Darlith Flynyddol 2022

Darlith Flynyddol 2022

Cynhelir y Ddarlith Flynyddol eleni  yn Ystafell y Cyngor, y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth am 5.30pm nos Wener, Medi 30. Y darlithydd gwadd fydd Mererid Hopwood (oherwydd anallu John Gwilym Jones i fod yn bresennol am resymau teuluol). Ei thestun fydd ‘Plentyn y Ddaear’ a dyma’r cefndir:

“Un adnod y byddaf yn ei chysylltu â Waldo bellach yw: “Oddieithr eich troi chwi a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.” Ar hyd ein bywyd byddwn yn ymdrechu i ymddangos yn aeddfed, yn aeddfed mewn ymddygiad, aeddfed ein barn ac aeddfed ein syniadau. Nid ymdrech fel yna a welir ym mywyd Waldo, ond rhyw ryddid i fod yn naturiol ifanc. Doethion aeddfed y byd hwn sy’n blentynnaidd.”

Am wybodaeth ynghylch tocynnau/gwrando ar-lein cysylltwch â cymraeg@aber.ac.uk / 01970 622137 Gweinir te/coffi am 5pm. Trefnir yr achlysur gan Gymdeithas Waldo, Sefydliad Joseff Herman ac Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth.

Trannoeth cynhelir Waldothon pan fydd ugain o arweinyddion grwpiau ar draws Cymru yn trefnu darllen tua 20 o gerddi’r un o waith Waldo. Gwahoddir unigolion ar draws y wlad i noddi’r darlleniadau fesul £5 y gerdd.

Trefnir yr achlysur gan Alun Ifans:

“Mae 317 o gerddi Cymraeg a 27 o gerddi Saesneg yng nghyfrol Alan Llwyd a Robert Rhys, ‘Cerddi Waldo 1922–1970’ (Gwasg Gomer: 2014) sy’n gwneud cyfanswm o 344 i gyd.

Meddai’r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd:

“Mae boddhad i’w gael bob amser wrth droi at gerddi Waldo. Pleser ychwanegol yw eu darllen yn uchel, gan brofi’r rhythmau pwerus a sain esmwyth y geiriau. Ar ben hynny, bydd yr achlysur yn codi arian i gadw’r cof am y bardd yn agos at glust ei wlad. Bydd yn brofiad i’w werthfawrogi ar sawl cyfri!”

Gellir cysylltu ag Alun i gael mwy o wybodaeth: alunifans@hotmail.com

ENEIDIAU CYTUN – CHWAER BOSCO A DAVID REDPATH

Bu farw un o Lywyddion Anrhydeddus Cymdeithas Waldo, y Chwaer Bosco, ar Ebrill 10 – Sul y Blodau. Roedd yna berthynas glos rhyngddi hi a Waldo pan oedd hi’n byw yn Hwlffordd. Hi ddywedodd pan fu farw Waldo: “Mae enaid Waldo wedi esgyn ar Ddydd Iau Dyrchafael”. Roedd yn fawr ei gofal amdano ac yn ei ymgeleddu yn ystod ei waeledd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd.  Yn ddiweddarach dychwelodd i Iwerddon ac ymgartrefu yng Nghwfaint Chwiorydd Trugaredd yn Cahir. Roedd yn ei 90au hwyr. Newydd farw mae un arall a anwylai Waldo hefyd sef y Crynwr David Redpath yn ddeg a phedwar ugain oed. Cydaddolent yn Nhŷ’r Cyfeillion ym Milffwrd. Clywid elfen o ryfeddod yn llais David bob amser pan soniai am ei gyfaill.

Back to top