Darlith T. James Jones 2011

Darlith T. James Jones 2011

Wrth draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo soniodd yr Archdderwydd Jim Parcnest am achlysur pan ymddangosodd Waldo’n ddisymwth i achub ei groen. Roedd wrthi’n cynnal ysgol nos yn Cross Hands ac yn cael trafferth i esbonio ystyr proest i’r dosbarth. Pwy ddaeth i mewn ac eistedd yn y cefn ond Waldo Williams yn ei drywsus khaki. Wedi cryn berswâd fe ddaeth Waldo i’r tu blaen a bwrw ati i esbonio’r defnydd o broest mewn barddoniaeth nad oedd o reidrwydd yn fai bob amser. Yng Nghapel Blaenconin, Llandysilio, ar Fedi’r 30 2011 – diwrnod pen-blwydd Waldo – y traddododd Jim Parcnest ddarlith ar ffurf taith yng nghwmni ei dad ar hyd ei lwybrau bore oes. Cafodd ddiwrnod i’r brenin wrth ail-fyw profiade ei dad a dyna oedd teitl y ddarlith – ‘Diwrnod i’r Brenin’.

Is-deitl oedd ‘Pobol Mewn Perci’ am ei fod yn son am gymeriade’r fro rhwng Castellnewydd Emlyn a Chwm Cych a’r cymeriade hynny’n adleisio’r cymeriade yr adnabu Waldo yn ardal y Preselau ac y canodd iddyn nhw yn ei gyfrol Dail Pren. Terfynodd yr Archdderwydd Ddarlith Flynyddol 2011 trwy bwysleisio pwysigrwydd y cof yn ogystal â chalon a’r modd y defnyddiai Waldo’r geiriau hynny nes eu bod bron yn gyfystyr, i gyfleu profiade dyfnion fel y gwna yn y gerdd ‘Medi’ sy’n terfynu’r gyfrol Dail Pren.

Back to top