Darlith Flynyddol 2022

Darlith Flynyddol 2022

Wrth draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo ar y testun ‘Plentyn y Ddaear – Dychmygu Heddwch’ yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth ar nos Wener, 30 Medi, sef diwrnod geni Waldo, mynnodd Mererid Hopwood fod Waldo, byth a hefyd yn ei gerddi, yn annog dynoliaeth i ddefnyddio un o’i doniau pennaf sef y gallu i ddychmygu heddwch.

Wrth ddadansoddi’r gerdd ‘Plentyn y Ddaear’ cyfeiriodd at y defnydd o ferfau sy’n gysylltiedig ag agwedd rhyfelwyr; meddiannant, treisiant, dygent, cadwent yn y pennill cyntaf. Esboniodd fod y rhyfelgwn yn ein gwthio i weithredu’n groes i’r drefn naturiol sef gweithredu’n unol â doethineb y ddaear fel yr amlyga cwpledi clo’r tri phennill.

Cyfeiriodd at ribidirês o gerddi eraill megis ‘Cyfeillach’, ‘Adnabod’, ‘Mewn Dau Gae’, ‘Elw ac Awen’ sy’n cyfleu negeseuon cyffelyb. Gresynodd fod dau driliwn o ddoleri yn cael ei wario ar arfau ar hyn o bryd a’r swm yn siŵr o gynyddu. Esboniodd mai afresymol ac nid rhesymol yw dadleuon pleidwyr ‘National Security’ dros wario mwy a mwy ar arfau niwclear er mwyn ein cadw’n ddiogel. Cynyddu’r perygl o ddinistrio’r ddaear a wneir. Ni wna trais ddim mwy na magu trais – a chreu cyfoeth i gynhyrchwyr arfau.

Cyfeiriodd Mererid at benderfyniad Costa Rica i gynghreirio â byd natur trwy gael gwared ar y fyddin. Ma’ nhw wedi newid y drefn yn hytrach na thincran ar hyd ei hymylon meddai. Cyfeiriodd mor rhesymol yw’r ddeddf sy’n rhwystro rhieni ac athrawon rhag rhoi’r gansen i blant ond mor afresymol mewn cymhariaeth yw rhoi rhwydd hynt i lywodraethau ddefnyddio’r gansen arfog.

Cyfeiriodd y darlithydd hefyd at y stori fer ‘Y Darlun’ o eiddo Waldo lle sonnir am Twmi’r bachgen ifanc yn torri’r gyllell o law Abraham yn y darlun ohono yn Y Beibl gan wneud gwaith Crist ar ei ran yn ôl y gweinidog. Ymddengys mai gan y diniwed y mae’r weledigaeth glir. Mae’n debyg mai dyna’r prif reswm pam y cyflwynodd Waldo £100 a roddwyd iddo gan Gyngor y Celfyddydau yn gydnabyddiaeth am y gyfrol ‘Dail Pren’ i UNESCO er mwyn sefydlu cyrsiau i ddysgu plant am heddwch.

Clymodd Mererid hyn oll gyda’r syniad o ddychmygu heddwch fel yr anoga Waldo ac mai dyna’r ffordd yn y pendraw i ddynoliaeth gydfyw â’r ddaear mewn heddwch. “Dychmygwch” meddai “pe bai Boris Johnson wedi mynd i’r Wcráin a chynnig cyflafareddu yn hytrach na chynnig rhagor o arfau.” Dychmyger ymhellach pe bai mwy o arian yn cael ei wario gan lywodraethau ar anghenion dyngarol gwledydd eraill nag ar arfau i’w cadw yn eu lle a bwrw ati wedyn i frolio hynny.

Cawsom wybod bod meddyliwr yr oedd gan Waldo dipyn o feddwl ohono, Nikolai Berdyaev wedi’i fagu yn Kiev. Pwysleisiai’r elfen ysbrydol a berthyn i ddyn. Credai’r darlithydd fod Waldo am weld dynoliaeth yn cynghreirio gyda’r ddaear a byd natur i waredu cenfigen a fyddai wedyn yn arwain at waredu’r fasnach arfau. Fe’n hysbysodd fod heddychwyr o’r Wcráin megis Yurii Shelizhenko o’r un farn. Gwnaed datganiad gan heddychwyr yno’n galw am orseddu’r gwirionedd a phwyllo er mwyn dynesu at fwrdd trafod ac yna yn yr hir dymor bwrw ati i gynorthwyo’r anghenus ac ymgyrchu dros addysg heddwch.

Yn ddiddorol dangoswyd llythyr yn llawysgrifen y newyddiadurwr Gareth Jones o’r Barri oedd yn cyfeirio at Waldo fel “fiery socialist, poet and idealist, long hair, unkempt”. Llofruddiwyd Gareth, a oedd yn gyn-fyfyriwr Coleg y Brifysgol Aberystwyth, wedi iddo ddinoethi newynu bwriadol y wladwriaeth Rwsiaidd Gomiwnyddol yn Wcráin.

Trefnwyd y ddarlith ar y cyd gan Gymdeithas Waldo, Sefydliad Joseff Herman ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth. Roedd y ddarlith yn addasiad o’r ddarlith na lwyddodd Mererid ei thraddodi yn yr Eisteddfod Genedlaethol oherwydd salwch. Tynnodd gymhariaeth rhwng Joseff Herman, yr arlunydd o Iddew, a oedd yn grefftwr paent a Waldo a oedd yn grefftwr geiriau.

Roedd llawer o waith Herman, a ymsefydlodd yn Ystradgynlais, yn dangos pobl yn agos at ei gilydd yn union fel cerdd ‘Preseli’ Waldo. Roedd Mererid yn ei thro yn cyflwyno’r ddarlith yn lle John Gwilym Jones a oedd wedi gorfod tynnu nôl oherwydd salwch teuluol. Cadeiriwyd y noson gan y Parch Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Cymdeithas Waldo.

Mae’r ddarlith gyfan i’w chlywed yma

Taith Flynyddol

Ar fore’r ddarlith trefnodd Menter Iaith Sir Benfro daith gerdded o Festri Bethel, Mynachlog-ddu at Garreg Waldo ar Gomin Rhos-fach. Bwriedir gwneud y daith yn ddigwyddiad blynyddol. Paratowyd lluniaeth ar gyfer y cerddwyr gan aelodau o Ferched y Wawr.

Rhai o’r cerddwyr wrth Garreg Waldo

Waldothon

Trannoeth y ddarlith trefnwyd yr hyn a alwyd yn Waldothon wrth i ugain o gylchoedd ledled Cymru fwrw ati i ddarllen holl gerddi cyhoeddiedig Waldo gan gyfrannu swm o £5 neu fwy am yr anrhydedd o wneud. Codwyd dros £3,000 i Gymdeithas Waldo. Trefnwyd y Waldothon gan Alun Ifans. Ni wyddys eto a fydd yna Waldothon y flwyddyn nesaf.

Criw ‘Nachlogddu yn cymryd rhan yn y Waldothon

Bwrseriaeth

Dwy o fyfyrwyr yr Adran Gymraeg, Catrin Ann Jones a Megan Lewis, a dderbyniodd fwrseriaeth yr un ar sail y gwaith a wnaed ganddynt am Waldo. Yn y canol Eluned Richards a Teifryn Williams, nith a nai’r bardd. Y teulu sydd wedi noddi’r ysgoloriaeth.

ENEIDIAU CYTUN – CHWAER BOSCO A DAVID REDPATH

Bu farw un o Lywyddion Anrhydeddus Cymdeithas Waldo, y Chwaer Bosco, ar Ebrill 10 – Sul y Blodau. Roedd yna berthynas glos rhyngddi hi a Waldo pan oedd hi’n byw yn Hwlffordd. Hi ddywedodd pan fu farw Waldo: “Mae enaid Waldo wedi esgyn ar Ddydd Iau Dyrchafael”. Roedd yn fawr ei gofal amdano ac yn ei ymgeleddu yn ystod ei waeledd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd.  Yn ddiweddarach dychwelodd i Iwerddon ac ymgartrefu yng Nghwfaint Chwiorydd Trugaredd yn Cahir. Roedd yn ei 90au hwyr. Newydd farw mae un arall a anwylai Waldo hefyd sef y Crynwr David Redpath yn ddeg a phedwar ugain oed. Cydaddolent yn Nhŷ’r Cyfeillion ym Milffwrd. Clywid elfen o ryfeddod yn llais David bob amser pan soniai am ei gyfaill.

Back to top