Un funud fach cyn elo’r haul o’r wybren,
Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt,
I gofio am y pethau anghofiedig
Ar goll yn awr yn llwch yr amser gynt.

Fel ewyn ton a dyr ar draethell unig,
Fel cân y gwynt lle nid oes glust a glyw,
Mì wn eu bod yn galw’n ofer arnom –
Hen bethau anghofiedig dynol ryw.

Camp a chelfyddyd y cenhedloedd cynnar,
Aneddau bychain a neuaddau mawr,
Y chwedlau cain a chwalwyd ers canrifoedd
Y duwiau na ŵyr neb amdanynt ‘nawr.

A geiriau bach hen ieithoedd diflanedig,
Hoyw yng ngenau dynion oeddynt hwy,
A thlws i’r clust ym mharabl plant bychaìn,
Ond tafod neb ni eilw arnynt mwy.

O, genedlaethau dirifedi daear,
A’u breuddwyd dwyfol a’u dwyfoldeb brau,
A erys ond tawelwch i’r calonnau
Fu gynt yn llawenychu a thristáu?

Mynych ym mrig yr hwyr, a mi yn unig,
Daw hiraeth am eich ‘nabod chwi bob un;
A oes a’ch deil o hyd mewn Cof a Chalon,
Hen bethau anghofiedig teulu dyn?

Back to top