Ganwyd Waldo Goronwy Williams ar 30 Medi, 1904, yn nhref Hwlffordd, Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Waldo oedd y trydydd o blith pump o blant yn cynnwys tair chwaer, Morvydd, Mary a Dilys, ynghyd â brawd, Roger. Roedd eu tad, John Edwal yn brifathro Ysgol Prendergast. Cyn ei benodi yn 1900 bu’n athro yn Lloegr am yn agos i 15 mlynedd a hynny yn Sheffield yn bennaf lle daeth o dan ddylanwad Edward Carpenter, un o’r sosialwyr cynnar. Ond magwyd John Edwal yn Llandysilio yn Sir Benfro.
Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am Waldo Williams.