Teithiau Waldo 2023

Teithiau Waldo 2023

Yn enw Cymdeithas Waldo trefnodd Llinos Penfold tair o deithiau cerdded pnawn Sul dros yr haf mewn ardaloedd sy’n gysylltiedig â Waldo Williams. Wrth reswm roedd y gyntaf ar Fai 7fed yn ardal Mynachlog-ddu lle treuliodd y bardd rhyw bedair blynedd o’i blentyndod gan ddarganfod a dysgu’r Gymraeg wrth chwarae gyda’i gyfeillion.

Aed heibio’r ysgol lle’r oedd ei dad yn brifathro a thŷ’r ysgol lle’r oedd y teulu yn byw. Bu rhaid oedi wrth Garreg Waldo ar gomin Rhos-fach a thraddodi’r stori honno am Americanwyr a gredai mai march oedrannus o blith yr holl ferlod mynydd a welwyd gerllaw oedd yn cael ei gofio. Aed cyn belled â Phatshin Glas gyferbyn â Dangarn cyn troi nôl i Festri Bethel i fwynhau lluniaeth wedi’i baratoi gan aelodau o’r Gymdeithas.

Mentrwyd i ddinas Tyddewi ar gyfer yr ail daith ar Fehefin 4ydd a cherdded rhan o lwybr yr arfordir ger Caerfai cyn dychwelyd i gael lluniaeth yng nghartref un o’r  criw, Susan Cohen, siaradwraig newydd. Uchafbwynt y prynhawn oedd gweld copïau o’r llyfrau Pebidiog sydd mor hardd ag unrhyw lyfr a gynhyrchwyd gan Wasg Gregynog. Mae’r tri llyfr yn ymwneud â Phenrhyn Dewi ac yn cynnwys darnau o gerddi Waldo wedi’u darlunio’n bwrpasol. Dim ond 1,000 o gopïau sydd wedi’u cyhoeddi.

Dyma’r modd y mae’r ffotograffydd Marcus Oleniuk yn cyfleu’r gerdd ‘Mewn Dau Gae’ yn y gyfrol ‘Pebidiog’.

Soniwyd hefyd am gysylltiad Waldo ag un o drigolion brith Tyddewi sef  Raymond ‘Togo’ John a’i ymdrechion ofer i’w ddiddyfni oddi ar y ddiod. Mynnai Raymond fod Waldo wedi dweud wrtho mai ei fwriad oedd enwi ei gyfrol yn ‘Dail y Pren’ ac nid ‘Dail Pren’. Be wnâi’r ysgolheigion o hynny tybed?

Anfonodd Mary John, mam Raymond, siec sylweddol at neiaint Waldo wedi’i farwolaeth, yn gydnabyddiaeth am ei ymdrechion i gynorthwyo ei mab. Ni chafodd y siec erioed ei gyflwyno i’r un banc. Roedd Mary hefyd wedi mynnu gwneud cyrtens i Waldo pan brynodd dŷ yn Hwlffordd.

Bu rhaid oedi wedyn y tu fas i hen westy Allendale i atgoffa ein hunain y fath effaith fyddai Waldo yn ei gael ar gyfeillion. Daeth yn ben partners â Johnny ‘Batch’ Thomas a hynny i’r fath raddau y byddai’r ddau yn chwedleua i’r fath raddau nes byddai Waldo’n anghofio mynychu’r darlithoedd roedd i fod eu traddodi yn yr ardal. A hynny ar ôl i Johnny ddwrdio ei wraig yn y lle cyntaf am adael ‘shwt drempyn yr olwg’ i letya yn eu gwesty!

Waldo a Johnny ‘Batch’ yn 1955

Cynhaliwyd y drydedd daith yn Rhoscrowdder y tu hwnt i Benfro ar Orffennaf 2il ac aed i fferm Hoplas, cartref un arall o gyfeillion mynwesol Waldo sef Willie Jenkins. Ar dir y fferm, wrth i’r haul fachlud, y cyfansoddwyd y gerdd ‘Cofio’, sydd yn dal yn gymaint o ffefryn, nôl yn 1931. Roedd Waldo am gyflwyno’r gyfrol ‘Dail Pren’ i Willie Jenkins ond ni fynnai yntau mo hynny.

Hawdd deall eu bod yn eneidiau hoff cytûn o gofio fod Willie wedi treulio rhan helaeth o’r Rhyfel Byd Cyntaf yng ngharchar Wormwood Scrubs am ei fod yn heddychwr. Roedd hefyd wedi sefyll sawl etholiad yn enw’r ILP cynnar ac wedi’i ddadrithio pan roddodd y blaid y gorau i egwyddorion heddychiaeth.

Bonws oedd cael cwmni Gwen Smith a fu’n rhannu cof ei phlentyndod o Willie Jenkins a hithe wedi’i magu ym Mwthyn Hoplas. Cofiai fynd i gyrchu llaeth o’r ffarm ar ei beic bob dydd ac am Mr Jenkins yn gadael y ffarm mewn tacsi yn gwisgo hat uchel i ddal trên i fynychu cyfarfodydd yn Llundain. Cofiai’n dda mai Gwyddeles o’r enw Miss Donohue oedd yr howscipar a charcharor rhyfel o Almaenwr o’r enw Otto oedd y gwas.

Gwen Smith yn rhannu eu hatgofion

Bu’r teithiau yn fodd i ddangos pa mor angerddol oedd Waldo yn ei berthynas ag unigolion y teimlai bod yna rinweddau arbennig yn perthyn iddyn nhw. Ni ollyngai afael ar gyfeillgarwch o’r fath pa anawsterau bynnag ddeuai i’r amlwg.

Roedd yna bererinion wedi teithio o Gaernarfon, Penrhyncoch, Aberystwyth, Tewkesbury ac Aberaeron ac o bob rhan o Sir Benfro i ymuno â’r teithiau. Melys moes mwy y flwyddyn nesaf.

Back to top