Byddai Waldo’n gyfarwydd â chlywed trafodaethau am heddychiaeth a sosialaeth ar yr aelwyd yn nyddiau ei blentyndod am fod ei rieni’n wybyddus â syniadau blaenllaw’r oes. Deuai’r cylchgronau radical i’r ty. Gellir dweud bod Elm Cottage yn bair o drafod brwd am ddrygioni a gobeithion yr oes.
Dylanwad arall ar Waldo oedd ei gyfaill bore oes, Willie Jenkins, mab y Mans yn Prendergast, Hwlffordd. Cafodd Willie ei garcharu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf am ei fod yn heddychwr. Yn ddiweddarach ymladdodd dri etholiad cyffredinol yn enw’r Blaid Sosialaidd a bu Waldo’n ei gefnogi.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu Waldo’n llythyru’n gyson yn y Western Telegraph, prif bapur wythnosol Sir Benfro, yn mynegi safbwynt heddwch. Cofrestrodd fel gwrthwynebydd cydwybodol gan ymddangos gerbron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin. Cafodd ei esgusodi rhag cymryd rhan mewn dyletswyddau rhyfel ar sail ei argyhoeddiad. Ni fyddai wedi’i alw i’r lluoedd arfog beth bynnag am ei fod yn rhy hen erbyn hynny ac yntau’n brifathro dros dro Ysgol Cas-mael.
Rhoddodd Waldo’r grefft o farddoni naill ochr am gyfnod ar ddechrau’r 1950au am y teimlai gymaint o gywilydd adeg Rhyfel Corea o weld dyn yn mynd ati i ladd ei gyd-ddyn. Ni fedrai stumogi’r fath ymddygiad a ystyriai’n fwystfileiddiwch. Am fod llawer o’i gerddi’n ymwneud â’r safbwynt Cristnogol heddychol, ni theimlai Waldo y dylid eu cyhoeddi nes ei fod ef ei hun wedi cyflawni gweithred uniongyrchol yn erbyn rhyfela. Roedd Mahatma Gandhi yn yr India’n ddylanwad mawr arno a geiriau hwnnw wrth y bardd Rabindranath Tagore’n atseinio yn ei glustiau – nid geiriau sydd eu hangen ond gweithredoedd.
O’r herwydd rhoddodd Waldo’r gorau i ddysgu a gwrthododd dalu treth incwm mewn protest yn erbyn gwario ar ryfela. Fel athro doedd ganddo ddim rheolaeth dros ei daliadau treth incwm ond o gael ei gyflogi fel darlithydd yn Adran Efrydiau Allanol, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, telid ei gyflog iddo’n gyflawn a’i ddyletswydd yntau wedyn oedd trefnu taliadau treth incwm.
Cafodd ei eiddo ei atafaelu ac fe’i carcharwyd ar ddau achlysur ar ddechrau’r 1960au. Rhoddodd Waldo’r gorau i’w brotest pan ddaeth gorfodaeth filwrol i ben a phob milwr a alwyd i’r gad o dan y drefn honno wedi’i ryddhau.
Ym mis Mai 1956, ychydig fisoedd cyn cyhoeddi Dail Pren, traddododd Waldo ddarlith o dan y teitl ‘Brenhiniaeth a Brawdoliaeth’ yng nghyfarfodydd Undeb y Bedyddwyr yn Abergwaun, a’r mis canlynol cyhoeddodd erthygl yn Baner ac Amserau Cymru, yr wythnosolyn cenedlaethol, o dan y teitl ‘Paham y gwrthodais dalu treth yr incwm’
O ddarllen y ddau gwelwn yn glir y meddylfryd y tu ôl i safbwynt heddychol Waldo Williams ac yntau’n drwm o dan ddylanwad y meddyliwr o Rwsia, Nicolai Berdayev. Credai fod gwladwriaeth yn amharu ar ryddid dyn am ei fod yn caethiwo ei ddychymyg. Dyma fel y terfyna’r ddarlith:
Pan welaf fanylrwydd trefniadau gweinyddiaethau a’u cynghorwyr ar gyfer y dyfodol fe’m trewir â syfrdandod dro ar ôl tro fod holl athrylith yr oes yn y gwahanol wladwriaethau, a’i afael a’i wybodaeth yn dyfod i hyn, eu bod mewn sefyllfa sydd y tu hwnt i’w gallu. Gwelir yr aderyn yn hedfan o gwmpas yn helbulus pan syrthio un bach allan o’r nyth. Ond er ei drallod nid yw’n cynnig porthi’r un bach ar y llawr. Caiff yr aderyn bach lwgu. Peth truenus yw gweld creadur yn dioddef am fod caethiwed greddf arno. Peth truenusach yw gweld dynion, wedi eu breintio â rheswm, yn ddiymadferth mewn sefyllfa ingol am eu bod yn gaeth i arfer. Goleuni Crist a ddengys inni’r gwirionedd a’n rhyddha. Y mae’n fater personol inni i gyd.
Dyma fel y terfyna’r erthygl yn Y Faner:
Nid oes dim a’n rhyddha ond yr ymateb rhwng personau. Y mae tynerwch at ddioddefiannau eraill yn arweinydd trwy fannau sydd yn ddyrys i’r rheswm oni ddeffroir ef gan y dychymyg. Ni wna dim y tro ond inni wynebu ein heuogrwydd a’i droi’n gydwybod, a chydwybod yn gyfrifoldeb. Yna try ein cyfrifoldeb yn weledigaeth. Ond hyn sydd yn anodd gennym.