Darlith Jason Walford Davies 2015

Darlith Jason Walford Davies 2015

Mae Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yn ddigwyddiad o bwys yn y calendar llenyddol bellach. Does dim ond pum mlynedd ers sefydlu’r Gymdeithas. Cynhelir ei phwyllgore ym Mynachlog-ddu, Sir Benfro. Ond mae’n gymdeithas genedlaethol ac yn denu’r gorau o blith ein darlithwyr. Doedd 2015 ddim yn eithriad wrth i’r Athro Jason Walford Davies daflu goleuni newydd am y bardd ddaeth ar draws yr iaith Gymraeg yn ystod y pedair blynedd o’i blentyndod a dreuliodd yn y pentre wrth odre’r Preselau.

Er mwyn pwysleisio’r wedd genedlaethol cynhaliwyd y ddarlith yn ystafell Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth ar nos Wener, 25 Medi. Priodol oedd hynny o gofio fod llawer o ohebiaeth yn ymwneud â Waldo, yn arbennig ei lythyrau at ei gyfaill mawr, D. J. Williams, Abergwaun, yn ddiogel yn y Llyfrgell. Yn nyddiaduron D. J. hefyd ceir sylwadau am Waldo sy’n taflu goleuni ar eu perthynas. Roedd y croestoriad o gynulleidfa yn Y Drwm, yn amrywio o ffermwyr i wleidyddion, yn adlewyrchiad teg o’r diddordeb eang sydd yna ym mywyd a gwaith y bardd, yr heddychwr, y Crynwr a’r gwladgarwr.

Sail sylwadau treiddgar yr academydd o Brifysgol Bangor oedd y berthynas rhwng Waldo Williams ag athrawes o bentref Llanberis, wrth droed Y Wyddfa, o’r enw Megan Humphreys, ar sail yr ohebiaeth fu rhyngddyn nhw yn y 1930au ac yn ddiweddarach yn y 1960au. Cadwodd Miss Humphreys y llythyrau a dderbyniodd wrth Waldo a’u trysori. Deil y casgliad, sy’n cynnwys tua 20,000 o eiriau, mewn dwylo preifat. Ond nid yw ei llythyrau hi at Waldo ar glawr.

Bonws oedd y lluniau a welid ar y sgrin o’r athrawes gan gynnwys un ohoni hi a’i harwr yng nghynnwrf ieuenctid. Yntau mewn trywsus byr. Mae’n rhaid eu bod wedi cyfarfod yn rhywle cyn sbarduno’r gohebu. Yr hyn a oedd yn gyffredin rhyngddynt oedd y ffaith eu bod ill dau yn athrawon. Bu Megan yn athrawes yn Nottingham am 16 mlynedd cyn ei phenodi yn aelod o staff Ysgol Dolbadarn. Roedd Waldo wedyn yn gorfod dibynnu ar waith dros dro mewn ysgolion ar hyd Sir Benfro. Ond roedd yn dechrau gwneud enw iddo’i hun fel bardd a llenor ar gownt ei gyhoeddiadau mewn cylchgrawn o’r enw ‘Y Ford Gron’.

Waldo'r Drwm

Waldo’n gwrando ar y ddarlith!

Agorai ei galon wrth y ddynes a oedd yn amlwg o gyffelyb anian gan nodi droeon ei rwystredigaeth na chai aros yn yr un ysgol yn ddigon hir i sefydlu perthynas estynedig gyda’r disgyblion. Cafodd ei symud o Ysgol Llanerchllwydog yng Nghwm Gwaun i bentref arfordirol Dale yng ngwaelod y sir a soniai fel yr hiraethai am gwmni’r disgyblion Cymraeg eu hiaith. Mynnodd iddo freuddwydio iddo redeg lan i’w gweld, dros 25 milltir o bellter, un amser cinio!

Mynnai hefyd nad oedd dim yn digwydd yn Dale ond haul a glaw a gwynt. Bryd arall soniai ei fod ‘mor wan â mwg’ oherwydd y pwysau oedd arno a datganodd fod ‘unigedd tref yn unigach o lawer nag unigedd gwlad’. Ond yn gyfochrog â’r sylwadau dwys, fel y disgwylid gan Waldo, roedd yna sylwadau ysgafn cyson a chwarae ar eiriau.

Prin y cyfeiriodd Jason Walford at gynnwys llythyrau’r 1960au mwy na chodi’r llen ar y cyfoeth o wybodaeth sydd yn ein haros a fydd yn taflu goleuni ar ffordd o feddwl Waldo. Mewn gwirionedd tamed i aros pryd oedd y ddarlith y rhoddwyd iddi’r teitl ‘O Gracie Fields i “Mewn Dau Gae”’ am fod yna gyfrol ar y gweill a fydd yn trin a thrafod cynnwys y llythyrau, ynghyd â thoreth o luniau, y gobeithir bydd yn gweld golau dydd y flwyddyn nesaf. Bryd hynny y datgelir gwir arwyddocâd teitl y ddarlith. Ond fe glywid llais y gantores boblogaidd o’r 1930au yn Y Drwm.

plac waldo (2)Cyn y ddarlith dadorchuddiwyd plac ar wal 58, Stryd Cambrian, Aberystwyth, gan Emyr Llewelyn i ddynodi’r ffaith y bu Waldo, pan oedd yn fyfyriwr, ynghyd â’r digrifwr a’r dramodydd o Lanbed, Idwal Jones, yn lletya yno. Yno y lluniwyd yr hyn a adwaenir bellach fel ‘Idwaldod’ sef llenyddiaeth ysgafn ogleisiol, llawn dwli. Yn ei anerchiad yntau dangosodd Emyr fod y ddau’n medru goresgyn eu hanhwylderau – tiwberciwlosis Idwal a dolur nerfol Waldo – trwy greu smaldod. Defnyddiwyd hiwmor fel iachâd a chreu llety o lawenydd. Llywiwyd y ddau achlysur gan y Parch Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Cymdeithas Waldo.

Rhaid diolch i Richard ac Ederlinda Evans am eu brwdfrydedd a’u croeso yn 58, Stryd Cambrian.

 

Ar y wal - Copy

Y plac wedi’i ddadorchuddio y tu fas i 58, Heol Cambrian