Mewn Dau Gae

O ba le’r ymroliai’r môr goleuni

Oedd a’i waelod ar Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd?

Ar ôl imi holi’n hir yn y tir tywyll,

O b’le deuai, yr un a fu erioed?

Neu pwy, pwy oedd y saethwr, yr eglurwr sydyn?

Bywiol heliwr y maes oedd rholiwr y môr.

Oddi fry uwch y chwibanwyr gloywbib, uwch callwib y cornicyllod,

Dygai i mi y llonyddwch mawr.


Rhoddai i mi’r cyffro lle nad oedd

Ond cyffro meddwl yr haul yn mydru’r tes,

Yr eithin aeddfed ar y cloddiau’n clecian,

Y brwyn lu yn breuddwydio’r wybren las.

Pwy sydd yn galw pan fo’r dychymyg yn dihuno?

Cyfod, cerdd, dawnsia, wele’r bydysawd.

Pwy sydd yn ymguddio ynghanol y geiriau?

Yr oedd hyn ar Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd.


A phan fyddai’r cymylau mawr ffoadur a phererin

Yn goch gan heulwen hwyrol tymestl Tachwedd

Lawr yn yr ynn a’r masarn a rannai’r meysydd

Yr oedd cân y gwynt a dyfnder fel dyfnder distawrwydd.

Pwy sydd, ynghanol y rhwysg a’r rhemp?

Pwy sydd yn sefyll ac yn cynnwys?

Tyst pob tyst, cof pob cof, hoedl pob hoedl,

Tawel ostegwr helbul hunan.


Nes dyfod o’r hollfyd weithiau i’r tawelwch

Ac ar y ddau barc fe gerddai ei bobl,

A thrwyddynt, rhyngddynt, amdanynt ymdaenai

Awen yn codi o’r cudd, yn cydio’r cwbl,

Fel gyda ni’r ychydig pan fyddai’r cyrch picwerchi

Neu’r tynnu to deir draw ar y weun drom.

Mor agos at ei gilydd y deuem –

Yr oedd yr heliwr distaw yn bwrw ei rwyd amdanom.


O, trwy oesoedd y gwaed ar y gwellt a thrwy’r goleuni y galar

Pa chwiban nas clywai ond mynwes? O, pwy oedd?

Twyllwr pob traha, rhedwr pob trywydd,

Hai! y dihangwr o’r byddinoedd

Yn chwiban adnabod, adnabod nes bod adnabod.

Mawr oedd cydnaid calonnau wedi eu rhew rhyn.

Yr oedd rhyw ffynhonnau’n torri tua’r nefoedd

Ac yn syrthio’n ôl a’u dagrau fel dail pren.


Am hyn y myfyria’r dydd dan yr haul a’r cwmwl

A’r nos trwy’r celloedd i’w mawrfrig ymennydd.

Mor llonydd ydynt a hithau a’i hanadl

Dros Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd heb ludd,

A’u gafael ar y gwrthrych, y perci llawn pobl.

Diau y daw’r dirhau, a pha awr yw hi

Y daw’r herwr, daw’r heliwr, daw’r hawliwr i’r bwlch,

Daw’r Brenin Alltud a’r brwyn yn hollti.