Plac ‘Elm Cottage’

Plac ‘Elm Cottage’

Dyn hawdd ei garu oedd Waldo Williams yn ôl Dilys Parry. A hynny am ei fod ‘yn ddyn annwyl, annwyl’. Daeth i’w adnabod yn dda wrth fynychu ei ddosbarth nos yn Hwlffordd, ei gynorthwyo adeg etholiad cyffredinol 1959, a chyd-gerdded ag ef a nifer o’i gyd-Grynwyr.

Ar achlysur dadorchuddio plac ar wal Elm Cottage yn Llandysilio ar Fai 21 – y diwrnod yn dilyn dyddiad ei farw – roedd yn rhyfedd yr afiaith a gydiai ym mhawb a rannai eu hatgofion amdano. Roedd y manylyn lleiaf fel petai’n cael ei ddyrchafu oherwydd ei gysylltu â’r bardd a’r heddychwr mawr.

Ar ran y neiaint dywedodd David Williams eu bod fel teulu’n ystyried y plac hwn fel y pwysicaf a osodwyd gan Gymdeithas Waldo hyd yn hyn. Dyma oedd cartref Waldo, ei chwiorydd, ei frawd a’i rieni, ar ôl iddyn nhw symud o Fynachlog-ddu, pan oedd bron yn ddeg oed, union gan mlynedd nôl.

Dilys Parry

Dilys Parry

Soniodd y Parch Wynn Vittle yn ddwys iawn am arwyddocâd y cysyniad o ‘gartref’ yn y cyswllt hwn wrth iddo ddadorchuddio’r plac. Roedd yn gartref nodedig oherwydd y feithrinfa syniadol gafodd Waldo wrth sgwrsio a thrafod gyda’i rieni, John Edwal ac Angharad, yn ogystal â’i Wncwl Gwilamus. Yma, hefyd, y byddai yntau a’i ddau bartner mawr, Wil Glynsaithmaen (W. R. Evans) ac Ernie Lan (Parch E. Llwyd Williams) yn cwnsela ar faterion steddfota.

O Elm Cottage y gwelodd Waldo ‘Abertawe’n fflam’ a arweiniodd at y gerdd deyrnged i’w rieni, prif gynheiliaid y ‘cartref’, ‘Y Tangnefeddwyr’. Pa deyrnged uwch y medrai plentyn ei dalu i’w rieni? O’r llofft hefyd, i gyfeiriad y gorllewin, fel y tystia’r plac, y gwelai Gastell y Garn a Thre-wman,  – yng nghyffinie Roch – gwrthrychau’r gerdd ‘Y Tŵr a’r Graig’ sy’n delio â’r gwrthdaro rhwng militariaeth a’r werin.

Fyddai dathliad o’r fath ddim yn gyflawn heb glywed rhai o gerddi plant Waldo. Llefarwyd rhibidirês ohonyn nhw gan glwstwr o ddisgyblion Ysgol Brynconin a chanwyd rhai o’i gerddi gan y chwiorydd bytholwyrdd, Beti a Siân, wrth i bawb ymgynnull yn neuadd yr ysgol i wrando ar yr atgofion.

Cof llencyn oedd gan Ithel Parry-Roberts o gyfarch Waldo ar ei feic yn ‘ei drowser byr a’i goese blewog’ ar Sgwâr y Cnwc, Mynachlog-ddu, lle byddai’r bechgyn ifanc yn ymgasglu gyda’r nos. Fe’u holodd am nodweddion yr ardal cyn diflannu, a dychwelyd yn gwisgo trywsus hir a’u holi eto, a hynny braidd yn annealladwy. Diflannodd drachefn. I ddarlithio y tro hwn. Dyfarniad tad Ithel, y Parch R. Parry-Roberts, ar yr aelwyd y noson honno, wedi’r ddarlith, oedd, ‘Waldo yn ei fyd ei hunan heno’.

Eirian Wyn Lewis a Wynn Vittle

Eirian Wyn Lewis a Wynn Vittle

Cafodd Ithel y fraint o yrru Waldo i rai o’r cyfarfodydd etholiadol yng ngogledd Sir Benfro. Cofiai am y cyfarfod ym Moncath pan rybuddiodd rhywun Waldo, ‘you’ve got to be a good English speaker up in London’. Dyma mishtir Ysgol Mynachlog-ddu, E. T. Lewis, yn ei ateb, gan ddweud na fyddai hynny’n broblem am fod gan Waldo radd Saesneg, ac y gallai ddysgu tipyn i’r holwr ynghylch sut i lefaru yn yr iaith fain.

Cofiai’r prifardd Eirwyn George am gyfraniad Waldo i’r rhaglen ‘Ymryson y Beirdd’ ar y radio. Prin iddo golli’r un cyfle i gynrychioli Sir Benfro, heblaw pan oedd yng ngharchar, a hynny er mwyn ‘helpu mas’. Fyddai beirdd cyffelyb eu gallu yn yr un cyfnod ddim yn ymrysona. Mae’n debyg i Waldo ffaelu cwblhau tasg ar un achlysur. Dyna ran o’r chwedloniaeth amdano. Darlledid yn fyw yn y cyfnod hwnnw.

Cofiai Eirwyn am halibalŵ Steddfod y Barri 1968 pan oedd Waldo yn un o feirniaid y Goron a’r tri’n anghytuno pa gerdd oedd deilyngaf. Bu’n rhaid galw ar bedwerydd beirniad i dorri’r ddadl. Fe ddyfarnodd Alun Llywelyn Williams o blaid dewis Waldo sef pryddest astrus o waith y Parch  L. Haydn Lewis, Ton Pentre. Yr arferiad bryd hynny oedd i’r beirniaid draddodi beirniadaeth lawn yn y Babell Lên wedi’r seremoni. Er chwilio’n ddyfal yn ei bocedi am ei nodiade ni ddaeth Waldo o hyd iddyn nhw. Llefarodd am chwarter awr o’r frest gan ddyfynnu’n helaeth o’r bryddest fuddugol. Dyna oedd uchafbwynt yr Eisteddfod yn ôl Harri Gwyn yn Y Cymro – ‘clasur o feirniadaeth’. Pan gyhoeddwyd ‘Y Cyfansoddiadau’ dim ond tair brawddeg o sylwadau oedd gan Waldo am y bryddest fuddugol.

Cofiai Wynn Vittle am y profiad o ‘whare sipsiwn’ yng nghwmni Waldo trwy osod lliain dros ben dwy stôl i wneud pabell a’r ddau yn mynd mewn a mas am yn ail. Deuai Waldo heibio’n gyson i ymweld â’i chwaer, Dilys, oedd yn lletya yn y tŷ drws nesaf yn Wdig. Arferai Wynn fynd yn llaw ei ‘bartner whare’ wedyn i weld sipsiwn go iawn ar Waun Rhosloyw,  a rhoi oren yr un yn anrheg I’r brodyr Cecil ac Albert Lovell wrth i’r rheiny weiddi, ‘the orange man is coming’.

Cofiai am Waldo’n cynhyrfu’n lân pan ddaeth brysneges  wrth Llwyd Williams yn dweud ‘ma’r stôl yn dod’ ychydig ddyddie cyn Eisteddfod Ystradgynlais 1954. Roedd rhaid trefnu ar unwaith i fod yn bresennol yn y Pafiliwn i weld ei gyfaill yn cael ei gadeirio er mai rhywle yn y gwt oedden nhw a phrin yn gweld y llwyfan.

Bu Wynn yn canfasio dros Waldo pan safodd fel ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru yn Sir Benfro yn 1959 a chofiai’n dda am ei ddyfarniad, gyda’i onestrwydd rhyfeddol, wedi cyhoeddi’r canlyniad – ‘mistêc wedd sefyll’. Fe’i gwelodd hefyd yn y falen fawr ar ddydd Sadwrn olaf yr ymgyrch pan wrthodai adael y swyddfa i fynd mas ar hyd strydoedd Hwlffordd, gyda’r corn siarad, yng nghwmni ei asiant, Eirwyn Charles. Roedd â’i ben yn ei blu.

Ymhen hir a hwyr cyfaddefodd beth oedd yn ei boeni. Na, nid oedd yn sâl. Ond roedd wedi gweld George Thomas – Is-iarll Tonypandy a Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn ddiweddarach –  yn y dref yn ystod y bore yn cefnogi’r ymgeisydd Llafur, Desmond Donnelly. Roedd hynny wedi’i glwyfo am ei fod yntau a George yn aelodau o’r ILP cynnar ac yn heddychwyr. Roedd cyfeillgarwch uwchlaw gwleidyddiaeth i Waldo. Doedd e ddim wedi’i dorri mas i fod yn wleidydd.

Ni wyddai Dilys Parri pam ei bod yn gymaint edmygydd o Waldo mwy na dweud ei fod wedi mynd yn rhan o’i chyfansoddiad. Ni chollai gyfle i sôn amdano wrth ddisgyblion Uned Gymraeg Ysgol Prendergast nes i un o’r plant ei holi un diwrnod, ‘ife Waldo oedd ei sboner?’ Teimlai ei bod yn agos ato pan geid y seibiau hir hynny o dawelwch yng nghanol darlith. Ni wyddai’n gwmws ble roedd ei feddwl yn crwydro ond gallai werthfawrogi’r seibiau hynny. Gwrthodai pob cais i adrodd ei gerddi ei hun. Cerddai’n hamddenol trwy ganol gyr o wartheg pan fyddai cerddwyr eraill yn cadw at y llwybr wrth ymyl y clawdd yn ymwybodol o berygl haid o dda.

Tebyg mai ei hatgof mwyaf dirdynnol, ac awgrym o fawredd Waldo yn hynny o gyfarfyddiad, oedd ei weld mewn dillad parch ar stryd yn Hwlffordd. Gofynnodd Dilys iddo ble roedd wedi bod. A’i ateb oedd, ‘dwi wedi bod yn claddu Llwyd’. Ni fu sgwrs bellach rhyngddyn nhw. Oedodd y ddau yn ddywedwst yn nrws siop ddillad T. P. Hughes. Un o’r adegau hynny pan ddywedwn, ‘yn y dwys ddistawrwydd dywed air fy Nuw’. Roedd cwlwm cyfeillgarwch tyn rhwng Waldo a Llwyd.

Llywyddwyd y dadorchuddio yn Elm Cottage a’r atgofion yn Ysgol Brynconin gan y Parch Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Cymdeithas Waldo. Cafwyd cyfle i sgwrsio, yn nhraddodiad y wlad, dros ben dishgled o de a chacs wedyn, a’r cyfan wedi’i drefnu o dan arweiniad Anna Williams, ysgrifennydd Cymdeithas Waldo.