Crynwr

Cafodd Waldo Williams ei dderbyn yn aelod yng Nghapel Blaenconin, Llandysilio, trwy fedydd trochiad yn ôl arfer y Bedyddwyr, gan ei weinidog y Parch D. J. Michael, pan oedd yn 16 oed, ym mis Ebrill 1921.

Tŷ Cwrdd y Crynwyr yn Aberdaugleddau

Roedd y teulu eisoes yn aelodau yno ac er mai un o addolwyr set y gwt oedd John Edwal, tad Waldo, amlygodd ei ewythr, Gwilamus, ei hun fel blaenor ac ysgrifennydd. Cyfrannodd y ddau’n helaeth i dudalennau cyfnodolyn byrhoedlog o eiddo’r Bedyddwyr yn Nyffrynnoedd Taf a Chleddau, Y Piwritan Newydd. Roedd ei gyfnither, Gwladys Llewelyn wedyn yn cynorthwyo gyda’r Gobeithlu, ac yn gyfrifol am ddosbarthu un o’r cyfnodolion, Seren Gomer, ymhlith yr aelodau am flynyddoedd maith.

Profodd Waldo ei hun yn aelod ffyddlon a gweithgar yn y capel yn ystod ei ieuenctid. Pan ddychwelodd i’r ardal wedi dyddiau coleg byddai’n aml yn annerch Guild y Bobol Ifanc ar amrywiaeth o bynciau llenyddol. Ym Mlaenconin y priodwyd yntau a Linda Llewelyn ym mis Ebrill 1941. Ond wedi iddo symud i Ben Llŷn ac yna i Loegr ymddengys i Waldo ymbellhau ac ni fyddai bob amser yn cynnal yr arfer blynyddol o gyfrannu at y treuliau a’r weinidogaeth yn ôl y disgwyl. Serch hynny, ni ymaelododd yn yr un capel arall er byddai’n ddigon parod i fynychu oedfaon mewn capeli lle bynnag y cai ei hun ar y Sul.

Yna, pan ddychwelodd o Loegr a phenderfynu gwrthod talu treth yr incwm, derbyniodd wahoddiad gan Steffan Griffith i fynychu Tŷ Cwrdd y Crynwyr yn Aberdaugleddau. Apeliodd eu dull o addoli mewn tawelwch heb na phulpud na Set Fawr ato yn hytrach na’r bregeth hanner awr a mwy o hyd y mesurid ei gwerth, yn amlach na pheidio, ar sail huotledd a gallu i ddiddanu. Doedd y cwestiwn ‘shwd enjoioch chi’r bregeth?’ ddim yn gwestiwn synhwyrol yng ngolwg Waldo.

Buan y byddai Waldo’n seiclo a theithio ar drên bob Sul i ymuno â’r Crynwyr yn Aberdaugleddau lle cai nerth a llonyddwch. Serch hynny, ni thorrodd gysylltiad yn llwyr â Blaenconin er iddo derfynu ei aelodaeth yno. Cafodd ei wahodd i gyfarch y gweinidog ar ran y plant ar wasgar ar achlysur ymddeoliad D. J. Michael yn 1962. Ac ym mynwent yr eglwys mewn beddrod diaddurn, yn null y Crynwyr, y cafodd ei gladdu yn ymyl Linda, ei wraig, ac yng nghwmni aelodau eraill o’r teulu.

Arferai ddweud nad oedd dim yn anghyson mewn bod yn Fedyddiwr a bod yn Grynwr yr un pryd fel y tystia wrth gloi sgwrs a ddarlledwyd ganddo ar y radio o dan y teitl, ‘Paham yr wyf yn Grynwr’:

Wel, y mae dull y Crynwyr o addoli yn ei gwneud yn hawdd i ddyn edrych ar Dduw yn unol â’i deimlad ei hun ynghylch peth felly, ac eto deimlo’n un â’i gymdeithas – oherwydd y llawer o ddistawrwydd a’r weinidogaeth gydradd, a’r anogaeth sydd arnom i gadw meddwl agored i’r Goleuni. I fod yn onest, yr wyf yn credu mai’r peth hwn, yn y gred ynof er yn llanc, a’m rhoes ar y llwybr a’m harweiniodd at y Crynwyr, er nad yw’n nodweddiadol ohonynt. Ni chefais bethau newydd ganddynt ychwaith: ond pwyslais a datblygiad ar bethau y deuthum i’w hadnabod ymhlith y Bedyddwyr. . . er mor fach o gymdeithas ydym, credwn fod y tebygrwydd rhwng dynion yn fwy na’r gwahaniaeth, yr ydym yn abl i dderbyn y Goleuni oddimewn. Dyma sail yr heddychiaeth sydd yn gryf yn ein plith, a’n gwaith cymdeithasol.