Waldo: Bardd y Lleiafrif Aneirif Yn ei darlith ‘ Y Lleiafrif Aneirif’ yn Aberystwyth ddydd Gwener Medi 27 tynnodd Menna Elfyn sylw at y modd y mae Waldo yn holi…
Vernon Beynon yn rhannu ei atgofion am Waldo yn Weun Parc y Blawd. A hithau yn 120 mlynedd ers geni Waldo hwyrach bod mwy o weithgareddau nag arfer wedi’u trefnu…
Aelodau’r ddau dîm ynghyd â’r Meuryn (a Waldo). Cyfartal oedd yr ornest. Parc y Blawd a Weun Parc y Blawd Daeth tyrfa dda ynghyd i Neuadd Bwlch-y-groes ar Fawrth 25…
Eric Jones yn derbyn cymeradwyaeth Côr Crymych a’r gynulleidfa Mae Cymdeithas Waldo wedi cyflawni sawl gorchest ers ei sefydlu yn 2011. Ond hwyrach mai’r pennaf o’r rheiny oedd comisiynu’r cyfansoddwr…
Yn enw Cymdeithas Waldo trefnodd Llinos Penfold tair o deithiau cerdded pnawn Sul dros yr haf mewn ardaloedd sy’n gysylltiedig â Waldo Williams. Wrth reswm roedd y gyntaf ar Fai…
Wrth draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yn Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth ar Fedi’r 29ain dewisodd y cyn Archdderwydd, y Parch John Gwilym Jones, ‘Plentyn y Ddaear’ fel…
Wrth draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo ar y testun ‘Plentyn y Ddaear – Dychmygu Heddwch’ yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth ar nos Wener, 30 Medi, sef diwrnod geni Waldo, mynnodd…
‘ Y cysur mewn adegau tywyll’ Wrth draddodi Darlith Flynyddol Rithiol gyntaf Cymdeithas Waldo ar Fedi’r 24 aeth y darlithydd gwadd ati’n ddyfeisgar i ddadlau bod barddoniaeth Waldo yn fodd…
Oherwydd yr ansicrwydd a’r pryderon ynghylch y pandemig coronafeirws penderfynwyd canslo’r Ddarlith Flynyddol a oedd wedi’i threfnu ar gyfer nos Wener, 25 Medi eleni yng Nghapel Bethel, Mynachlog-ddu. Gobeithio y…
‘Crefydd Waldo’ oedd testun darlith Emyr Llewelyn ar achlysur traddodi nawfed Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yn Oriel y Parc, Tyddewi ar nos Wener, Medi 27. Emyr draddododd y ddarlith gyntaf…
Cyflwynwyd darlith rymus a chynhwysfawr gan Guto Prys ap Gwynfor yng Nghapel Millin, ger Hwlffordd, ar nos Wener, Medi 28, yn gosod Waldo yng nghyd-destun pantheon yr oesoedd o wir…
Ail-godi’r tŷ Seiliodd Dr Robert Rhys ei ddarlith yng Nghapel Hermon, Abergwaun, ar Fedi 29 2017, i raddau helaeth, ar y cywydd mawl gorchestol hwnnw o eiddo Waldo, a draddododd…
Mewn darlith a draddodwyd ym mhentref Rhoscrowdder, ger Penfro, gan yr Athro M. Wynn Thomas, ar nos Iau 26 Mai, ymdriniwyd am y tro cyntaf erioed yn gyhoeddus ag effaith yr arswyd a deimlai’r bardd Waldo Williams o ganlyniad i amhwylledd ei brifathro o dad. Oherwydd salwch John Edwal y bu’n rhaid i’r teulu symud o Hwlffordd i Fynachlog-ddu er mwyn iddo adennill ei nerth yn awel y bryniau fel sgwlyn ysgol tipyn llai ei maint. Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi marwolaeth ei rieni, bu rhaid i Waldo dderbyn triniaeth i’w chwalfa nerfol ei hun
[:en]In a lecture delivered in the village of Rhoscrowther, near Pembroke on 26 May 2016, Professor M. Wynn Thomas – for the first time in the public arena – dealt with the effect of the anxiety that Waldo Williams felt as a result of his father’s loss of sanity. It was because of John Edwal’s ill-health the family moved from Haverfordwest to Mynachlog-ddu so that he could regain his strength in the mountain breeze as the headmaster of a much smaller school. Years later, after the death of his parents, Waldo received treatment for his own severe nervous affliction.[:WE]Mewn darlith a draddodwyd ym mhentref Rhoscrowdder, ger Penfro, gan yr Athro M. Wynn Thomas, ar nos Iau 26 Mai, ymdriniwyd am y tro cyntaf erioed yn gyhoeddus ag effaith yr arswyd a deimlai’r bardd Waldo Williams o ganlyniad i amhwylledd ei brifathro o dad. Oherwydd salwch John Edwal y bu’n rhaid i’r teulu symud o Hwlffordd i Fynachlog-ddu er mwyn iddo adennill ei nerth yn awel y bryniau fel sgwlyn ysgol tipyn llai ei maint. Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi marwolaeth ei rieni, bu rhaid i Waldo dderbyn triniaeth i’w chwalfa nerfol ei hun.[:]
Mae Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yn ddigwyddiad o bwys yn y calendar llenyddol bellach. Does dim ond pum mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas. Cynhelir ei phwyllgore ym Mynachlog-ddu, Sir Benfro. Ond…
Dyn hawdd ei garu oedd Waldo Williams yn ôl Dilys Parry. A hynny am ei fod ‘yn ddyn annwyl, annwyl’. Daeth i’w adnabod yn dda wrth fynychu ei ddosbarth nos yn Hwlffordd, ei gynorthwyo adeg etholiad cyffredinol 1959, a chyd-gerdded ag ef a nifer o’i gyd-Grynwyr.
[:en]The voices of the Parcnest Boys must have been specifically made to recite the poetry of their literary hero, Waldo Williams. The mellifluous tone of the Dyfed dialect could be heard in the voice of the youngest of the three, Aled Gwyn, as he quoted extensively from the poet’s poems when he delivered the Annual Cymdeithas Waldo Lecture, based on a line from the ‘In Two Fields’ poem – ‘Mor agos at ei gilydd y deuem’ – which translates as ‘how close to each other we became’, at Puncheston in North Pembrokeshire on Friday September 26 2014.[:WE]Mae’n rhaid fod lleisiau Bois Parcnest wedi cael eu gwneud yn bwrpasol i ynganu barddoniaeth eu harwr, Waldo Williams. Clywid tinc ysgafn y Ddyfedeg yn llais yr ieuengaf o’r tri, Aled Gwyn, wrth iddo ddyfynnu talpau o gerddi’r bardd pan draddododd Ddarlith Flynyddol Cymdeithas Waldo ar y testun ‘Mor agos at ei gilydd y deuem’ yng Nghas-mael, yng Ngogledd Sir Benfro, ar nos Wener, Medi 26, 2014.[:]
Ni ellir gwerthfawrogi awen Waldo Williams heb ystyried yr agwedd ddireidus o’i bersonoliaeth ochr yn ochr â’r elfen ddwys. Dyna oedd byrdwn sylwadau’r dramodydd Gareth Miles wrth draddodi Darlith Flynyddol…
Fydde Waldo Williams ddim wedi cymeradwyo syniad y Torïaid o’r ‘Big Society’, yn ôl Mererid Hopwood, wrth iddi draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo. Wrth ddadansoddi’r soned ‘Cymru’n Un’ darluniodd y…
Ar nos Wener, Mawrth 23, 2012 traddodwyd darlith gan Archesgob Caergaint, Rowan Williams, ar y testun ‘Poetry and Peacemaking’ yng nghyd-destun barddoniaeth Waldo yng Nghapel Pisga, Llandysilio yn Sir Benfro….