Darlith Flynyddol 2023 – John Gwilym

Darlith Flynyddol 2023 – John Gwilym

Wrth draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yn Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth ar Fedi’r 29ain dewisodd y cyn Archdderwydd, y Parch John Gwilym Jones, ‘Plentyn y Ddaear’ fel ei destun.

Yr Athro Mererid Hopwood yn croesawu pawb i’r ddarlith.

Soniodd am ei atgofion personol o weld Waldo a’r argraff roedd wedi’i greu arno. Y tro cyntaf oedd yn ysgoldy Mynachlog-ddu pan oedd tua deng mlwydd oed a sylwi fod Waldo fel bardd yn ‘wahanol’. Roedd yn gwisgo trywsus byr a newydd fod am dro yng nghwmni Cassie Davies, yr addysgwraig. “Roedd fflach plentyn i’w weld yn ei lygaid ac ni pheidiodd â bod yn blentyn” meddai.

Cyfarfyddiad nodedig arall oedd ym Mhontgarreg yn 1965 ar achlysur trafod Cyfansoddiadau Buddugol Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn.  W. D. Williams, Y Bermo oedd wedi ennill y Gadair ar y testun ‘Yr Ymchwil’. Tipyn o ganmol gan bawb a’r un modd gan Waldo pan gododd ar ei draed. Roedd y gerdd yn son am ddarganfod yr ogof honno yn Lascaux, Ffrainc lle’r oedd darluniau o anifeiliaid i’w gweld wedi’u llunio 20,000 o flynyddoedd ynghynt.

Yn sydyn dyma Waldo yn disgyn ar ei liniau yn yr ale fel crwt yn ei gwrcwd yn yr ogof ac yn codi’i ben i weld rhyfeddod y lluniau ar y wal. Hynny yw dadleuai Waldo y gallai’r bardd fod wedi mynegi’r darganfod yn llawer mwy dramatig. “Roedden ni i gyd gyda Waldo yn yr ogof y foment honno” meddai’r darlithydd.

Ychwanegodd fod yr elfen honno yn chwarae rhan amlwg yng ngwersi ysgol Waldo a chyfeiriodd at ei rwystredigaeth wrth rannu ystafell gydag athrawes nad oedd o’r un anian pan oedd yn athro yn Lyneham. ‘Agor mas’ oedd ymadrodd Waldo i ddisgrifio’r elfen ddramatig honno y credai oedd yn angenrheidiol i wneud gwers yn gofiadwy i’r disgybl trwy ymestyn eu dychymyg.

Mynnai fod gan Waldo’r athro berthynas arbennig gyda’i ddisgyblion a bod hynny i’w weld yn y llun enwog hwnnw yng nghyfres Cyngor y Celfyddydau. Edrych lawr ar y plant o’i amgylch ac nid ar y camera a wna’r athro. Ac mae’r plant hwythau yn cyfleu llawenydd.

Aeth ati i ddadansoddi’r gerdd dafodieithol ddramatig ‘Galw’r Iet’. Mae’n bosib mai cyfeirio at dollborth a wneir a thrafaeliwr yn gweiddi am ei hagor er mwyn iddo gael mynd ar ei daith. Ond mae’r penillion yn galw arno i oedi i werthfawrogi byd natur o’i gwmpas a choleddu golud heblaw am olud materol.

Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo Williams – y Parch John Gwilym Jones

Cafwyd goleuni o’r newydd ar gerdd gynnar arall ‘Dychweledigion’ sy’n folawd i bobl Sir Benfro waeth beth yw eu tras; y ‘fenyw pysgod’ o Langwm yn gymaint rhan o’r sir a’r amaethwr Twm Pen-lan. Hynny meddid yn dangos nad oedd brogarwch yng ngolwg Waldo yn rhannu dynoliaeth ond yn ei dynnu ynghyd.

Tair o fyfyrwyr yr Adran Gymraeg – Betsan, Megan a Rebecca – yn cael eu llongyfarch gan Eluned Richards, nith Waldo, wrth i ysgoloriaeth a noddir gan y teulu gael ei ddyfarnu iddyn nhw.

Cyfeiriwyd at y gair ‘bach’ yn y llinell ‘Geiriau bach hen ieithoedd anghofiedig’ yn y gerdd ‘Cofio’. Esboniwyd mai’r geiriau bach yw hanfod sylfaenol iaith tra bo geiriau mawr yn medru newid eu hystyr. Mae camddefnyddio arddodiaid megis ‘fi yn’ yn cyhoeddi dirywiad iaith.

Hwyrach mai’r datganiad mwyaf syfrdanol oedd y datgeliad fod tebygrwydd rhwng Waldo ac Iesu Grist o ran anian am eu bod ill dau yn barod i dderbyn cymwynasau. Roedd y ddau yn barod i letya gyda chyfeillion. Doedd yna ddim balchder mewn eiddo na thrigfannau. Y ddau yn gweld y cenhedloedd fel plant yn eistedd o amgylch yr un ford yn rhannu lluniaeth. Y ddau yn ein codi i dir uwch yn foesol a deallusol.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Parch Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Cymdeithas Waldo, ac roedd nifer wedi ymuno i wrando ar-lein.

Y criw yn barod i adael y Festri ar Daith Gerdded Waldo

Trannoeth i’r ddarlith am yr ail flwyddyn yn olynol trefnwyd Taith Gerdded Waldo gan Fenter Iaith Sir Benfro o Festri Bethel, Mynachlog-ddu at y Garreg Goffa ar Gomin Rhos-fach. Cafodd y daith ei ffilmio gan griw teledu BBC Cymru ar gyfer un o raglenni ‘Weatherman Walking’ Derek Brockway. Cafwyd cwmni Mererid Hopwood wrth y Garreg i lefaru’r gerdd ‘Preseli’.

Mererid Hopwood yn llefaru ‘Preseli’ ar gyfer y camera

Back to top