Bardd

Ymddengys na fu erioed gyfnod pan nad oedd Waldo’n ymdrin â geiriau. Byddai yntau a’i chwaer, Morvydd, byth a hefyd yn barddoni pan oedden nhw’n blant. Arferai Morvydd gystwyo Waldo am fod yn rhy afradlon â’i ansoddeiriau gan ddweud na ddeuai ddim ohono fel bardd nes y cai wared ohonyn nhw. Yn Saesneg y bydden nhw’n llunio penillion. Wrth gellwair rhywdro amheuai eu hewythr Gwilamus, a oedd ei hun yn fardd, eu gallu i gyfansoddi gan osod her iddynt i greu pennill am y basin cawl a oedd ar y ford o’u blaenau. Dyma eu hymdrech: The basin stands on the table And beneath it lies the cloth. And well is the basin able To hold a basinful of broth.

Enillodd Waldo ei wobr eisteddfodol gyntaf yn 17 oed ym Maenclochog ond ymddengys na roes ei fryd o ddifrif erioed ar ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol. Dechreuodd gyfansoddi pryddest ar gyfer Eisteddfod Lerpwl 1929 ond ni ddaeth yn fwcwl. Cyfansoddodd ddrafft o awdl ar gyfer Eisteddfod Abergwaun 1936 ar y testun ‘Tŷ Ddewi’. Cafodd ei ymdrech ei hanfon i’r gystadleuaeth yn ddiarwybod iddo gan ei gyfaill, D. J. Williams, a’i dyfarnu’n ail gan y tri beirniad gyda’r feirniadaeth ei bod yn frith o gamgymeriadau elfennol, er yn rhagori ar yr ymdrechion eraill o ran ei chynnwys. Pan gafodd yr awdl ei chaboli a’i chyhoeddi yn y gyfrol Dail Pren fe’i hystyriwyd gan lawer yn amgenach awdl na’r rhelyw a gadeiriwyd yn y Genedlaethol dros y blynyddoedd, am ei bod yn arddangos dawn Waldo ar ei phraffaf ac yn mynegi ei feddyliau dyfnaf.

Hyd y gwyddom ni fentrodd Waldo gystadlu erioed yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedyn ond bu’n beirniadu rhai o brif gystadlaethau’r ŵyl droeon, a hynny gyda’i graffter nodweddiadol er iddo ar un achlysur wobrwyo soned a oedd un llinell yn fyr o’r nifer arferol. Byddai byth a hefyd yn cyfansoddi limrigau ac englynion byrfyfyr ar sail beth bynnag fyddai wedi’i ogleisio a hynny er mawr ddifyrwch i’w gynulleidfa. Daeth teulu o Sir Gaerhirfryn ar ei draws rhywbryd pan oedd yn ymdrochi’n noeth yn y môr ym Mhen Llŷn. Daeth yr englyn hwn i’r fei: Dihangaf rhag y dynged – a heb ddrôrs Y bydd raid im fyned Rhedaf tua’r ymwared Yn borc noeth trwy Birkenhead. Cyfansoddodd Waldo nifer o gerddi ar gyfer plant i’w cyhoeddi mewn cyfrol ar y cyd â cherddi o eiddo E. Llwyd Williams yn 1936, Cerddi’r Plant.

Profodd llawer o’r rheiny’n boblogaidd fel darnau adrodd am gyfnod maith wedyn. Ond ei gyfrol fawr a’i unig gyfrol o farddoniaeth wrth gwrs yw Dail Pren a gyhoeddwyd yn 1956. Dyma rai o’r cyhoeddiadau Cymraeg sy’n ymdrin ag agweddau o farddoniaeth a bywyd Waldo Williams:

  • Dal Pridd y Dail Pren, Dafydd Owen, Llyfrau’r Dryw (1972)
  • Waldo:Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, James Nicholas (golygydd). Gwasg Gomer (1972)
  • Waldo Williams Thema yn ei Waith: Dyfnallt Morgan, Darlith Flynyddol Asgell Addysg Bellach y Preseli,  (1975)
  • Waldo Williams: Cyfres y Meistri, Robert Rhys (golygydd), Gwasg Christopher Davies (1981)
  • Waldo: Llên y Llenor, Ned Thomas, Gwasg Pantycelyn (1985)
  • Chwilio am Nodau’r Gân: Astudiaeth o Yrfa Lenyddol Waldo Williams hyd at 1939, Robert Rhys, Gwasg Gomer (1992)
  • Cerddi Waldo Williams: J. E. Caerwyn Williams (golygydd) Gwasg Gregynog (1992)
  • Bro a Bywyd Waldo Williams: James Nicholas (golygydd), Cyhoeddiadau Barddas (1996)
  • Waldo – Un funud fach: Pigion 2000, Tegwyn Jones (golygydd), Gwasg Carreg Gwalch (1998)
  • Waldo Williams: Rhyddiaith, Damian Walford Davies, Gwasg Prifysgol Cymru (2001)
  • Môr o Oleuni: Hefin Wyn (golygydd), Cyhoeddiadau Clebran (Awst 2004)
  • Môr o Oleuni: Cyflwyniad ar fideo o sioe dathlu canmlwyddiant geni Waldo Williams, Clychau Clochog (2005)
  • Daw Dydd, Detholiad Mererid Hopwood o gerddi Waldo Williams: Llyfrau Llafar, Tympan (2005)
  • Cof ac Arwydd: Ysgrifau Newydd ar Waldo Williams, Damien Walford Davies a Jason Walford Davies, Cyhoeddiadau Barddas (2006)
  • Stori Waldo Williams, Bardd Heddwch: Alan Llwyd, Cyhoeddiadau Barddas (2010)
  • Dail Pren, Rhagymadrodd gan Mererid Hopwood, Gwasg Gomer (2010)
  • Taith Waldo: Waldo Williams 1904 – 1971, (Taflen), Eirwyn George, Cymdeithas Waldo (2013)
  • Waldo: Cofiant Waldo Williams 1904-1971, Alan Llwyd, Gwasg y Lolfa (2014)

Dros y blynyddoedd cyhoeddwyd erthyglau am Waldo mewn amrywiol gylchgronau megis Y Genhinen, Barn, Y Faner Newydd, Taliesin ac mewn cyfresi o feirniadaeth lenyddol megis Ysgrifau Beirniadol. Ac wrth reswm ceir cyfeiriadau ato mewn cyfrolau sy’n olrhain hanes llenyddiaeth Gymraeg.

Back to top