Preseli

Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,

Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.

A’m llawr o’r Witwg i’r Wern ac i lawr i’r Efail

Lle tasgodd y gwreichion sydd yn hŷn na harn.


Ac ar glosydd, ar aelwydydd fy mhobl –

Hil y gwynt a’r glaw a’r niwl a’r gelaets a’r grug,

Yn ymgodymu â daear ac wybren ac yn cario

Ac yn estyn yr haul i’r plant, o’u plyg.


Cof ac arwydd, medel ar lethr eu cymydog.

Pedair gwanaf o’r ceirch yn cwympo i’w cais,

Ac un cwrs cyflym, ac wrth laesu eu cefnau

Chwarddiad cawraidd i’r cwmwl, un llef pedwar llais.


Fy Nghymru, a bro brawdoliaeth, fy nghri, fy nghrefydd,

Unig falm i fyd, ei chenhadaeth, ei her,

Perl yr anfeidrol awr yn wystl gan amser,

Gobaith yr yrfa faith ar y drofa fer.


Hon oedd fy ffenestr, y cynaeafu a’r cneifio.

Mi welais drefn yn fy mhalas draw.

Mae rhu, mae rhaib drwy’r fforest ddiffenestr.

Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw.