Carreg Waldo

Carreg Waldo

Ymwelwyr a’r merlyn oedrannus!

Am flynyddoedd bu Carreg Waldo yn ddirgelwch i ymwelwyr na wydden nhw ddim oll am Waldo Williams. Mynych yr adroddir y stori am ymwelwyr o Sgandinafia yn dyfalu arwyddocâd y garreg ar Gomin Rhos-fach, Mynachlog-ddu yn ardal y Preselau.

Gosod y garreg yn ei lle yn 1978

Am fod yr wybodaeth mor brin – ac o weld y merlod mynydd yn y cyffiniau – penderfynwyd mai coffau march nodedig a wnâi’r garreg – march 67 oed! O’r herwydd, un o weithredoedd cyntaf Cymdeithas Waldo oedd codi plac wrth ymyl y garreg i gynnig mwy o wybodaeth. Dadorchuddiwyd y lechen ar Fedi’r 30, 2010 – diwrnod pen-blwydd Waldo – gan ei nith, Eluned Richards, gyda chaniatâd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gwarchodwr y tirlun oddi amgylch. Eluned, hefyd, ddadorchuddiodd y garreg bigfain ar Fai’r 20, 1978, pan anerchwyd torf sylweddol gan rai o fawrion y genedl. Yn eu plith roedd y prifardd, James Nicholas; y Crynwr, Steffan Griffith; y llyfrgellydd, B. G. Owens a’r chwyldroadwyr ifanc, Emyr Llewelyn a Dafydd Iwan. Ni fu gorchwyl codi’r garreg heb ei helynt. Bu’n rhaid dychwelyd y garreg wreiddiol o weithdy’r saer maen, Hedd Bleddyn, yn Llanbrynmair, yn y Canolbarth, i’w gorweddfan ar draws Afon Banon, yng nghyffiniau Eglwys Wen, lle’r oedd yn dal mewn defnydd fel pont garreg, a dewis carreg o’r ochr hon i’r mynydd yn ei lle.

Y plac wrth ymyl Carreg Waldo

Arferai beili ochr Mynachlog-ddu o Fynydd Preseli, Sid Jenkins, ddweud yn fynych y dylai’r garreg fod â’i chefn tuag at y mynydd yn hytrach nag yn ei wynebu os am fod mewn cytgord ag ystyr y dyfyniad o’r gerdd ‘Preseli’. Byddai’r smaldod uchod, yn ogystal â stori’r ‘march hirhoedlog’ wedi goglais Waldo’n fawr a’i arwain i ddatgan “beth yw’r dwli sy arnyn nhw nawr” fel y gwnâi’n gyson pan synhwyrai fod yna ffwdan yn cael ei wneud yn ei gylch. Heddiw daw ymwelwyr heibio i werthfawrogi’r tirlun a fu’n ysbrydoliaeth i rai o gerddi grymusaf Waldo – heb fod unrhyw amheuaeth i bwy y codwyd y garreg las. Caiff pawb gydadrodd y geiriau; Mur fy mebyd, Foel Drygarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd Wrth fy nghefn ymhob annibyniaeth barn wrth edrych ar yr union dirnodau hynny’r un pryd – o droi i’w hwynebu!

Back to top