![Darlith Flynyddol 2024 – Menna Elfyn, a mwy](http://www.waldowilliams.com/wp-content/uploads/2024/05/Menna-e1715931848195.png)
Waldo: Bardd y Lleiafrif Aneirif
Darlithydd gwadd Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo eleni ar gampws Prifysgol Aberystwyth nos Wener, Medi 27 fydd Menna Elfyn o Gaerfyrddin. Mae Menna yn adnabyddus am gyhoeddi cyfres o gyfrolau o farddoniaeth sydd gan amlaf yn cynnwys cyfieithiadau.
Cyfrol o’r enw ‘Bloedd’ sy’n cynnwys cyfieithiadau i’r Arabeg yw’r ddiweddaraf. O ganlyniad caiff wahoddiadau cyson i ddarllen ei gwaith mewn gwyliau llenyddol ar draws y byd. Mae cyfrol arall o’i gwaith ei hun ar fin cael ei chyhoeddi hefyd gan gyhoeddwyr Bloodaxe o dan y teitl ‘Parch’.
Mae hefyd yn gweithio ar gyfrol o gyfieithiadau o gerddi Waldo Williams y gobeithir ei chyhoeddi’r flwyddyn nesaf. Yn wir cafodd ei chyfieithiad o’r gerdd ‘Preseli’ ei llefaru gan Siôn Jenkins mewn cyngerdd yng Nghapel Pisga, Llandysilio, nos Wener Mai 10. Y noson honno perfformiwyd trefniant cerddorol Eric Jones o’r gerdd ‘Preseli’ am y tro cyntaf gan Gôr Cymysg Crymych.
Mae fersiwn sain o’r gyngerdd i’w glywed ar y wefan hon a hynny yn ei gyflawnder a bydd ar gael tan ganol mis Mai 2025.
Mae’n rhaid y bydd gan Menna dipyn i’w ddweud am deithi meddwl Waldo o ganlyniad i’w hymdrech i drosi ei feddyliau ac efallai ambell atgof teuluol am y bardd ei hun.
A hithau yn 120 mlynedd ers geni Waldo hwyrach bod mwy o weithgareddau nag arfer wedi’u trefnu eleni. Fe fydd yna dair taith gerdded ‘Dilyn Llwybrau Waldo’. Y gyntaf fore Sadwrn Mai 25 yn Llandysilio yn dilyn ei lwybrau bachgendod a’r cysylltiadau teuluol. Cyfarfod ym maes parcio Pisga am 11 o’r gloch a paned yn y festri wedyn.
![](http://www.waldowilliams.com/wp-content/uploads/2024/05/Picture1.jpg)
Vernon Beynon yn rhannu ei atgofion am Waldo yn Weun Parc y Blawd
Bydd yr ail daith fore Sadwrn Mehefin 29 wrth Gapel Millin gan gerdded lawr at y Dderwen Gam a’r drydedd fore Sadwrn Gorffennaf 27 yng Nghasmael gan gyfarfod wrth yr ysgol. Arferai Waldo gysgodi yng Nghapel Millin cyn cerdded neu seiclo lawr at lan Afon Cleddau i ryfeddu at doriad gwawr. Ac wrth gwrs bu’n brifathro yn Ysgol Casmael ar adeg yr Ail Ryfel Byd.
![](http://www.waldowilliams.com/wp-content/uploads/2024/07/Picture5.jpg)
Teifryn, nai Waldo, yn darllen y gerdd ‘Y Dderwen Gam’ wrth y dderwen gam