Ar fore Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Babell Lên bydd yr Athro Jason Walford Davies yn traddodi darlith ar y testun ‘Tu Hwnt i Waldo’. Ynghyd â’i frawd, Damian, golygodd y gyfrol ‘Cof ac Arwydd – Ysgrifau ar Waldo Williams’. Enillodd goron Eisteddfod Casnewydd 2004.
