Darlith Mererid Hopwood 2012

Darlith Mererid Hopwood 2012

Fydde Waldo Williams ddim wedi cymeradwyo syniad y Torïaid o’r ‘Big Society’, yn ôl Mererid Hopwood, wrth iddi draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo.

Wrth ddadansoddi’r soned ‘Cymru’n Un’ darluniodd y gymdeithas neu’r gymdogaeth amgenach oedd gan y bardd mewn golwg na’r hyn a geisia’r prif weinidog, David Cameron ei chreu.

Cyfeiriodd y prifardd at y geiriau hynny sy’n rhyw fath o ‘bleeps’ i’n cynorthwyo i ddeall y soned. Un o’r rheiny yw’r gair ‘cyntedd’ sydd wedi arwain Waldo i mewn i Gymru a’i hadnabod trwy ei gysylltiadau teuluol ym Mangor, Hiraethog a’r Mynydd Du cyn cyrraedd ‘fy Mhreseli cu’ lle’r oedd pob dim yn ‘gwneud sens’ chwedl y darlithydd.

Pwysleisiodd Mererid fod Waldo wedi dod o hyd i gymdogaeth, sy’n gysyniad amgenach na chymdeithas, ymhlith y bobl oedd yn trin y tir oherwydd wrth drin pridd mae yna gymryd a rhoi’n digwydd meddai. Synhwyrodd fod y bardd yn ceisio’n hargyhoeddi ei bod yn bosib i bawb ohonom ddod o hyd i’r gymdogaeth ryfeddol hon ond i ni chwilio amdani yn ddwfn y tu fewn i ni’n hunain.

Mynnodd fod yr ymadrodd ‘dryllio’r rhod’, yn ail ran y soned, yn cyfeirio at y rhai sy’n sbortan am ben pwy bynnag sydd am wneud Cymru’n bur; rheiny sydd yn llawn ymffrost a gwag ogoniant ar sail rhyfela heb weld y drefn a ddeuir iddi wrth fynd trwy’r ‘cyntedd maith’.

Cyfeiriodd Mererid at y mynych ddefnydd o’r gair ‘adnabod’ sydd yng ngherddi Waldo gan bwysleisio ei fod yn greiddiol i ddeall ei feddwl. “Mae’r gair” meddai “yn gyfystyr â’r awen fydd yn ein hachub, yn ein codi ac yn tynnu ni at ein gilydd. Mae’n golygu mwy na holi ‘Shwd ych chi heddi?’ ond yn golygu ein bod yn cloddio at y gwreiddyn sydd o dan bob cangen er mwyn adnabod y gwreiddyn.”

Gogoniant y soned meddai Mererid yw’r llinell olaf, ‘Gobaith fo’n meistr: rhoed Amser i ni’n was’ – a ddewiswyd yn deitl i’r ddarlith – am ei bod yn mynegi sicrwydd absoliwt Waldo y bydd Cymru’n un gymdogaeth rhyw ddydd.

“Fe ddaw yna eiliadau o olau fydd yn rhoi i ni dosturi a thrugaredd y tu fewn a thu fas i’r cyntedd. Bydd y ‘rhod anghenedl’ sydd ar waith yng Nghymru heddiw yn cael ei threchu,” meddai.

Soniodd am eiliad o olau a ddaw pan na fydd y Frenhines yn cael ei hystyried yn bennaeth yr Eglwys a phennaeth y lluoedd arfog. Dywedodd nad yw’n bosib cyplysu gwerthoedd Tywysog Tangnefedd â’r dinistr a gyflawnir gan wŷr arfog.

Ar ben hynny dywedodd y bydd dileu’r anghysondeb hwnnw’n rhan o’r broses o sefydlu teyrnas yr ochr hon i afon angau. Ymhen amser caiff anghysonderau felly eu dadwneud meddai.

Yn wir, wrth wrando ar y ddarlith rymus, eiliad o olau a ddaeth i rai o blith y gynulleidfa oedd y sylweddoliad mai rhan o’r broses honno o sefydlu’r deyrnas yw ymdrechion Mererid a Chymdeithas y Cymod i ddarlledu hysbyseb o blaid heddwch ar S4C. Gwir oedd llinell gynganeddol Cerwyn Davies, Cadeirydd Cymdeithas Waldo, i ddisgrifio’r ddarlith – ‘Un o’r sêr yw Mererid’.

Cyn y ddarlith dadorchuddiwyd penddelw Waldo o waith y cerflunydd, John Meirion Morris, gan Gerwyn Williams, un o neiaint Waldo, i’w gadw yn Ysgol y Preseli. Wrth dderbyn y rhodd rhoddodd y prifathro, Mike Davies, ddadansoddiad daearyddwr ac addysgwr o’r gerdd ‘Preseli’ a’i lle yng ngweithgareddau’r ysgol.

Rhyfeddod y noson ar 28 Medi 2012 yn Theatr y Gromlech, Crymych, oedd cynifer o bobl a deithiodd o gryn bellter i’r achlysur gan gynnwys Pen Llŷn, Yr Wyddgrug, Y Bala, Caerdydd, Pontarddulais, Bargoed, Ysbyty Ifan, Bedford a Llundain heb anghofio am y gŵr a deithiodd yr holl ffordd o Hirwaun mewn tacsi; Berian Williams oedd prif chauffeur Waldo yn ystod yr ymgyrch etholiadol honno yn 1959 pan safodd fel ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru yn Sir Benfro.

Mae’n rhaid bod gan Waldo afael rhyfedd ar galonnau’r Cymry a hynny dros ddeugain mlynedd wedi’i farw. Terfynwyd y noson gan Gôr Crymych a’r Cylch yn canu ‘Tangnefeddwyr’.

Trannoeth cerddodd nifer o bobl o Garreg Waldo i Landysilio fel rhan o daith dridiau Huw Roberts i godi arian i Ymchwil i’r Galon Cymru.

Tair o’r cerddwyr yn cael hoe

Cafodd y pererinion eu tywys ar draws Parc y Blawd a Weun Parc y Blawd gan Vernon Beynon cyn troi mewn i Westy Nant-y-ffin i gael te.

Darlith Flynyddol 2012 Cymdeithas Waldo from waldo on Vimeo.

Back to top