Waldo Williams
1904 – 1971
Ystyrir Waldo Goronwy Williams yn ffigwr mytholegol. Nid oedd neb a’i hadwaenai yn ei gasáu. Byddai pawb a dreuliai amser yn ei gwmni yn ei anwylo ac yn trysori pob cyfarfyddiad. Roedd plant bychain bob amser yn hoff ohono pan ddeuai i’w dysgu.
Mynna rhai y perthynai iddo nodweddion sant. Yn sicr, roedd ganddo argyhoeddiadau dwfn a direidi difalais. Dywedodd rhywun ei bod wedi cymryd dwy fil o flynyddoedd o wareiddiad Cymraeg i greu dyn fel Waldo. Roedd wedi ei drwytho ei hun yn hanes ei genedl.
Ar un achlysur safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiad seneddol. Er iddo golli ei ernes enillodd llu o edmygwyr. I lawer Waldo oedd bardd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif. I eraill roedd yn heddychwr a ddigwyddai fod yn fardd. Edmygwyd ei safiad yn wynebu dau gyfnod yng ngharchar am wrthod talu treth incwm mewn protest yn erbyn gorfodaeth filwrol a rhyfela.
Pan oedd yn ganol oed ymunodd â’r Crynwyr. Carai’r distawrwydd a’r modd o gyrraedd y canol llonydd yn addoliad y Tŷ Cwrdd. Cyflwynodd ei unig gyfrol o farddoniaeth Dail Pren yn gyfrwng iachâd i’w genedl. Ni wyddom am yr un bardd arall a wnaeth y fath gymwynas â chenedl.
- Teithiau Waldo 2023Yn enw Cymdeithas Waldo trefnodd Llinos Penfold tair o deithiau cerdded pnawn Sul dros yr haf mewn ardaloedd sy’n gysylltiedig … Read more
- Darlith Flynyddol 2023 – John GwilymWrth draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yn Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth ar Fedi’r 29ain dewisodd y cyn … Read more
- Darlith Flynyddol 2022Wrth draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo ar y testun ‘Plentyn y Ddaear – Dychmygu Heddwch’ yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth … Read more