy yn nychymyg darllenwyr Cymraeg na’r un arall. Ac un sydd, gydag amser, yn dod yn fwy a mwy disglair yn hytrach na phylu yn y cof.

Union 100 mlynedd yn ôl yr aeth i Fynachlog-ddu. Mi fydd pawb, bron, yn gwybod am ei delyneg Cofio… “un funud fach cyn elo’r haul i’w orwel”… ac mae yna sawl parti cerdd dant wedi cael hwyl yn canu ei englynion i’r tatws neu, o gofio’r etholiad sydd newydd fod, wedi gwerthfawrogi ei linell fawr wleidyddol yn holi ai dim ond tri oedd “y blydi Blaid?” Yn ôl yn y ’70au, roedd un o’i anthemau o gerddi wedi ysbrydoli Huw Jones, y canwr pop… “Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain, Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr”.

O’r holl eiriau mawr sydd wedi eu gosod ar gerddoriaeth, go brin fod yr un gân yn dod yn agos at fersiwn y cyfansoddwr Eric Jones o “Tangnefeddwyr”, cerdd Waldo i gofio’i rieni o ganol ymladd gwaedlyd yr Ail Ryfel Byd. Pan fydd angen rhywbeth i’w ddarllen mewn capel, neu sgript ar gyfer rhyw gyflwyniad neu’i gilydd, at Waldo y bydda’ i’n troi gynta’ bob tro. A phan fydd angen doethineb, ei eiriau sy’n dod i’r cof… rhyw fath o sat nav i’r enaid.

Dylan Iorwerth,  Mai 2011

Wrth gofeb syml Waldo, cafwyd gorffwys. Mae’n bererindod gwerth ei gwneud, yn enwedig ar ddechrau blwyddyn, yn enwedig yng nghwmni rhai annwyl. Llwyddodd Waldo i’w fynegi mewn geiriau, y rhin cyfrin hwnnw sydd i’w gael mewn cymdeithas ac mewn cymundeb â’r tir. Hwnnw na chaiff byth ei hysbysebu gan nad oes gwerth masnachol iddo. Hwnnw na ellir ei ddwyn gan nad oes iddo berchennog. Hwnnw na ellir ei ffugio gan fod yn rhaid iddo fod yn ddidwyll. Hwnnw y galwodd Waldo yn `adnabod`.

Mae e mor amwys, eto mae gennym oll brofiad ohono. Ceir cip arno mewn gwên, mewn cyfarchiad, mewn cyffyrddiad. Anaml y soniwn amdano a hawdd yw ei gymryd yn ganiataol. Eto, mi wyddom yn iawn pan brofwn ni o, ac mi wyddwn o’r gorau pan gollwn gafael arno. Gwarchod hwn yw gwarchod gwareiddiad. Ei brofi sy’n rhoi ystyr i’n bod. Daethom i lawr o’r mynydd. Roedden ni’n ffrindiau, yn gytun, roedd hi’n Galan, ac yn llawn gobaith. Trodd cofeb Waldo yn garreg filltir. Daethom cyn belled â hyn, ac roeddem yn cychwyn blwyddyn arall heb golli nabod ar ein gilydd. Y pnawn hwnnw teimlais y gobaith a all oresgyn popeth.

Geiriau’r llenor Angharad Tomos, a fu’n sefyll wrth Garreg Waldo ar drothwy blwyddyn newydd.

Fe bwysir ei farddoniaeth yn y cloriannau, ac yn wahanol i’r mwyafswm o farddoniaeth gyfoes Cymru, gellir yn hyderus ddarogan na cheir mohoni’n brin. Ei Ddail Pren a ddeil y praw. I’r rhai hynny ohonom sy’n disgyn i gategori’r ‘darllenwyr cyffredin’ – pwy bynnag mewn gwirionedd ydynt hwy – mae rhannau o waith Waldo Williams yn anodd. Y mae’r elfen gyfriniol, os gwiw ei galw felly, a’r gyfeiriadaeth astrus, uwchlaw inni ar brydiau; yn aml y mae’r symbolaeth yn llen anhydraidd rhyngom a’r gwirionedd.

Ac eto, ar waethaf, yr anawsterau deallol, y mae dyn o reddf rywsut yn synhwyro fod mawredd yma. Nid yw’r gelfyddyd farddonol yn gyflawn yn ol rhai os cyfyngir hi i fyd deall a rheswm yn unig: rhaid bod lle (meddir) i reddf a theimlad yn ogystal – hynny yw, mewn ieithwedd a ystyrir bellach yn henffasiwn, nid yr ymennydd yn unig ond y galon hefyd. Amdanaf fy hun, y gyfrol Dail Pren yn fwy nag odid yr un casgliad arall o farddoniaeth Gymraeg modern, yw prif sail y ddamcaniaeth yna.

Emlyn Evans Y Genhinen Gwanwyn 1971

Awgryma Martin Buber yn ei lyfr Between Man and Man y gellir rhannu hanes dyn yn gyfnodau o ddau fath, sef cyfnodau o ymgartrefu a chyfnodau digartref. Yn y cyntaf, y mae dyn yn byw yn y byd megis mewn ty, megis mewn cartref; yn yr ail, y mae’n byw yn y byd megis mewn cae agored. Yng nghyfnodau’r ymgartrefu, rhan o hanes y byd yw hanes dyn; eithr pan fo dyn yn ddigartref, y mae i’w hanes ddyfnder ynddo’i hunan. Barddoniaeth un o’r cyfnodau digartref yw Dail Pren. Lladmerydd y byw mewn cae agored yw Waldo Williams.

Y mae barddoniaeth Waldo Williams yn cyfrif nid yn unig am ei bod yn ymchwil i gyflwr hanfodol dyn ond am ei bod yr un pryd yn fynegiant o’r awydd i gael blas ar fyw. Ynni cadarnhaol yw ei nwyd farddonol ef. Amlygir hynny yn y modd y cyflwynir hanfodion mewn cynifer o’i gerddi, oblegid y mae’r hanfodion yn goroesi ac yn goresgyn y llygriadau, y diffygion, y rhaniadau a’r methiannau a barai’n llethu â’u dillyndra heb y sicrwydd fod y perffaith a’r gorffenedig hwythau’n ddichonadwy.

Perthyn y rhinwedd iachusol yn ogystal â’r blaguro anorfod i gerddi Waldo Williams, a hwyrach mai am eu bod mor ddigymell farddonol y mae’r rhain ar yr un pryd mor iachusol. Gŵyr eu hawdur beth yw barddoniaeth, ac am na lwyddodd neb i’w berswadio mai rhywbeth arall ydyw, erys yn annibynnol ar ffasiynau cyfoes. Golyga hyn fod iddo’r odrwydd sy’n nodweddu’r neb a fo’n gwarchod purdeb ei nwyd barddonol, ond golyga hyn hefyd iddo fedru gwneud barddoniaeth, fel barddoniaeth, yn beth real yn ein hoes.

Huw Ethall Y Traethodydd 1958

Wele isod rhan o lythyr o eiddo’r Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney a ysgrifennwyd wedi iddyn nhw weld a chlywed ar dâp ddarlith Emyr Llewelyn yng Nghapel Bethel, Mynachlog-ddu ym mis Medi 2010 – Darlith Flynyddol gyntaf Cymdeithas Waldo. Yn ol ei arfer mae’r dihafal Merêd yn taro’r hoelen ar ei phen wrth dafoli dawn y darlithydd. Ysgrifennwyd y llythyr ar Dachwedd 15 2010.

Roeddwn wedi darllen rhan o’r ddarlith yn Y Faner Newydd ond roedd gwrando a gwylio ar yr hen gyfaill yn traethu yn brofiad i’w drysori. Y ddau ohonom yn cael y fath fwynhad. Emyr ar ei orau, yn dwysau ac yna’n tanio, distewi a gorfoleddu, arafu a chyflymu, y Gymraeg yn rhywiog a’r llefaru fel cloch. Y cyfan yn fywiog, gafaelgar, digri a difri, ac yn cyffwrdd â’r deall a’r galon.

Onid yw’n drist na all ein darlledwyr ddod i blith ein cymdogaethau a chyfleu achlysuron fel hyn i wylwyr a gwrandawyr? Mae mor rhwydd erbyn hyn i wneud hynny. Yn wir, gwnaed gwaith canmoladwy gan eich technegydd chwi.

Darlithydd cwbl arbennig yn trafod gwaith un o’n beirdd mawr, a dyna ni yng nghanol ein Cymreictod. Y math ar beth na ellid ei gael yn un rhan arall o’r byd. Ein gweithgaredd diwylliannol ni. Nid ei fod yn well nag eiddo cenhedloedd eraill, ond mae’n perthyn i ni ac mae llawer ohono i’w gael yng nghyfarfodydd ein Cymdeithasau Diwylliannol, ein Cymdeithasau Hanes lleol, cyfarfodydd ein llu o Sefydliadau, megis Yr Urdd, Mudiad y Ffermwyr Ifanc, Clera, yr holl weithgareddau sydd ynghlwm â Cherdd Dant, ac ati. A son yr ydym yma am weithgareddau yn ein cymunedau. Pam y mae’n rhaid i ni gadw yn ddieithriad mor geidwadol o ddygn wrth gonfensiynau y byd darlledu Eingl-Americanaidd gan feddwl fod hynny’n dyst i soffistigeiddrwydd arbennig? Nid yw’n amgen na medrusrwydd technolegol ac, fel sy’n digwydd yn aml, mae technoleg yn medru lladd y peth byw sy’n digwydd pan fydd pobl yn llwyddo i gyfathrebu yn wirioneddol â’i gilydd.

Aradeg Ifas, mae’r tymheredd yn codi! Gwell imi ymlonyddu a chloi wrth ddiolch unwaith yn rhagor am awr o foddhad pur, a rhagor am ‘wn i (aeth y cyfan heibio heb orthrwm y cloc).

(Mae’r ddarlith i’w chlywed a’i gweld ar y wefan hon o dan edefyn Achlysuron)

Back to top