Mae wynebddalen Rhaglen yr Eisteddfod yn rhoi sylw i’r rhan o’r llun comisiwn o waith Meirion Jones sy’n canolbwyntio ar Waldo. Mae printiadau o’r gwreiddiol ar werth.
Bydd tri sesiwn yn cael eu neilltuo i ddelio â Waldo Williams yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ar gyrion Aberteifi eleni yn ystod wythnos gyntaf mis Awst. Dyma’r manylion:
DYDD SADWRN Awst 1
Pabell y Cymdeithasau 2 11.30
Waldo: Bardd Dewrder. Bardd tynerwch – Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mererid Hopwood ac Elan Closs Stephens
Elan Closs Stephens yn holi Mererid Hopwood am lunio drama’n seiliedig ar fywyd a gwaith Waldo Williams
DYDD SUL Awst 2
Pabell y Cymdeithasau 1 17.00
Hiwmor Waldo – Cymdeithas yr Hoelion Wyth. Emyr Llew.
Darlith ar hiwmor y bardd a’r heddychwr, Waldo Williams, gan ei gyfaill, Emyr Llew.
DYDD MAWRTH Awst 4
Y Babell Lên 11.45
Cofiadur Waldo: Casgliad Jâms Nicholas o lawysgrifau Waldo Williams.
Bydd y ddarlith yn trafod yr ymwneud llenyddol cyfoethog rhwng Waldo Williams a Jâms Nicholas, gyda thrafodaeth ar gasgliad heb ei gyhoeddi o lawysgrifau Waldo. Ynghyd
Cofiwch am y Ddarlith Flynyddol wedyn yng Nghapel Bethel, Mynachlog-ddu nos Wener, Medi 25 pan fydd yr arlunydd Meirion Jones yn traethu ac yn arddangos lluniau perthnasol.

| Llyfr newydd |
| Darlithiau Cymdeithas Waldo 2010 a 2024 |
| Dyma gasgliad o ddarlithiau ac anerchiadau a drefnwyd gan Gymdeithas Waldo Williams rhwng 2010 a 2024. Ceir amrywiaeth o gyfraniadau, gan gynnwys dadansoddiadau o rai o gerddi’r bardd a’r heddychwr hwn ynghyd â chipolwg ar ei gymeriad drwy hanesion ac atgofion rhai a oedd yn ei adnabod. Mae’n gyfrol ddifyr a gwerthfawr i unrhyw un a fyn ddeall mwy am Waldo Williams a’i waith ac yn gyfrol allweddol o ran dwyn sylw gwlad at un o ffigurau mwyaf ein cenedl ni. Cyfrol raenus, hardd a chyfoethog o feddyliau a dadansoddiadau treiddgar o farddoniaeth, bywyd a bro Waldo. |
| Darlithiau Cymdeithas Waldo 2010 – 2024 £30.00 (Cludiant am ddim) Siec yn daladwy Y Faner Newydd Anfonwch eich archeb at Alun Ifans Erw Grug Maenclochog Clunderwen Sir Benfro SA66 7LB |

Waldo Williams
1904 – 1971
Ystyrir Waldo Goronwy Williams yn ffigwr mytholegol. Nid oedd neb a’i hadwaenai yn ei gasáu. Byddai pawb a dreuliai amser yn ei gwmni yn ei anwylo ac yn trysori pob cyfarfyddiad. Roedd plant bychain bob amser yn hoff ohono pan ddeuai i’w dysgu.
Mynna rhai y perthynai iddo nodweddion sant. Yn sicr, roedd ganddo argyhoeddiadau dwfn a direidi difalais. Dywedodd rhywun ei bod wedi cymryd dwy fil o flynyddoedd o wareiddiad Cymraeg i greu dyn fel Waldo. Roedd wedi ei drwytho ei hun yn hanes ei genedl.
Ar un achlysur safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiad seneddol. Er iddo golli ei ernes enillodd llu o edmygwyr. I lawer Waldo oedd bardd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif. I eraill roedd yn heddychwr a ddigwyddai fod yn fardd. Edmygwyd ei safiad yn wynebu dau gyfnod yng ngharchar am wrthod talu treth incwm mewn protest yn erbyn gorfodaeth filwrol a rhyfela.
Pan oedd yn ganol oed ymunodd â’r Crynwyr. Carai’r distawrwydd a’r modd o gyrraedd y canol llonydd yn addoliad y Tŷ Cwrdd. Cyflwynodd ei unig gyfrol o farddoniaeth Dail Pren yn gyfrwng iachâd i’w genedl. Ni wyddom am yr un bardd arall a wnaeth y fath gymwynas â chenedl.
- Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo 2026 Cynhelir y ddarlith flynyddol eleni yng Nghapel Bethel Mynachlog-ddu ar Fedi’r 25. Y darlithydd gwadd fydd yr arlunydd o Aberteifi, Meirion Jones,…
- DARLITH FLYNYDDOL CYMDEITHAS WALDO 2025Cofio Waldo – ‘Creu Cenedl Heddwch’ Fe soniodd Jill Evans am yr Iddewes Nurit Peled-Elhanan a fu’n ceisio addysgu heddwch…
- ‘NABOD WALDO’ Dyma’r gyntaf o gyfres o bodlediadau o dan y teitl ‘Nabod Waldo.’ Mae Hefin Wyn yn sgwrsio â’r prifardd Alan…



