Llywyddion Anrhydeddus:
- Eirwyn George
- Dr Mererid Hopwood
- Emyr Llewelyn
- Alun Ifans
- Dr Rowan Williams
Sefydlwyd Cymdeithas Waldo yn 2010 er mwyn hyrwyddo’r amcanion canlynol:
- Diogelu’r cof am waith a bywyd Waldo Williams a ystyrir yn un o lenorion mwyaf dylanwadol Cymru ac yn fardd o statws rhyngwladol.
- Hyrwyddo cyfraniad Waldo Williams at lên a diwylliant Cymru trwy ddehongli a chreu ymwybyddiaeth ddyfnach o’i waith.
- Cydnabod a hyrwyddo cyfraniad Waldo Williams i heddychiaeth.
Mae’r pwyllgor gwaith yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried nifer o brosiectau sy’n gydnaws â’r amcanion.
Penderfynwyd cynnal Darlith Flynyddol ar neu yn agos at ddiwrnod pen-blwydd Waldo – Medi’r 30.
Mae’r Pwyllgor yn ymwybodol bod Waldo yn heddychwr a Chrynwr yn ogystal â bardd ac yn awyddus i dynnu sylw at yr agweddau hynny o’i bersonoliaeth heb anghofio ei fod hefyd yn seiclwr cyson.
Rhoddir sylw i’r prosiectau fydd ar y gweill ar y gwefan hwn.
Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Cyntaf Cymdeithas Waldo ar Ionawr 23, 2011 yn Festri Bethel, Mynachlog-ddu, Sir Benfro.
Mabwysiadwyd cyfansoddiad ac etholwyd y swyddogion cychwynol canlynol:
- Cadeirydd – Cerwyn Davies
- Is-gadeirydd – Rachel Philipps James
- Trysorydd – Hefin Parri-Roberts
- Ysgrifenyddion – Wyn Owens ac Alun Ifans
- Swyddog y Wasg – Hefin Wyn
Os am drefnu gwibdaith o amgylch llefydd sy’n gysylltiedig â Waldo yn Sir Benfro, cysylltwch â Hefin Wyn 01437 532236 hefinwyn367@btinternet.com
Fe fu’r diweddar Athro Emeritus R. M. (Bobi) Jones a’r cyn-Archdderwydd Jâms Niclas yn ogystal â’r Chwaer Nora Bosco Costigan hefyd yn Lywyddion Anrhydeddus