Taith Waldo

Cliciwch yma i weld taflen Taith Waldo

Paratowyd deunydd Cymraeg y daflen gan y Prifardd Eirwyn George, un o Lywyddion Anrhydeddus Cymdeithas Waldo, a’r deunydd Saesneg gan Damian Walford Davies sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am Waldo, ynghyd â’i efaill o frawd, Jason Walford Davies. Cyhoeddwyd y daflen gan Gymdeithas Waldo ac mae ar gael yn rhad ac am ddim. Mae’r daflen yn cyfeirio at yr holl lefydd hynny sy’n berthnasol i hanes bywyd Waldo. Mae’n adnodd hwylus os am ymweld â’r llefydd hynny yn Sir Benfro a thu hwnt a gafodd ddylanwad ar y bardd a’r heddychwr. Cliciwch ar y pennawd uwchben i weld y fersiwn pdf o’r daflen.

Back to top