Yn 1958 dyfarnwyd gwobr Cyngor y Celfyddydau i Waldo Williams yn gydnabyddiaeth am ragoriaeth y gyfrol Dail Pren. Cyflwynodd Waldo’r £100 i goffrau UNESCO er mwyn hyrwyddo addysg plant ar draws y byd.

Dewisodd Waldo deitl ar gyfer ei gyfrol o farddoniaeth ymhell cyn iddo fynd ati i gasglu’r cerddi ynghyd ar gyfer eu cyhoeddi. Mae’n gyfeiriad uniongyrchol at yr ail adnod ym Mhennod 22 o Lyfr y Datguddiad. Tanlinellai hynny, yn ei dro, y wybodaeth drylwyr a feddai Waldo o gynnwys y Beibl yn ogystal â syniadau amrywiaeth o athronwyr: “ac yr oedd dail y pren er iachâd y cenhedloedd”.

Dail Pren

Amheuai ambell feirniad llenyddol ddilysrwydd rhai cerddi yn y gyfrol am eu bod yn rhy ffwrdd â hi ac arwynebol o gymharu â’r cerddi a achosai gryn grafu pen i ddeall eu harwyddocâd. Ond dadleuai Waldo fod y cerddi hynny i gymeriadau bro ei blentyndod yr un mor bwysig â cherddi’r profiadau dwys. Mynnai ei fod hefyd yn fardd cymdeithasol a ddymunai ganu i’w bobl mewn modd cwbl hygyrch.

Hwyrach mai’r gerdd fwyaf poblogaidd ac adnabyddus yn y gyfrol yw ‘Cofio’ sy’n mynegi cynyrfiadau oesol a thragwyddol, yn ymdrin â gwareiddiadau coll a lle dyn o fewn y cread gan gyfeirio at ei ddistadledd yng nghanol hynny oll. Neu o leiaf dyna un dehongliad ohoni. Cafodd ei hadrodd yn dwll mewn eisteddfodau am gyfnod a barnwyd nad oedd yn ddim mwy na rhebets sentimental. Adferwyd ei statws erbyn heddiw –

Un funud fach cyn elo’r haul o’r wybren,
Un funud fwyn cyn delo’r hwyr i’w hynt,
I gofio am y pethau anghofiedig
Ar goll yn awr yn llwch yr amser gynt.

Mae amgylchiadau cyfansoddi’r gerdd yn ddiddorol am i Waldo ddweud iddi ‘ddod iddo’ wrth i’r haul fachlud pan oedd ar ffarm ei gyfaill mawr, Willie Jenkins, yn Hoplas, Rhoscrowther, gerllaw Penfro. Roedd wrthi’n cyflawni gorchwylion o amgylch y clos ar y pryd a phrin y gallai atal ei dyfod.

Yr un mor ddiddorol yw cefndir cyfansoddi un o’i gerddi mwyaf astrus, ‘Mewn Dau Gae’ a luniwyd yn arbennig er mwyn ei chynnwys yn Dail Pren. Ond bu Waldo yn ceisio cymell ei ‘dyfodiad’ ers deugain mlynedd am ei bod yn seiliedig ar brofiad cyfriniol a gafodd yn grwt wrth hamddena ar hyd dau o berci cymydog i’r teulu yn Llandysilio. Roedd yr eiliad o ddarganfyddiad hwnnw yng nghanol y ‘môr goleuni’ yn arwain at hunanholi ynghylch trefn a phatrwm y cread a swyddogaeth yr Hollalluog o fewn ei greadigaeth a’i deyrnas ei hun:

O ba le’r ymroliai’r môr goleuni
Oedd a’i waelod ar Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd?
Ar ôl imi holi’n hir yn y tir tywyll,
O b’le deuai, yr un a fu erioed?
Neu pwy, pwy oedd y saethwr, yr eglurwr sydyn?
Bywiol heliwr y maes oedd rholiwr y môr.
Oddi fry uwch y chwibanwyr gloywbib, uwch callwib y cornicyllod,
Deuai i mi y llonyddwch mawr.

Mae’n debyg mai ffefryn Waldo ei hun o’i holl gerddi oedd ‘Preseli’ a gyfansoddwyd pan oedd yn byw yn alltud yn Lloegr a hynny mewn ymateb i’r bygythiad i droi llethrau’r Preselau’n faes ymarfer milwrol parhaol. Gwelai hynny fel anrheithio tir cysegredig. Hon oedd yr unig gerdd o’i eiddo yr aeth ati i’w chyfieithu i’r Saesneg. Mynych y dyfynnwyd y llinell glo mewn pulpudau a llysoedd barn fel ple dros beidio â difwyno na glastwreiddio Cymreictod:

Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw

Teg cyfeirio at y gerdd olaf a gyfansoddwyd gan Waldo, ‘Llandysilio-yn-Nyfed’, nad yw yn Dail Pren, i ddarlunio rhychwant ei awen. Canmol Sant Tysilio a wna yn y soned am beidio â dilyn gyrfa fel rhyfelwr yn null ei dylwyth ond yn hytrach ddewis llwybr heddwch.

Dysilio alltud na chwenychai’i sedd
Yn Meifod gynt, rhag gorfod tynnu cledd.

Roedd hynny, wrth gwrs, yn ganolog i fywyd Waldo ei hun.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd argraffiad clawr caled, ysblennydd o Dail Pren gan Wasg Gomer sy’n cynnwys cyflwyniad yr un mor ysblennydd gan y Prifardd Mererid Hopwood, y ferch gyntaf i ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Cipiodd goron a medal ryddiaith yr ŵyl hefyd yn ei thro. Mae Mererid wrth gwrs yn un o Lywyddion Anrhydeddus Cymdeithas Waldo.

Gadael Ymateb

Back to top