Y Gymdeithas

Llywyddion Anrhydeddus:

  • Eirwyn George
  • Dr Mererid Hopwood
  • Emyr Llewelyn
  • Alun Ifans
  • Dr Rowan Williams

Sefydlwyd Cymdeithas Waldo yn 2010 er mwyn hyrwyddo’r amcanion canlynol:

  • Diogelu’r cof am waith a bywyd Waldo Williams a ystyrir yn un o lenorion mwyaf dylanwadol Cymru ac yn fardd o statws rhyngwladol.
  • Hyrwyddo cyfraniad Waldo Williams at lên a diwylliant Cymru trwy ddehongli a chreu ymwybyddiaeth ddyfnach o’i waith.
  • Cydnabod a hyrwyddo cyfraniad Waldo Williams i heddychiaeth.

Mae’r pwyllgor gwaith yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried nifer o brosiectau sy’n gydnaws â’r amcanion.

Penderfynwyd cynnal Darlith Flynyddol ar neu yn agos at ddiwrnod pen-blwydd Waldo – Medi’r 30.

Mae’r Pwyllgor yn ymwybodol bod Waldo yn heddychwr a Chrynwr yn ogystal â bardd ac yn awyddus i dynnu sylw at yr agweddau hynny o’i bersonoliaeth heb anghofio ei fod hefyd yn seiclwr cyson.

Waldo Williams

Rhoddir sylw i’r prosiectau fydd ar y gweill ar y gwefan hwn.

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Cyntaf Cymdeithas Waldo ar Ionawr 23, 2011 yn Festri Bethel, Mynachlog-ddu, Sir Benfro.

Mabwysiadwyd cyfansoddiad ac etholwyd y swyddogion cychwynol canlynol:

  • Cadeirydd – Cerwyn Davies
  • Is-gadeirydd – Rachel Philipps James
  • Trysorydd – Hefin Parri-Roberts
  • Ysgrifenyddion – Wyn Owens ac Alun Ifans
  • Swyddog y Wasg – Hefin Wyn

Os am drefnu gwibdaith o amgylch llefydd sy’n gysylltiedig â Waldo yn Sir Benfro, cysylltwch â Hefin Wyn 01437 532236 hefinwyn367@btinternet.com

Fe fu’r diweddar Athro Emeritus R. M. (Bobi) Jones a’r cyn-Archdderwydd Jâms Niclas yn ogystal â’r Chwaer Nora Bosco Costigan hefyd yn Lywyddion Anrhydeddus

Back to top