DARLITH FLYNYDDOL CYMDEITHAS WALDO 2026    

DARLITH FLYNYDDOL CYMDEITHAS WALDO 2026    

WALDO A ROTHKO – AR YR UN DONFEDD

Meirion Jones yn cyflwyno’r artist Americanaidd, Mark Rothko

Pwy feddyliai y byddai’n bosib tynnu cymhariaeth rhwng Waldo Williams, y bardd, a’r arlunydd, Mark Rothko? Ond dyna wnaeth Meirion Jones a dyna oedd byrdwn ei sylwadau wrth draddodi Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yng Nghapel Bethel, Mynachlog-ddu nos Wener, 25 Medi.

Y naill yn trin geiriau a’r llall yn trin paent i fynegi llawer oedd yn gyffredin rhyngddynt. Roedden nhw’n rhannu llawer o’r un gwerthoedd ond doedd materoliaeth ddim yn uchel ar eu rhestr o werthoedd.

Cychwynnodd Meirion trwy adrodd stori i brofi diddordeb a gwybodaeth helaeth Waldo mewn celfyddyd gain. Cafodd ei dad, Aneurin, sgwrs annisgwyl gyda Waldo pan oedd y ddau yn cynnal Ysgol Nos yn Ysgol y Preseli a neb, oherwydd yr eira y noson honno, wedi cyrraedd y dosbarthiadau.

Y duw corniog

Dros baned o goffi dyma Waldo yn gofyn i’r arlunydd pa un oedd ei hoff gyfnod o ran celfyddyd gain. Aneurin yn ateb ‘cyfnod y Dadeni wrth gwrs’. Aeth Waldo yn ei flaen i’w ddarbwyllo ynghylch gogoniant y cyfnod Celtaidd gan sôn am y duw corniog, Cerunnos.

Cysylltiad arall y soniodd Meirion oedd rhwng y ddau, neu’r cysylltiad na fu, oedd achlysur penodi athro i’r ysgol yng Nghwm Wysg lle’r oedd Aneurin yn ddisgybl ar ddechrau’r 1950au. Penodwyd athrawes gwbl ddi-Gymraeg ac yng nghyd-destun yr ysgol yn gwbl ddi-glem o’r herwydd. Pwy oedd hefyd wedi ymgeisio am y swydd, pan ddychwelodd o alltudiaeth yn Lloegr, ond Waldo. Pe bai ei benodiad ond wedi digwydd.

Ond y gyferbyniaeth rhwng Waldo a Rothko. Mae’n debyg i’r Americanwr o dras Lithuanaidd ddychwelyd swm anferth o arian rhywdro wedi iddo gytuno i beintio cyfres o luniau ar gyfer bwyty swanc yn un o nengrafwyr Efrog Newydd. Penderfynodd mai puteinio ei ddawn fyddai o anrhydeddu’r cytundeb wrth ystyried pwy fyddai’r cwsmeriaid.

Clywsom fel y byddai’r ddau yn hoff o gyferbynnu golau a thywyllwch neu ddau eithaf gwahanol. “Chwi blant troednoeth cyfoethog” meddai Waldo am blant a welodd yn Iwerddon; er eu bod yn dlawd eu gwisg roedden nhw’n freintiedig gyfoethog am eu bod yn siarad Gwyddeleg.

Trech goleuni

I Waldo roedd goleuni yn adlewyrchu ei brofiad ysbrydol ac i Rothko roedd yna rym mewn goleuni. Soniai am oleuni mewnol yn ei waith a’r ddau yn dyheu yn nwfn y galon am oleuni. Credai’r ddau fod dirgelwch cariad yn drech na dirgelwch casineb.

Soniodd y darlithydd am natur tragwyddoldeb gan ddweud nad oedd yn golygu cyfnod hir o amser ond rhyw fath o brydferthwch oedd yn cyffwrdd â ni yn sydyn ac yn aros gyda ni. Mynnai fod Jimmy Hendrix yn gyfarwydd â’r stad honno fel roedd Waldo am ei fod, hyd yn oed yng nghwmni dynion, yn gallu diflannu i ryw fan arall ar drywydd ‘y meddyliau mawr’, chwedl Jac Beynon, pan fyddai yn mwynhau rhialtwch y cynhaeaf gwair  ond wedyn yn cerdded o amgylch y parc ar ei ben ei hun.

Cyfeiriwyd at y gerdd ‘Menywod’ fel prawf o wybodaeth a gwerthfawrogiad Waldo o gelfyddyd a bod y gwahanol ganghennau ohono yn cyfathrebu â’i gilydd. Wel, mynnai y dylai arlunydd o’r traddodiad Eidalaidd beintio Phebi’r Ddôl a’i siôl; y dylai cerflunydd o blith y Groegiaid greu delw o Bet Glanrhyd ac y dylai dramodydd o faintioli Shakespeare sgrifennu drama am Sali’r Crydd. Y cymeriadau cyffredin cefn gwlad yn haeddu cael eu hanfarwoli gan fawrion celfyddyd. Cafwyd darlith rymus.

Gwrandewch ar y ddarlith yma

Ann Davies yn llefaru un o gerddi Waldo

Trannoeth cynhaliwyd Taith Gerdded Flynyddol Menter Iaith Sir Benfro o Festri Bethel i Garreg Waldo ac yn ôl i fwynhau lluniaeth. Soniodd Meirion am y fangre fel seintwar lle troedia er mwyn gwefru’r enaid. Does dim castell na phlas na dim sy’n cynrychioli awdurdod y byd hwn yno meddai. Mynnai bod yna bellter gwareiddiol rhwng y tai annedd sydd o amgylch ond eto maen nhw’n ddigon agos i’r preswylwyr roi gwaedd ar ei gilydd mewn angen. Llefarwyd rhai o gerddi Waldo ar y llecyn.

Back to top