Darlith Ceri Wyn 2021

Darlith Ceri Wyn 2021

‘ Y cysur mewn adegau tywyll’

Wrth draddodi Darlith Flynyddol Rithiol gyntaf Cymdeithas Waldo ar Fedi’r 24 aeth y darlithydd gwadd ati’n ddyfeisgar i ddadlau bod barddoniaeth Waldo yn fodd o gynnal iechyd a lles yr unigolyn. A hynny’n amserol o ystyried effaith yr haint covid. Pwysleisiodd Ceri Wyn Jones bod darllen neu wrando ar farddoniaeth yn medru bod cystal â dim i ddelio â helbulon personol. Does dim rhaid dibynnu’n unig ar dabledi neu foddion. Cyfeiriodd at ribidirês o feirdd sy’n ceisio canfod a chyfleu’r cyflwr hwnnw o ‘lonyddwch mawr’.

Goresgyn

A doedd hynny ddim yn dod yn hawdd i Waldo fel y tystia yn ei gerdd ‘Cwmwl Haf’ meddai. Roedd e’n ymdopi â’i drafferthion ei hun. Ond yn eu goresgyn. Soniodd y prifardd am y fam honno oedd yn sibrwd cerdd George Herbert, ‘The Flower’ yng nghlust ei merch a oedd yn derbyn triniaeth mewn ysbyty meddwl. Roedd y geiriau’n pwysleisio’r posibilrwydd o adnewyddiad ac ail-eni. Cyfeiriodd hefyd at ei gymar creadigol o Aberteifi, Aneurin Meirion Jones, a ddywedodd bod cyfrol Waldo, ‘Dail Pren’ yn “fythol wyrdd ac yn gysur mewn adegau tywyll”.

Y Beirdd

Yn ystod ei ddarlith cyfeiriodd y bardd a’r Meuryn o Aberteifi at feirdd megis Seamus Heaney, R. S. Thomas, John Donne, William Wordsworth, T. Gwynn Jones, W. B. Yeats, Emily Dickinson, W. H. Auden, Robert Frost, Simwnt Fychan, Iolo Morgannwg, Dic Jones a Kendrick Lamar. Ac roedd Waldo ar yr un gwastad â nhw. A hyd yn oed wrth gydnabod bod Waldo hefyd yn medru bod yn astrus wrth geisio mynegi ei hun pwysleisiodd Ceri Wyn fod yna nerth a chysur mewn llawer o’r llinellau unigol.

“Mae hyd yn oed y darnau nad ydyn nhw fel haul ar bost yn gallu’n cyffroi a’n gwefreiddio ni. Oherwydd mae Waldo yn un o’r beirdd hynny sy’n gallu bathu gwirioneddau, hyd yn oed os nad yw’r darllenydd wastad yn hollol siŵr beth yw eu hystyr, na chwaith yn gwybod ydyn nhw’n wir ai peidio. Dwi ddim yn gwybod cweit beth yw ystyr y llinell ‘Daw’r Brenin Alltud a’r brwyn yn hollti’, ond diawch mae’n codi gwallt fy mhen bob tro dwi’n ei chlywed hi.”

Amanda

Yn yr un goleuni gosododd y bardd ifanc Americanaidd 23 oed, Amanda Gorman, wrth ddyfynnu o’i cherdd ‘The Hill We Climb’, a draddodwyd ar achlysur urddo Joe Biden yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, a thrwy hynny ffarwelio â Donald Trump.

For there is always light,
if only we’re brave enough to see it.
If only we’re brave enough to be it.

Hynny yn gopsi ar y ddadl bod barddoniaeth yn cyfrannu at iechyd a lles yr unigolyn. Teitl y ddarlith oedd ‘Helbul Hunan: Sgwrs am Farddoniaeth a Iechyd a Lles’. Roedd yna gant namyn dau wedi cofrestru i wrando ar y ddarlith ar zoom, nifer ohonyn nhw o du hwnt i Gymru. Trefnwyd yr achlysur gan Gymdeithas Waldo ar y cyd ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth.

Gellir gwrando ar y ddarlith gyflawn fan hyn. https://www.youtube.com/watch?v=JOsKfCpR7-4

YSGOL PENRHYN ANGLE

Penderfynodd Ysgol Penrhyn Angle, y tu hwnt i Benfro, ddathlu Diwrnod Waldo, trwy wahodd aelod o Gymdeithas Waldo i sgwrsio â rhai o’r disgyblion gan sôn am y cysylltiad lleol gyda fferm Hoplas a chyfansoddi’r gerdd ‘Cofio’. Ond roedden nhw bron yn gwybod mwy am y bardd ar y sgrin nag a wyddai’r cennad, Hefin Wyn, ei hun. Hen blant troednoeth cyfoethog meddai Waldo am y plant hynny a glywodd yn siarad Gwyddeleg yn Iwerddon. Hen blant hydrin y Penrhyn oedd y rhain. A gyda llaw pe bai’r adeilad ysgol newydd wedi’i chodi rhyw bymtheg mlynedd nôl mae’n siŵr mai Angle Peninsula School fyddai ei henw.

TECWYN IFAN

Hefyd i gyd-fynd â Diwrnod Waldo ar Hydref 30 rhyddhaodd Tecwyn Ifan grynoddisg o’r enw ‘La Santa Roja’ ar label Sain. Mae cysgod Waldo’n drwm dros y cyfan fel niwlen y Preselau. Mae nifer o’r caneuon yn cyfeirio’n uniongyrchol at Waldo a dwy ohonyn nhw wedi’u cyfansoddi gan un o Lywyddion Anrhydeddus y Gymdeithas, Mererid Hopwood.  ‘Gweithred gobaith yw hiraethu,’ meddai Tecwyn, wrth esbonio’r cymhelliad y tu ôl i nifer o’i ganeuon.

YSGOL WALDO

Ar yr un diwrnod bu disgyblion Ysgol Waldo Williams yn Hwlffordd yn paratoi cacen anferth i ddathlu ei ben-blwydd. Fe’i ganwyd 117 mlynedd nôl. Yn ôl y Pennaeth, Mrs Cora O’Brien, roedd enwi’r ysgol ar ôl y bardd yn rhoi teimlad hyfryd o berthyn i gymuned yr ysgol.

“Bob dydd, yn ein hysgol, rydyn ni’n ystyried beth oedd yn ei gynrychioli o ran yr hyn oedd yn bwysig iddo a’r hyn a gyfrannodd at ein treftadaeth ddiwylliannol yng Nghymru. Roedd yn ysbrydoliaeth go iawn ac mae’n parhau i ysbrydoli pob un ohonom,” meddai.

LLYFR EIRWYN

Ac mae yna gyfrol o’r enw ‘Dilyn Waldo’ o eiddo’r prifardd Eirwyn George wedi’i chyhoeddi sydd yn olrhain hanes Cymdeithas Waldo ers ei ffurfio deng mlynedd nôl. Mae’r llun clawr gan yr arlunydd o Sgotyn, Tim Fudge, ‘Tirwedd y Preseli’ yn hynod drawiadol ac mae’r cynnwys yn amrywiol yn nhraddodiad gorau gwerslyfrau.

Ceir dyfyniadau o’r darlithoedd a fu yn ogystal â chofnodi achlysuron gosod placiau –tri ar ddeg ohonyn nhe mewn mannau a gysylltir â Waldo gan gynnwys Pen Llŷn, Tyddewi a Kimbolton yn ogystal ag oddeutu’r Preselau.

Dywed yr awdur yn ei ragair i’r gyfrol sy’n costio £7; “Clywais rywun yn gofyn yn ddiweddar a oes yna lawer mwy ar gael i’w ddweud am Waldo. Gofyn a ydy’r dydd ar ddod y bydd yn rhaid i’r Gymdeithas roi’r ffidil yn y to. Na, mae Waldo yn dal i agor drysau newydd o hyd – a ffenestri hefyd.”

Cyhoeddwyd y llyfr gan Gymdeithas Waldo ac mae ar gael yn y mwyafrif o siopau llyfrau. Neu cysylltwch ag  alunifans@hotmail.com

RHUBANAU WALDO

Yn y cyfamser profodd diwrnod ‘Rhubanau Waldo’ yn lwyddiant ysgubol ar ddydd Iau, 20 Mai eleni. Dyna’r diwrnod 50 mlynedd nôl y bu farw’r bardd.

Anogwyd pawb o edmygwyr Waldo i sgrifennu eu hoff linell o’i waith ar ddarn o bapur a’i hongian wrth linyn ar goeden.

Roedd y weithred symbolaidd yn galw i gof yr ysgogiad dros iddo alw ei unig gyfrol o farddoniaeth yn ‘Dail Pren’. Cafodd y syniad o Lyfr y Datguddiad “a dail y pren oedd i iachau’r cenhedloedd”. Ac ar ryw olwg roedd yntau yn gweld pob un o’i gerddi fel dail ffrwythlon a fyddai’n fodd i iachau ei genedl.

Aeth nifer o ysgolion ati i ddewis llinellau o’i eiddo o’r gyfrol ‘Cerddi’r Plant’ a gyhoeddodd ar y cyd â’i gyfaill Llwyd Williams. Ac roedd ambell goeden yn gyforiog o rubanau lliwgar fel hon yn Ysgol y Frenni, Crymych.

Aeth y plant ati i gynhyrchu fideo o weithgareddau’r diwrnod hefyd sydd i’w gweld fan hyn;  https://fb.watch/5MMw4hrDG8/ ar dudalen ffesbwc yr ysgol. Bu plant Ysgol Llanychllwydog yng Nghwm Gwaun, lle bu Waldo’n athro am gyfnod byr, yn addurno’r cwêd yn yr allt:

Darlledwyd rhaglen awr a hanner o hyd ar Radio Cymru hefyd yn cael ei chyflwyno gan Dei Thomas yn gwerthuso cyfraniad Waldo:
https://www.bbc.co.uk/programmes/m000wb2y

Mae’r syniadau gorau bob amser yn rhai syml. A rhaid diolch i un o hoelion wyth Cymdeithas Waldo, Alun Ifans, am awgrymu’r rhubanau, gyda chymorth anuniongyrchol yr awdur Martin Davis a’i nofel ‘Ysbryd Sabrina’, y bu yn ei darllen. Mae un o’r cymeriadau yn clymu neges wrth gangen.

Un o’r mannau annisgwyl lle clymwyd rhuban oedd yn Rhoscrowther ger Penfro. A hynny’n briodol am mai ar fferm Hoplas gerllaw y cyfansoddodd Waldo y gerdd ‘Cofio’.

Back to top