
Aelodau’r ddau dîm ynghyd â’r Meuryn (a Waldo). Cyfartal oedd yr ornest.
Parc y Blawd a Weun Parc y Blawd
Daeth tyrfa dda ynghyd i Neuadd Bwlch-y-groes ar Fawrth 25 ar gyfer recordiad o ddwy raglen o’r Talwrn gan y B.B.C. dan ofal y Prifardd Ceri Wyn Jones. Yn y rhaglen gyntaf curwyd tîm Llangrannog gan dîm Y Ffoaduriaid o Gaerdydd a fydd yn symud ymlaen i’r ail rownd. Roedd naws tipyn mwy lleol i’r ail recordiad gyda dau dîm â chysylltiadau agos â Sir Benfro yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn Talwrn arbennig fel rhan o’r gweithgareddau a drefnir gan Gymdeithas Waldo i ddathlu cant ac ugain o flynyddoedd ei eni yn 1904.
Y ddau dîm oedd yn wynebu ei gilydd oedd tîm Parc y Blawd a thîm Weun Parc y Blawd sef y ddau barc a enwir yng ngherdd enwog Waldo ‘Mewn Dau Gae’. Aelodau ‘Parc y Blawd’ oedd Terwyn Thomas, Geraint Volk, Rhiannon Iwerydd, Lefi Dafydd a Rachel James ac aelodau ‘Weun Parc y Blawd’ oedd Mererid Hopwood, Jo Heyde, Eifion Daniels, Cerwyn Davies a Wyn Owens.
Cystadleuaeth rhwng Rhiannon a Jo gafwyd yn y gystadleuaeth gyntaf sef trydargerdd ar y testun Gair o Blaid. Dewisodd Rhiannon fabwysiadu geiriau Vaughan Gething, ein Prif Weinidog newydd fel thema a fe sy’n siarad yn y darn â’r rhodd ddadleuol a dderbyniwyd ganddo yn gefndir.
“O blaid y blaned trof y gweithlu’n egin byw
a’n gwlad yn berllan werdd.”
…Ond er bo’r neges fel y gwanwyn
a’i hadau’r haf sydd yn fy llaw
neu gnwd o gynhaeaf gwyw
a’i fryntni’n llygru’r geiriau?
Cefndir go wahanol sydd i drydargerdd Jo – neb llai na Putin. Tybed a fyddai’n byd heddi’n wahanol petai ei fam wedi dweud “Paid”?
Mor dawel oedd, fel plentyn,
ac un na chlywodd “Paid!”
a dyma’n cyfaill Putin,
(a’i fam â gair o’i blaid.)
Wedyn cafwyd cystadleuaeth rhwng Rachel a Mererid ar gwpled caeth yn cynnwys y gair ‘lweth’ neu ‘weth’. Fel mae’n digwydd dewisodd y ddwy yr un ymadrodd ‘nawr ag lweth’:
“O leia, nawr a lweth,
Y mae’r houl am herio’r heth.”
Ac yna Mererid dan y penawd ‘Y Bod Mawr’
Wa’th pwy yw, se’n eitha peth
‘i gliwed nawr ag lweth.
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Roedd bachan o ardal Tyddewi’ oedd tasg y ddau limrigwr profiadol Lefi ac Eifion. Ymdrech Lefi yn gyntaf:
Mewn creisis, mewn twll o dŷ cyri
Roedd bachan o ardal Tyddewi
Yn gweiddi: “Rhy bwêth!
Dewch â phopadom weth,
Ma’n nwy deth i’n dachre mudlosgi!’
Ac yna Eifion
Roedd bachan o ardal Tyddewi
A’i enw teuluol oedd ‘Grafi’,
Priododd Samantha,
Dechreuo nhw blanta
A galwo nhw’r cynta yn Ceri.
A barnu wrth ymateb y gynulleidfa gwerthfawrogwyd y ddwy limrig!
Mae’n debyg mai un o gystadlaethau mwyf safonol y noson oedd y ‘Cywydd Mawl neu gywydd dychan i unrhyw bentref neu dref yn Sir Benfro’. Y ddau gapten, sef Terwyn a Mererid, oedd ben ben a’i gilydd ar hon. Yn ddigon naturiol cywydd i Fwlch-y-groes a gafwyd gan Terwyn ……’hen grwt o Fwlch-y-groes’.
“Y mae un yma heno
â’i fryd, o ddychwel i’w fro,
ar ddenu nawr ddoe yn nes,
i rannu pob rhyw hanes;
siarad am ‘gymeriade’
gwâr a garw’n llanw’r lle.
Mae murddun pob bwthyn bach
yn llunio trywydd llinach;
a daw hwyl sôn am deulu
a hafan aur oes a fu.
Yma heno’n gymuned
y mae criw sy’n dwym eu cred
i rannu awch i roi nôl
ddoniau, a gwedd wahanol;
rhoi ag afiaith bro gyfoes
i hen grwt o Fwlch-y-groes.”
Dewisodd Mererid ddyfyniad allan o ‘Crwydro Sir Benfro’, yr ail ran gan E. Llwyd Williams fel cefndir i’w chywydd hi: “Hawdd gwybod pwy yw pwy, achos ma’ plant Llunden yn drichid lawr i’r dŵr, ond ma’ plant Tydrath yn drichid draw dros y dŵr”:
“Glywn i gytgan y llanw
petawn i’n eu Newport nhw?
A cherdd dewin Pen Dinas
a’i llinell bell? Neu ddŵr bas
dieiriau’r dwedyd arall
a ddoi â’i iaith fyddar-ddall?
A’i staen wen, neu’n tystion ni
yn englyn uwch Carn Ingli
a welwn mewn cymylau
yn yr haf a hi’n hwyrhau….?”
Ac mae’r gân glywyd ganwaith
â’i dal dig a’i dadl dwy iaith,
cân na fynnaf ei chanu,
siwrne ‘to’n fy hawlio’n hy’.
“Twsh baw! Der, boed law neu wlith
na feindia – ‘na sy fendith -,
heibio’r iaith mor fain ei brath,
der di adre i Didrath.”
Neges ganolog y darn yw apêl arnom i beidio digalonni a throi cefn ar ein hetifeddiaeth yn sgîl y mewnlifiad ond cofleidio’n werthfawrogol ein hiaith a’n diwylliant. Er mai Tidrath yw cefndir y darn hwn mae ‘run mor berthnasol i bob tref a phentref yng Nghymru.
Triban Beddargraff i ffermwr tato oedd tasg Rachel a Cerwyn. Dyma driban Rachel:
“Er trin y tir yn llawen
A’r gwrysg yn llenwi’r gefnen,
Pa ots os oedd y cnwd yn fach –
Dwyt bellach werth ‘run daten.”
Mae diweddglo triban Cerwyn dipyn gwahanol!
“O dan y gwrishg yn pwdru
Yn dilyn trin a’r ‘setu’,
Ac wedi cyffro’r trydydd Dydd,
Mi fydd ‘na dato newy’.
‘Palas’ oedd testun y gerdd rhwng 12 a 18 llinell a Terwyn a Jo yn dehongli’r testun mewn ffyrdd gwbl wahanol i’w gilydd. Cerdd i gofio Waldo a geir gan Terwyn gyda’r gair ‘palas’ wrth reswm yn ein hatgoffa am ddefnydd Waldo o’r gair yn ei gerdd enwog ‘Preseli’. Mae Terwyn yn cymharu llwybr Waldo ag un Osian o lên gwerin Iwerddon.
“Dilynodd yr Osian anfodlon
lwybrau ffoadur
i chwilio am y gobaith
yn Nhir na Nog,
a’r addewid yn llais ei Nia’n
ei ddenu i fyd gwag.
Cerddaist dithau lwybrau,
llwybrau’r pererin
i sicrhau arweiniad
y cwmwl tystion
a’i adnabod yn nwfn dy galon;
fe’th dywysodd yn dyner
at y ffenestr
i wylio’r wennol yn dychwelyd.
Dehongliad gwbl wahanol a geir gan Jo ond yma eto ceir enghraifft o ddeuoliaeth ein byw.
“Bron iddi waltsio yn ei sliperi ffansi,
o’r gegin i’r cyntedd i’r lolfa,
a’i brws plu yn tincial crisial y lampau crog;
llonyddwch mawr yn llenwi’r lle…
dethol llestri arian i’r seidbord
a hymian-gaboli ei horiau rhydd,
tra bo’r haul yn euro fleurs-de-lys y papur flock;
codi llun o’i mam a’i thad, a gweld, am eiliad,
wytnwch cymuned-stepen-drws,
ac ymdrech cadw tŷ
ond dwstia’r sepia ymaith,
a mynd lan stâr i wirio sglein yr ensuite,
a’i Marigolds yn gwichian ar sioe o deils.
gŵyr daw brad y cloc am bump ar ei ben
a bydd yntau yno ar drothwy ei lys,
yn disgwyl, disgwyl….
a hithau’n gorfod ffugio gwên y fargen
rhwng muriau cyfyng yr hwyr.”
Tasg fwyaf gwreiddiol y noson oedd y parodi ysgafn o’r gerdd ‘Preseli’. Yn anffodus nid yw gofod yn caniatau cynnwys y ddau barodi gan Geraint a Wyn ond fe allai’ch sicrhau bo’r ymdrechion yn profi’n ddigwestiwn fod gan y ddau ddychymyg byw iawn!

Yn sicr roedd hon yn noson gofiadwy. Cyfartal oedd y sgôr! Llongyfarchiadu mawr i’r ddau dîm a diolch i bawb fu’n ynghlwm â threfnu’r noson.
Rachel Philipps James