Ar nos Wener, Mawrth 23, 2012 traddodwyd darlith gan Archesgob Caergaint, Rowan Williams, ar y testun ‘Poetry and Peacemaking’ yng nghyd-destun barddoniaeth Waldo yng Nghapel Pisga, Llandysilio yn Sir Benfro. Trefnwyd yr achlysur gan Gymdeithas Waldo a dyrchafwyd Waldo Williams i statws bardd a wyddai wir ystyr y gair ‘awen’.
Ceisio darbwyllo Arlywydd Zimbabwe, Robert Mugabe, yn Harare, i barchu hawliau dynol yn ei wlad ei hun; ceisio darbwyllo’r Pab Benedict o werth eciwmeniaeth trwy draddodi darlith yn dwyn y teitl ‘Gwerthoedd Mynachaidd a Gobaith Eciwmenaidd’ yn Rhufain; ceisio darbwyllo’r arch-anffyddiwr Richard Dawkins mewn dadl gyhoeddus yn Rhydychen fod pori yn Llyfr Genesis yn hanfodol i ddyn ddeall ei le yn y bydysawd a cheisio darbwyllo pwy bynnag a glyw fod gan hyd yn oed terfysgwyr megis y Taliban eu hamcanion moesol – dyna rai o’r tasgau a osododd Archesgob Caergaint iddo’i hun yn ystod yr wythnosau cyn iddo ymweld â Llandysilio-yn-Nyfed. Ei dasg yng Nghapel Pisga ar nos Wener, 23 Mawrth, oedd darbwyllo’r gwrandawyr o fawredd y crwt lleol, Waldo Williams fel bardd-heddychwr ar yr un gwastad â’r bardd Americanaidd, Thomas Merton, a’r Sais, Geoffrey Hill. Cafodd gynulleidfa foddog. Esgynnodd yr Archesgob Rowan Williams i bulpud Anghydffurfiol a harddwyd am 46 mlynedd gan un o hoelion wyth enwad yr Annibynwyr, y Parch Joseph James, a berffeithiodd y grefft o atal dweud ar ei leferydd i’r un graddau â’i gyfoeswr o Ddowlais, ger Merthyr, yr hanesydd Gwyn Alf Williams. Ymddangosai prif Anglican y dydd yn gwbl gyffyrddus wrth fwrw at ei dasg.
Fe’i gwnaed yn gartrefol gan eiriau’r cyflwynydd, Cerwyn Davies, Cadeirydd Cymdeithas Waldo, a nododd fod gan y ddau ohonynt ddau beth yn gyffredin sef eu hoed a’r ffaith eu bod ill dau yn fugeiliaid – un yn ben bugail ar 77 miliwn o Anglicaniaid ar draws y byd a’r llall yn ben bugail ar ychydig gannoedd o ddefaid ar lethrau’r Preselau. Doedd hi fawr o dro cyn i’r gynulleidfa sylweddoli bod yna enaid mawr yn trafod enaid cydnaws wrth i’r Cymro 61 oed ein tywys i ddyfnderoedd y bywyd ysbrydol trwy gyfrwng y geiriau allweddol hynny sydd i’w gweld drosodd a throsodd yng ngherddi Waldo. Dewisodd Rowan Williams y gerdd ‘Mewn Dau Gae’ i ddarlunio hynny gan awgrymu’n gryf bod angen dealltwriaeth o deithi meddwl yr iaith Gymraeg i ddeall ystyr gair megis ‘awen’; nid yw’n cyfieithu yn ‘muse’ meddai’r darlithydd sydd yn fardd yn ei hawl ei hun.
Mae ‘awen’, meddai, yn ymwneud ag ynni cyntefig cychwynnol a’r ysbryd dychmygus. Mentrodd ymhellach trwy ddweud mai ‘awen’ biau’r byd ac mai ffantasi yw ‘elw’ a bod Waldo’n deall hynny. Dyna pam ei bod yn bwysig ‘adnabod awen’ am mai dyna sy’n cysylltu pob dim, yn cyfannu pob dim sydd o dan yr wyneb, a phan fod barddoniaeth yn cydnabod hynny mae’r geiriau’n gyfystyr ag ymgyrchu dros gynnal heddwch. Dywedodd na all cyfansoddi gwir farddoniaeth beidio â bod yn weithred o heddychiaeth am ei fod ynddo’i hun yn uchelgais i sicrhau cymod uwchlaw pob agenda gwleidyddol. Mynnai fod Waldo’n deall hynny. Dewisodd y diwinydd gloyw gyfeirio at y modd roedd Crynwriaeth wedi dylanwadu ar fywyd mewnol Waldo trwy ei orfodi i ganolbwyntio ar y goleuni sy’n cynnig llwybr greddfol tuag at y gwirionedd a’r pwyslais ar ddistawrwydd gwrando a distawrwydd rhyfeddu. Fe’n argyhoeddodd fod Waldo yn hen law ar ddisgwyl am y distawrwydd. Cyfeiriodd at adnabyddiaeth Euros Bowen a Steffan Griffith o’r modd yr ymglywai Waldo â’r dyfnderoedd a’r modd na fynnai glywed neb yn llefaru yng nghyfarfodydd y Cyfeillion am y byddai hynny’n amharu ar y broses o osod gwreiddiau distawrwydd.
Pwysleisiodd Rowan Williams fod barddoniaeth yn gwrthwynebu ystrydebau ac odli geiriau’n ddi-ben-draw am fod y gwir fardd yn awyddus i gyfleu cyfanrwydd geiriau trwy symlrwydd mynegiant. Celfyddyd yw barddoniaeth, meddai, sy’n awyddus i greu cymod, a dyna pam y gwrthwynebai Waldo drachwant sy’n creu elw a rhwygo’r ddaear gan beiriannau rhyfel am ei fod o’r farn mai hau hadau Duw a ddylid ei wneud yn y pridd. Roedd Waldo, meddai, trwy fynegi’r profiad a gafodd ym Mharc y Blawd a Weun Parc y Blawd, fel y gwna yn ‘Mewn Dau Gae’, yn tystio i’r grym trawsnewidiol sydd yn yr awen.
Cyfeiriodd at ddisgrifiad Waldo ohono’n dyst i fedydd bachgen ifanc oedd ar y ffordd i ryfel ac fel roedd yn dyheu y byddai’n bosib i’r gŵr ifanc drawsnewid ei deyrngarwch i’r wladwriaeth i deyrngarwch i’r awen sy’n meddu ar ddyfnderoedd cudd a fedr weddnewid y byd. Gadawyd y gynulleidfa mewn llesmair wrth i Esgob Tyddewi, J. Wyn Evans esgyn i’r pulpud i gynnig gair o ddiolch. Fyddai yntau chwaith ddim wedi cael gwneud hynny drigain mlynedd nôl pan benderfynodd un o’i ragflaenwyr, yr Esgob J. R. Richards, na châi ffeiradon a phregethwyr gyfnewid pulpudau o dan unrhyw amodau o fewn ei esgobaeth. Ond brawdgarwch piau erbyn hyn wrth i bawb sylweddoli y gallai llais bardd-heddychwr sicrhau cymod mewn aml i ran o’r byd pe bai’r gwleidyddion a’r cadfridogion yn fodlon gwrando ar y distawrwydd.
Ymneilltuodd yr Archesgob Rowan i’r Festri wedyn i gyfarfod â’r rhan fwyaf o’r dorf a lenwai’r capel hyd at yr ymylon, yn eu plith nifer wedi teithio’n unswydd o bob rhan o Gymru benbaladr yn cynnwys Llandudno, Caerdydd, Caernarfon, Llanelli, Abertawe ac Aberystwyth i wrando ar y gŵr goleuedig sydd wedi cyhoeddi ei fwriad i ddychwelyd i fyd academia yng Ngholeg Magdalen, Caergrawnt, wedi treulio deng mlynedd yn ei swydd bresennol. Cyflwynodd Vernon Beynon ddwy golfen o Barc y Blawd a Weun Parc y Blawd i’r Archesgob i gofio mai profiad llencyndod yn y perci hynny a gyffrôdd Waldo i gyfansoddi ‘Mewn Dau Gae’ dros 40 mlynedd yn ddiweddarach. Diflannodd Rowan Williams o Landysilio-yn-Nyfed wedi iddo ysgwyd llaw â neiaint Waldo gan ddweud cymaint o fraint oedd hi iddo i wneud hynny; gadawodd gan adael ei ostyngeiddrwydd ar ôl ac adnabyddiaeth o’r newydd o fawredd Waldo Williams.