Hiwmor

Dotiai pawb a adwaenai Waldo Williams at ei hiwmor difalais. Byddai’n hoff o ddweud straeon amdano’i hun a’r modd fyddai pobl yn ei gamddeall, yn arbennig yn ystod ei ymweliadau ag Iwerddon.

Glywsoch chi am y siopwr hwnnw a wrthodai werthu lamp beic i Waldo gan ddweud nad oedd ei hangen arno er gwaethaf holl daerineb Waldo dros ei phrynu? Dadleuai’r Gwyddel mai prin oedd hi’n nosi’r adeg honno’r flwyddyn ac y byddai golau’r lleuad yn fwy pwerus na golau lamp ar ei feic beth bynnag.

Apeliai smaldod pobl ato’n fawr a phan yn ei hwyliau adroddai rhibidirês o straeon am gymeriadau fel Wil Canaan, y clocsiwr nad oedd fawr o grefftwr wrth drin lledr ond yn bencampwr o grefftwr wrth adrodd straeon celwydd golau, a hynny’n ddiarwybod iddo’i hun.

Daeth llawer o’i hiwmor i’r golwg yn y cerddi plant a gyfansoddodd ar gyfer y gyfrol Cerddi’r Plant a gyhoeddodd ar y cyd â E. Llwyd Williams yn 1936.

Byddai gan Waldo hefyd ei ateb parod mewn ambell sefyllfa fel y tro hwnnw pan welwyd ef gan gydnabod busneslyd ar gylchdro Penblewin uwchlaw Arberth. Yn ôl ei arfer roedd Waldo ar gefn ei feic a golwg go ddi-raen arno. Meddai’r ddynes wrtho, “Wel Waldo bach, ble y’ch chi’n mynd heddi te a shwd olwg arnoch chi?” “O,” atebodd Waldo’n ddidaro “ i Abertawe i brynu sosban”.

Mewn llythyr wedyn at D. J. Williams, disgrifia fel y bu’n rhaid iddo fynd ar ben to Elm Cottage i dorri onnen oedd yn tyfu trwy’r simdde. Doedd dim bilwg, bwyell na llif yn ei feddiant dim ond cyllell garfo. Safai ar ei draed gan chwifio ei freichiau a gweiddi ar bawb a âi heibio oddi tano, “Nawrte, pwy sy moyn sleishen o’r frest?”

Back to top