EISTEDDFOD Y GARREG LAS WALDOAIDD

EISTEDDFOD Y GARREG LAS WALDOAIDD

Bu Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn Llantwd yn eisteddfod Waldoaidd ar lawer ystyr eleni o gofio’r sylw a roddwyd i’r gwron.

Ar y dydd Sadwrn cyntaf, mewn sesiwn a drefnwyd gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, cafwyd trafodaeth rhwng Elan Closs Stephens a’r Archdderwydd Mererid am ei champ yn llunio drama yn y gyfres Mewn Cymeriad yn seiliedig ar fywyd a gwaith Waldo Williams.

Hwyrach mai’r peth pennaf ddaeth i’r golwg oedd cadarnhad mai tai ar hyd arfordir Sir Benfro yw’r rheiny a nodir gan Waldo yn llinell agoriadol y gerdd ‘Cwmwl Haf’. “Durham, Devonia, Allendale – dyna’u tai a’r un enw yw pob enw” meddai.

Bu rhai yn dyfalu mai enwau tai a welodd y bardd tra oedd yn byw yn alltud yn Lloegr oedden nhw. Ond, na, mae’r enwau i’w gweld yn Solfach, Wdig a Thyddewi mynnai Mererid wrth esbonio eu harwyddocâd. Mae’n arfer gan bobl sy’n symud o’u cynefin i arddel enwau cyfarwydd ar eu tai alltud. Dyna wna’r Cymry hefyd.

Roedd hynny yn rhan o’r allwedd i ddeall y gerdd. Ond mae’n dal yn astrus.

Yn ddiweddarach yn y dydd cyhoeddwyd bod enillydd y gystadleuaeth llunio Adolygiad yn yr adran ddrama wedi gwerthuso’r cyflwyniad theatrig y bu Mererid yn ei lunio ar gyfer Ryland Teifi a oedd yn portreadu Waldo. Yr enillydd oedd Hefin Wyn. Meddai’r beirniad, Non Tudur, am ymgais ‘Mwrcyn’ – “Dyma i chi bictiwr o adolygiad . . . adolygydd medrus a deallus, sydd yn ei hoelio hi o’r llinell gyntaf: . . . yn feistr ar adolygu cynhyrchiad theatr”.

Cymdeithas yr Hoelion Wyth drefnodd ddarlith gan Emyr Llywelyn am Waldo prynhawn Sul gan ganolbwyntio ar ei hiwmor. Rhannodd ei atgofion personol o ganfasio adeg etholiadau cyffredinol yng nghwmni Waldo. Soniodd fel y deuai hiwmor cynnil gyda thinc o obaith i’r wyneb yn aml, yn enwedig pan nad oedd yr argoelion yn dda. Dirdynnol oedd clywed amdano yn mynd â Waldo am dro yn ystod ei waeledd olaf pan oedd cyfathrebu yn anodd.

Jason Walford Davies

A ninnau’n meddwl nad oes yna’r un llyfr arall y gellir ei gyhoeddi am Waldo Williams bellach, cafwyd gwybod gan yr Athro Jason Walford Davies, mewn darlith ysgubol fore Mawrth yn y Babell Lên, bod ganddo yntau ddeunydd ar gyfer tair cyfrol o leiaf!

Hynny ar sail papurau Jâms Nicholas sydd yn ei feddiant, yn cynnwys gohebiaeth, cerddi heb eu cyhoeddi a phob math o nodiadau, a chyfres o lythyrau o eiddo Waldo at ei wraig, Linda.

Manylodd ar y modd roedd llawer o farddoniaeth Jâms yn adleisio eiddo Waldo a’u bod yn gyfeillion mynwesol er bod yna chwarter canrif o wahaniaeth o ran oed. Rhoddodd y ddarlith, a drefnwyd gan Gymdeithas Waldo, modd i fyw i bawb oedd yn y Babell Lên.

Ac yn Y Stiwdio ar y dydd Gwener rhoddodd Ryland Teifi ddau berfformiad o’i gyflwyniad ‘Mewn Cymeriad: Waldo.’ A heb anghofio’r datganiad o ‘Y Tangnefeddwyr’ gan Gôr Cymysg Crymych yn ystod y Gymanfa Ganu ar y nos Sul.

Yn ystod yr wythnos hefyd cyhoeddwyd llyfr clawr caled ‘Adnabod Waldo’ gan gylchgrawn Y Faner Newydd sy’n costio £15. Mae’n werthfawr pe bai dim ond am ddadansoddiadau llachar Emyr Llywelyn o gerddi Waldo a ymddangosodd yn y cylchgrawn rhwng 1997 a 2023. Trysor arall yw cyhoeddi, am y tro cyntaf, ddarlith a draddodwyd gan Waldo uwchben yr odyn galch yng Nghwmtydu rhywbryd, pan oedd yn cymharu awen Alun Cilie a Dic Jones. Roedd y ddarlith yn dangos ehangder ei wybodaeth.Cofiwch am y Ddarlith Flynyddol wedyn yng Nghapel Bethel, Mynachlog-ddu nos Wener, Medi 25 pan fydd yr arlunydd Meirion Jones yn traethu ac yn arddangos lluniau perthnasol.

PLAC SOLFACH

Trwy ymdrechion yr awdur lleol, Matthew Raggett a chymorth Cyngor Cymuned Solfach, gosodwyd plac i gofio am y cyfnod byr dreuliodd Waldo yn athro yn yr hen ysgol. Cafodd ei ddadorchuddio gan yr Archdderwydd Mererid. Wrth fynd lan y rhiw serth i Solfach Uchaf, ac ar ôl mynd heibio’r gofgolofn rhyfel, fe welwch ffordd ar y chwith a’r plac ar y wal dal ar y dde.

Back to top