Clod i’r cyfansoddwr – ‘Preseli’ ar gael i’w chanu a’i llefaru 

Clod i’r cyfansoddwr – ‘Preseli’ ar gael i’w chanu a’i llefaru 

Eric Jones yn derbyn cymeradwyaeth Côr Crymych a’r gynulleidfa 

Mae Cymdeithas Waldo wedi cyflawni sawl gorchest ers ei sefydlu yn 2011. Ond hwyrach mai’r pennaf o’r rheiny oedd comisiynu’r cyfansoddwr cerdd Eric Jones i osod y gerdd ‘Preseli’ ar gân. Clywid ffrwyth ei ymdrechion yng Nghapel Pisga, Llandysilio, nos Wener, Mai 10 pan aeth Côr Cymysg Crymych i’r afael â hi.  

Roedd y gŵr o’r Hendy eisoes wedi cael hwyl ar un arall o gerddi Waldo, ‘Y Tangnefeddwyr’ sydd yn rhan o repertoire bron pob côr. A’r gair a glywid amlaf wedi’r datganiad cyntaf ym Mhisga oedd ‘sbeshal’ er yn derbyn y bydd angen ei chlywed eto ac eto cyn ei llwyr werthfawrogi. Ond roedd hi wedi plesio. Mae i’w chlywed ar y recordiad uchod o fewn rhyw bum munud. 

Yn rhan o’r cyngerdd mawreddog roedd Parti’r Gromlech hefyd yn canu fersiynau cerdd dant o rai o gerddi’r bardd a fagwyd yn y pentref megis  ‘Yr Iaith a Garaf’ a ‘Detholiad o Englynion Y Daten’ yn ogystal â darnau eraill o dan arweiniad  Eleri Roberts a Marian O’Toole yn cyfeilio ar y delyn. Bu Siôn Jenkins yn llefaru’r gerdd ‘Preseli’ yn ogystal â chyfieithiad ohoni o waith Menna Elfyn yn ogystal â cherddi o’i waith ei hun. 

Mae llais Siôn i’w glywed yn union ar ôl y datganiad o ‘Preseli’ ac yna lleisiau Parti’r Gromlech i’w clywed cyn cyfraniad pellach gan Siôn ac yna cyfraniad pellach gan Barti’r Gromlech. 

Bonws oedd presenoldeb y tenor, Elis Jones, a’r bariton, Siôn Eilir Roberts o ardal Rhuthun. Y naill yn syrfeīwr gwledig a’r llall yn arwerthwr da byw o ran eu galwedigaethau ond wedi gwneud eu marc cerddorol ar lefel genedlaethol. Ceir pedair eitem gan y ddau tua’r diwedd gydag Eirian Owen yn cyfeilio. Terfynwyd y cyngerdd yn briodol gan y côr yn canu ‘Y Tangnefeddwyr’ gyda Wendy Henderson yn arwain ac Elin Ennis yn cyfeilio. 

Nodwyd hefyd ar y rhaglen gynhwysfawr a rannwyd bod Cymdeithas Waldo yn uniaethu ei hun â dyheadau dwfn y bardd, yr heddychwr a’r Crynwr dros ddileu pob rhyfel yn y gred bod “rhwydwaith dirgel Duw yn clymu pob dyn byw”. 

A hithau yn 120 mlynedd ers geni Waldo mae’n briodol bod yna weithgareddau eraill yn cael eu trefnu yn ystod y flwyddyn. Y pen llanw blynyddol yw’r Ddarlith Flynyddol ac yn traethu eleni fydd Menna Elfyn yn Aberystwyth ar gampws y brifysgol nos Wener, Medi 27. Teitl ei darlith fydd ‘Waldo: Bardd y Lleiafrif Aneirif’. 

Darlledwyd Talwrn y Beirdd arbennig ar Radio Cymru hefyd ac fe fydd y rhaglen deledu ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’ yn neilltuo dwy raglen i gofnodi ‘Cymanfa Cofio Waldo’, a recordiwyd yng Nghapel Bethel, Mynachlog-ddu  gyda Nia Roberts yn cyflwyno. Fe ddangosir y gyntaf ddiwedd mis Medi a’r ail ym mis Rhagfyr. 

A’r gynulleidfa ar y galeri yng Nghapel Pisga yn cymeradwyo hefyd 

Back to top