{"id":213,"date":"2012-04-12T12:01:34","date_gmt":"2012-04-12T12:01:34","guid":{"rendered":"http:\/\/localhost:42663\/?p=213"},"modified":"2023-01-28T16:33:11","modified_gmt":"2023-01-28T15:33:11","slug":"rowan-williams","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/www.waldowilliams.com\/?p=213&lang=cy","title":{"rendered":"Darlith Rowan Williams"},"content":{"rendered":"<p><!--:--><!--:WE-->Ar nos Wener, Mawrth 23, 2012 traddodwyd darlith gan Archesgob Caergaint, Rowan Williams, ar y testun &#8216;Poetry and Peacemaking&#8217; yng nghyd-destun barddoniaeth Waldo yng Nghapel Pisga, Llandysilio yn Sir Benfro. Trefnwyd yr achlysur gan Gymdeithas Waldo a dyrchafwyd Waldo Williams i statws bardd a wyddai wir ystyr y gair \u2018awen\u2019.<\/p>\n<p><!--:--><!--:WE-->Ceisio darbwyllo Arlywydd Zimbabwe, Robert Mugabe, yn Harare, i barchu hawliau dynol yn ei wlad ei hun; ceisio darbwyllo\u2019r Pab Benedict o werth eciwmeniaeth trwy draddodi darlith yn dwyn y teitl \u2018Gwerthoedd Mynachaidd a Gobaith Eciwmenaidd\u2019 yn Rhufain; ceisio darbwyllo\u2019r arch-anffyddiwr Richard Dawkins mewn dadl gyhoeddus yn Rhydychen fod pori yn Llyfr Genesis yn hanfodol i ddyn ddeall ei le yn y bydysawd a cheisio darbwyllo pwy bynnag a glyw fod gan hyd yn oed terfysgwyr megis y Taliban eu hamcanion moesol &#8211; dyna rai o\u2019r tasgau a osododd Archesgob Caergaint iddo\u2019i hun yn ystod yr wythnosau cyn iddo ymweld \u00e2 Llandysilio-yn-Nyfed. Ei dasg yng Nghapel Pisga ar nos Wener, 23 Mawrth, oedd darbwyllo\u2019r gwrandawyr o fawredd y crwt lleol, Waldo Williams fel bardd-heddychwr ar yr un gwastad \u00e2\u2019r bardd Americanaidd, Thomas Merton, a\u2019r Sais, Geoffrey Hill. Cafodd gynulleidfa foddog. Esgynnodd yr Archesgob Rowan Williams i bulpud Anghydffurfiol a harddwyd am 46 mlynedd gan un o hoelion wyth enwad yr Annibynwyr, y Parch Joseph James, a berffeithiodd y grefft o atal dweud ar ei leferydd i\u2019r un graddau \u00e2\u2019i gyfoeswr o Ddowlais, ger Merthyr, yr hanesydd Gwyn Alf Williams. Ymddangosai prif Anglican y dydd yn gwbl gyffyrddus wrth fwrw at ei dasg.<\/p>\n<figure id=\"attachment_378\" aria-describedby=\"caption-attachment-378\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"http:\/\/www.waldowilliams.com\/?attachment_id=378\" rel=\"attachment wp-att-378\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-378 \" title=\"Rowan Williams\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/Rowan-Williams-2012-51-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"http:\/\/www.waldowilliams.com\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/Rowan-Williams-2012-51-300x200.jpg 300w, http:\/\/www.waldowilliams.com\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/Rowan-Williams-2012-51-1024x683.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-378\" class=\"wp-caption-text\">Yr Archesgob yng nghwmni cyd-ysgrifenyddion Cymdeithas Waldo, Anna Williams ac Alun Ifans.<\/figcaption><\/figure>\n<p>Fe\u2019i gwnaed yn gartrefol gan eiriau\u2019r cyflwynydd, Cerwyn Davies, Cadeirydd Cymdeithas Waldo, a nododd fod gan y ddau ohonynt ddau beth yn gyffredin sef eu hoed a\u2019r ffaith eu bod ill dau yn fugeiliaid \u2013 un yn ben bugail ar 77 miliwn o Anglicaniaid ar draws y byd a\u2019r llall yn ben bugail ar ychydig gannoedd o ddefaid ar lethrau\u2019r Preselau. Doedd hi fawr o dro cyn i\u2019r gynulleidfa sylweddoli bod yna enaid mawr yn trafod enaid cydnaws wrth i\u2019r Cymro 61 oed ein tywys i ddyfnderoedd y bywyd ysbrydol trwy gyfrwng y geiriau allweddol hynny sydd i\u2019w gweld drosodd a throsodd yng ngherddi Waldo. Dewisodd Rowan Williams y gerdd \u2018Mewn Dau Gae\u2019 i ddarlunio hynny gan awgrymu\u2019n gryf bod angen dealltwriaeth o deithi meddwl yr iaith Gymraeg i ddeall ystyr gair megis \u2018awen\u2019; nid yw\u2019n cyfieithu yn \u2018muse\u2019 meddai\u2019r darlithydd sydd yn fardd yn ei hawl ei hun.<\/p>\n<p>Mae \u2018awen\u2019, meddai, yn ymwneud ag ynni cyntefig cychwynnol a\u2019r ysbryd dychmygus. Mentrodd ymhellach trwy ddweud mai \u2018awen\u2019 biau\u2019r byd ac mai ffantasi yw \u2018elw\u2019 a bod Waldo\u2019n deall hynny. Dyna pam ei bod yn bwysig \u2018adnabod awen\u2019 am mai dyna sy\u2019n cysylltu pob dim, yn cyfannu pob dim sydd o dan yr wyneb, a phan fod barddoniaeth yn cydnabod hynny mae\u2019r geiriau\u2019n gyfystyr ag ymgyrchu dros gynnal heddwch. Dywedodd na all cyfansoddi gwir farddoniaeth beidio \u00e2 bod yn weithred o heddychiaeth am ei fod ynddo\u2019i hun yn uchelgais i sicrhau cymod uwchlaw pob agenda gwleidyddol. Mynnai fod Waldo\u2019n deall hynny. Dewisodd y diwinydd gloyw gyfeirio at y modd roedd Crynwriaeth wedi dylanwadu ar fywyd mewnol Waldo trwy ei orfodi i ganolbwyntio ar y goleuni sy\u2019n cynnig llwybr greddfol tuag at y gwirionedd a\u2019r pwyslais ar ddistawrwydd gwrando a distawrwydd rhyfeddu. Fe\u2019n argyhoeddodd fod Waldo yn hen law ar ddisgwyl am y distawrwydd. Cyfeiriodd at adnabyddiaeth Euros Bowen a Steffan Griffith o\u2019r modd yr ymglywai Waldo \u00e2\u2019r dyfnderoedd a\u2019r modd na fynnai glywed neb yn llefaru yng nghyfarfodydd y Cyfeillion am y byddai hynny\u2019n amharu ar y broses o osod gwreiddiau distawrwydd.<\/p>\n<figure id=\"attachment_533\" aria-describedby=\"caption-attachment-533\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"http:\/\/www.waldowilliams.com\/?attachment_id=533\" rel=\"attachment wp-att-533\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-533 \" title=\"Rowan Williams\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/IMG_6012_4000px_wide-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"http:\/\/www.waldowilliams.com\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/IMG_6012_4000px_wide-300x200.jpg 300w, http:\/\/www.waldowilliams.com\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/IMG_6012_4000px_wide-600x400.jpg 600w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-533\" class=\"wp-caption-text\">Yr Archesgob yn ymweld \u00e2 Charreg Waldo<\/figcaption><\/figure>\n<p>Pwysleisiodd Rowan Williams fod barddoniaeth yn gwrthwynebu ystrydebau ac odli geiriau\u2019n ddi-ben-draw am fod y gwir fardd yn awyddus i gyfleu cyfanrwydd geiriau trwy symlrwydd mynegiant. Celfyddyd yw barddoniaeth, meddai, sy\u2019n awyddus i greu cymod, a dyna pam y gwrthwynebai Waldo drachwant sy\u2019n creu elw a rhwygo\u2019r ddaear gan beiriannau rhyfel am ei fod o\u2019r farn mai hau hadau Duw a ddylid ei wneud yn y pridd. Roedd Waldo, meddai, trwy fynegi\u2019r profiad a gafodd ym Mharc y Blawd a Weun Parc y Blawd, fel y gwna yn \u2018Mewn Dau Gae\u2019, yn tystio i\u2019r grym trawsnewidiol sydd yn yr awen.<\/p>\n<p>Cyfeiriodd at ddisgrifiad Waldo ohono\u2019n dyst i fedydd bachgen ifanc oedd ar y ffordd i ryfel ac fel roedd yn dyheu y byddai\u2019n bosib i\u2019r g\u0175r ifanc drawsnewid ei deyrngarwch i\u2019r wladwriaeth i deyrngarwch i\u2019r awen sy\u2019n meddu ar ddyfnderoedd cudd a fedr weddnewid y byd. Gadawyd y gynulleidfa mewn llesmair wrth i Esgob Tyddewi, J. Wyn Evans esgyn i\u2019r pulpud i gynnig gair o ddiolch. Fyddai yntau chwaith ddim wedi cael gwneud hynny drigain mlynedd n\u00f4l pan benderfynodd un o\u2019i ragflaenwyr, yr Esgob J. R. Richards, na ch\u00e2i ffeiradon a phregethwyr gyfnewid pulpudau o dan unrhyw amodau o fewn ei esgobaeth. Ond brawdgarwch piau erbyn hyn wrth i bawb sylweddoli y gallai llais bardd-heddychwr sicrhau cymod mewn aml i ran o\u2019r byd pe bai\u2019r gwleidyddion a\u2019r cadfridogion yn fodlon gwrando ar y distawrwydd.<\/p>\n<figure id=\"attachment_536\" aria-describedby=\"caption-attachment-536\" style=\"width: 225px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"http:\/\/www.waldowilliams.com\/?attachment_id=536\" rel=\"attachment wp-att-536\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-536 \" title=\"Rowan Williams\" src=\"\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/Y-Dorf1-225x300.jpg\" alt=\"\" width=\"225\" height=\"300\" srcset=\"http:\/\/www.waldowilliams.com\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/Y-Dorf1-225x300.jpg 225w, http:\/\/www.waldowilliams.com\/wp-content\/uploads\/2012\/04\/Y-Dorf1-450x600.jpg 450w\" sizes=\"auto, (max-width: 225px) 100vw, 225px\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-536\" class=\"wp-caption-text\">Y gynulleidfa yng Nghapel Pisgah yn gwrando<\/figcaption><\/figure>\n<p>Ymneilltuodd yr Archesgob Rowan i\u2019r Festri wedyn i gyfarfod \u00e2\u2019r rhan fwyaf o\u2019r dorf a lenwai\u2019r capel hyd at yr ymylon, yn eu plith nifer wedi teithio\u2019n unswydd o bob rhan o Gymru benbaladr yn cynnwys Llandudno, Caerdydd, Caernarfon, Llanelli, Abertawe ac Aberystwyth i wrando ar y g\u0175r goleuedig sydd wedi cyhoeddi ei fwriad i ddychwelyd i fyd academia yng Ngholeg Magdalen, Caergrawnt, wedi treulio deng mlynedd yn ei swydd bresennol. Cyflwynodd Vernon Beynon ddwy golfen o Barc y Blawd a Weun Parc y Blawd i\u2019r Archesgob i gofio mai profiad llencyndod yn y perci hynny a gyffr\u00f4dd Waldo i gyfansoddi \u2018Mewn Dau Gae\u2019 dros 40 mlynedd yn ddiweddarach. Diflannodd Rowan Williams o Landysilio-yn-Nyfed wedi iddo ysgwyd llaw \u00e2 neiaint Waldo gan ddweud cymaint o fraint oedd hi iddo i wneud hynny; gadawodd gan adael ei ostyngeiddrwydd ar \u00f4l ac adnabyddiaeth o\u2019r newydd o fawredd Waldo Williams.<\/p>\n<p><audio src=\"http:\/\/www.waldowilliams.com\/wp-content\/uploads\/2020\/12\/Rowan_Williams.mp3\" controls=\"controls\"><\/audio><\/p>\n<p><!--:--><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar nos Wener, Mawrth 23, 2012 traddodwyd darlith gan Archesgob Caergaint, Rowan Williams, ar y testun &#8216;Poetry and Peacemaking&#8217; yng nghyd-destun barddoniaeth Waldo yng Nghapel Pisga, Llandysilio yn Sir Benfro&#8230;.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":373,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"om_disable_all_campaigns":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"_uf_show_specific_survey":0,"_uf_disable_surveys":false,"footnotes":""},"categories":[7],"tags":[],"class_list":["post-213","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-recent-events"],"aioseo_notices":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=\/wp\/v2\/posts\/213","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=213"}],"version-history":[{"count":119,"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=\/wp\/v2\/posts\/213\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3554,"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=\/wp\/v2\/posts\/213\/revisions\/3554"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=\/wp\/v2\/media\/373"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=213"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcategories&post=213"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/www.waldowilliams.com?lang=cy%2Findex.php&rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Ftags&post=213"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}