
Yr heddychwraig a chyn-aelod o Senedd Ewrop yn enw Plaid Cymru, Jill Evans o’r Rhondda fydd yn traddodi Darlith Waldo eleni. Fe’i traddodir nos Wener, Medi 26 ar gampws Coleg y Brifysgol Aberystwyth. Teitl y ddarlith fydd ‘Creu Cenedl Heddwch’. (Gweler yr hysbyseb am fanylion pellach)
Bu llawer o drafod ynghylch p’un ai bardd neu heddychwr oedd Waldo Williams yn bennaf. Tebyg bod y dafol yn weddol gytbwys o’r ddwy ochr. Ond tebyg y teflir goleuni pellach ar hynny gan y darlithydd gwadd.
Yna ar Fedi’r 30 sef diwrnod geni Waldo dadorchuddir cofeb iddo yn yr Archifdy yn Hwlffordd. Ar safle’r Archifdy y safai Tý’r Ysgol, Ysgol Prendergast, lle’r oedd ei dad yn brifathro a lle treuliodd Waldo saith mlynedd cyntaf ei fywyd cyn i’r teulu symud i Fynachlog-ddu. Roedd yn blentyn uniaith Saesneg yn Hwlffordd ond cofleidiodd y Gymraeg ar ôl cyrraedd y Preselau trwy chwarae gyda’i gyfeillion newydd megis Edgar Tycwta a Dai Glynsaithmaen. Dadorchuddir y plac gan ei neiaint. Bydd y dadorchuddio yn digwydd am 5.30pm

Yn y cyfamser mae Cymdeithas Waldo wedi lansio cyfres o bodlediadau o sgyrsiau gyda phobl oedd naill ai’n adnabod Waldo ei hun neu yn ei adnabod trwy ei waith neu gyfuniad o’r ddau. Mae’r gyntaf sef sgwrs rhwng y prifardd a’r awdur, Alan Llwyd a Hefin Wyn i’w gweld naill ai ar wefan Cymdeithas Waldo neu ar youtube.
Mae Alan yn awdur cofiant swmpus yn ogystal â chyfrol ddwyieithog amdano fel heddychwr. Cyd-olygodd hefyd gyfrol sy’n cynnwys ei holl farddoniaeth ynghyd â nodiadau manwl am bob cerdd.
Mae sgyrsiau eraill ar y gweill.