Ni ellir gwerthfawrogi awen Waldo Williams heb ystyried yr agwedd ddireidus o’i bersonoliaeth ochr yn ochr â’r elfen ddwys. Dyna oedd byrdwn sylwadau’r dramodydd Gareth Miles wrth draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yn Ysgol Uwchradd Botwnnog, Pwllheli, ar nos Wener, Medi 27, 2013. Disgrifiodd sut y blodeuodd digrifwch Waldo yng nghwmni’r dramodydd Idwal Jones nes i’w hiwmor, ar sail limrigau a pharodïau, gael ei adnabod fel ‘Idwaldod’. Soniodd ymhellach am ddoniolwch Waldo wrth sôn am y profiadau rhyfeddaf a ddaeth i’w ran.
Dyna’r tro hwnnw y galwodd mewn tafarn yn Llanymddyfri ar nos Sadwrn am fod yna fwyd yn cael ei ddarparu yno. Ond fe’i hysbyswyd gan y tafarnwr nad oedden nhw’n gwneud bwyd y noson honno. Ymbiliodd Waldo arno ond ei ymateb oedd na fedrai wneud eithriad o Waldo am y byddai cwsmeriaid eraill wedyn am rywbeth i’w fwyta. Ond doedd yna neb arall yn y dafarn. Ymbiliodd Waldo ymhellach ac ildiodd y tafarnwr i roi brechdan gaws iddo. Ond roedd yna amod. Pe bai yna gwsmeriaid yn dod i mewn roedd yn ofynnol iddo gwato’r frechdan o dan y sedd rhag y byddai’r tafarnwr yn cael ei blagio gan geisiadau am fwyd am nad oedd, yn groes i’r wybodaeth ar yr arwyddion y tu fas, yn gwneud bwyd y noson honno Cyrhaeddodd llond bws o chwaraewyr rygbi o Sgiwen.
Dyma’r llabwst mwyaf o’u plith yn gweld fod Waldo yn cnoi rhywbeth ac yn gofyn iddo am grispen. Gwadodd Waldo ei fod yn bwyta crisps. Aeth yn ddadl rhyngddynt ynghylch y ffaith a oedd Waldo’n bwyta crisps neu beidio. Aeth y llabwst i’r tŷ bach. Cynghorwyd Waldo i adael ar unwaith gan y chwaraewyr eraill am fod y llabwst, medden nhw, ‘yn foi mowr dansheris’. Daliodd Waldo ei dir. Ond fe’i harweiniwyd gan y tafarnwr mas i’r pasej i fwyta’r hyn a oedd yn weddill o’r frechdan gaws. Byddai Waldo bob amser yn piffian chwerthin wrth ddweud y stori. Wrth ddiolch i’r darlithydd gwadd cyfeiriodd Robin Llŷn, Llywydd Cyfeillion Llŷn a fu’n gyd-gyfrifol am drefnu’r noson, at y stori honno pan oedd Waldo’n areithio gerbron cynulleidfa o un yn ystod ei ymgyrch etholiadol yn Sir Benfro yn 1959.
Dyma fe’n holi ar y diwedd os oedd gan y gŵr bonheddig gwestiwn neu sylw. Dim ymateb. Eirwyn Charles, yr asiant, yn annog Waldo i ofyn yn Saesneg a’r gŵr yn ymateb wedyn –‘Yes, is it allright if I lock up, now?’. Y gofalwr ydoedd. Cyn y Ddarlith dadorchuddiwyd plac gan Cit Parry, gweddw Gruffudd Parry, un o gyfeillion pennaf Waldo pan oedd yn athro yn Ysgol Botwnnog am ddwy flynedd ar ddechrau’r 1940au. Cyfeiria’r plac hefyd at golled Waldo pan oedd yn yr ardal pan fu farw ei wraig, Linda..Plac Botwnnog (gwasgwch i weld y plac) Cafwyd atgofion am yr athro anghonfensiynol gan ddau o’u gyn-ddisgyblion, Ifan Jones Hughes a John Gruffydd Jones.
Soniodd Ifan am Waldo yn dysgu ‘Geography’ trwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’i ‘bolisi ei hun’ yn hytrach na pholisi’r awdurdod addysg ac am ei wisg a’i ymddangosiad ffwrdd â hi mewn sgidie brown, trywsus rhiciog a gwallt heb weld brws na chrib. “Roedd ei acen yn hudolus ac yntau’n ddyn hoffus, yn wahanol, â’i feddwl yn aml ar gyfyrgoll,” meddai. Cofiai John Gruffydd Jones amdano’n mynd i nofio i’r môr ar fore Sadwrn yng nghwmni Waldo er mwyn i’r athro ‘olchi’r wthnos mas’ fel y dywedai. Ond ddywedodd e ddim bw na ba yn ystod y bore. “A doedd e fawr o nofiwr, dim ond rhyw daro’r dŵr yn ei unfan,” meddai’r disgybl amdano.
Dangoswyd hefyd gopi o’r gyfrol, ‘Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru’, gyda llofnod Waldo arni y daethpwyd o hyd iddi wrth gymhennu’r llyfrgell, yn ôl y prifathro Gareth Jones. Yno i’w weld hefyd roedd cerflun efydd penddelw Waldo o waith John Meirion Morris. Rhag anghofio am ddwyster Waldo canwyd y gerdd ‘Byd yr Aderyn Bach’ gan Gôr Merched yr ysgol a llefarwyd ‘Cofio’ gan Enid Evans. Ac yn ôl yr arfer bellach galwodd Cerwyn Davies, Cadeirydd Cymdeithas Waldo, am ychydig funudau o dawelwch cyn y ddarlith i gofio am ddaliadau Waldo fel Crynwr. I gadarnhau’r cyfeillgarwch a’r cydweithio rhwng cymuned ym Mhen Llŷn a chymuned yn Sir Benfro, trefnwyd taith trannoeth, o dan arweiniad Elfed Gruffydd, o amgylch llefydd yn yr ardal oedd yn gysylltiedig â Waldo a Linda.
Y bore dydd Llun dilynol ail-ddadorchuddiwyd plac yn Hwlffordd i ddynodi man geni Waldo, bellach wrth fynedfa Archifdy’r Cyngor Sir, ar hen safle Tŷ’r Ysgol ym Mhrendergast. Treuliodd Waldo saith mlynedd gyntaf ei fywyd yn y dref a dyna lle ddewisodd brynu tŷ ar ei ymddeoliad. Wrth gymryd rhan yn y seremoni ddadorchuddio wreiddiol bymtheng mlynedd nôl canmolodd Jâms Niclas weledigaeth gwŷr ‘Harfat’ gan derfynu trwy ddweud y geiriau anfarwol, ‘May the eternal light shine on the soul of Waldo Williams’. Wrth i Colin Evans, cyn-brifathro Ysgol Uwchradd Syr Thomas Picton gerllaw, ddadorchuddio’r plac o’r newydd gellid dweud ‘bydded i’r golau tragwyddol ddisgleirio ar enaid Jâms Niclas hefyd’ am ei fod wedi marw ddiwrnod ynghynt.
Yn ystod y seremoni rhannodd Dilys Parry ei hatgofion o fod yng nghwmni Waldo adeg yr etholiad, yn ei ddosbarth nos ac wrth gerdded yng nghwmni’r Crynwyr. Cymrwyd rhan hefyd gan ddisgyblion Ysgol Gymunedol Prendergast ac Ysgol Gymraeg Glan Cleddau. Ar ddydd Sadwrn, Medi 21, dadorchuddiwyd plac wedi’i lythrennu’n gywrain gan y cerflunydd Ieuan Rees ar wal cartref teuluol Waldo yn Rhosaeron, Llandysilio. Gwnaed y dadorchuddio gan nai’r bardd, David Williams. (Gweler lluniau ar dudalen Bywyd a Gyrfa) Cafwyd eitemau gan Gôr Harmo-ni ac Ann Davies. Yr un prynhawn lansiwyd taflen ‘Taith Waldy wefan. Gwerthfawrogir cydweithrediad Dewi John, perchennog Rhosaeron, yn hyn o beth. A’r un modd Vernon Beynon am ganiatáu i griw bychan fwynhau picnic yn Weun Parc y Blawd yn gopsi ar weithgareddau’r prynhawn. (Gweler llun ar dudalen Cerddi)