Linda

Cyfarfu Waldo â Linda Llewelyn pan oedd ar ei gwyliau yn Rhosaeron gyda’i chyfnither, Gwladys Llewelyn. Cafodd Linda ei magu yn Y Maerdy, Rhondda Fach, yn ferch i ewythr Gwladys, ar ochr ei thad, a oedd ei hun yn hanu o Landysilio.

Roedd mam Gwladys yn chwaer i dad Waldo ac roedden nhw wedi cyfarfod a phriodi yn America. Bu farw Mary Llewelyn ar enedigaeth Gwladys a dychwelodd y fechan o Ohio i gael ei magu fel rhan o’r teulu yn Rhosaeron.

Saesneg fyddai’r iaith rhwng Waldo a Linda gan amlaf ac yn Saesneg y cyfansoddodd ei ganeuon serch iddi. Ymdrinnir â’r berthynas rhyngddynt yn nrama Euros Lewis, Linda, (gwraig Waldo) a berfformiwyd gan Gwmni Cydweithredol Troedyrhiw. Rhyfeddai Waldo at allu pobl Y Maerdy, yn y cyfnod hwnnw, i droi o’r Gymraeg i’r Saesneg ac yn ôl drachefn, bron o fewn yr un frawddeg wrth sgwrsio.

Priodwyd Waldo a Linda yng Nghapel Blaenconin, Llandysilio ar 14 Ebrill, 1941. Roedd yntau’n 36 oed a hithau’n 29. Credir bod gan Linda beth profiad o ddysgu mewn ysgolion ym mharthau Gwlad yr Haf yn ne-orllewin Lloegr.

Sefydlwyd eu cartref priodasol cyntaf yng Nghas-mael lle’r oedd Waldo’n brifathro dros dro. Yn gynnar yn 1942 symudwyd i Lŷn pan gafodd Waldo swydd yn Ysgol Uwchradd Botwnnog ond llethwyd Linda gan afiechyd yn fuan. Bu farw o’r diciâu ar Fai’r 1943.

Teimlodd Waldo’r golled i’r byw. Ni wnaeth erioed ystyried ail-briodi. Pan awgrymai rhywun y dylai gymryd gwraig eto byddai ei lygaid yn melltennu. Ystyriai ei hun yn ddyn priod yn hytrach na dyn gweddw ac nad oedd angau wedi gwneud dim mwy na’u gwahanu dros dro.

Wedi marwolaeth Linda anfonai Waldo gardiau at ei gydnabod yn cynnwys y gerdd hon:

Hi fu fy nyth, hi fy nef,
Fy nawdd yn fy nau addef,
Ei chysur, yn bur o’i bodd,
A’i rhyddid hi a’u rhoddodd.
Hi wnaeth o’m hawen, ennyd,
Aderyn bach uwch drain byd.
Awel ei thro, haul ei threm,
Hapusrwydd rhwydd lle’r oeddem
Fy nglangrych, fy nghalongref
Tragyfyth, fy nyth, fy ne.

Back to top