Vernon Beynon yn rhannu ei atgofion am Waldo yn Weun Parc y Blawd.
A hithau yn 120 mlynedd ers geni Waldo hwyrach bod mwy o weithgareddau nag arfer wedi’u trefnu eleni. Cynhaliwyd tair taith gerdded ‘Dilyn Llwybrau Waldo’. Y gyntaf fore Sadwrn Mai 25 yn Llandysilio yn dilyn ei lwybrau bachgendod a’r cysylltiadau teuluol. Ymwelwyd â Pharc y Blawd a Weun Parc y Blawd yng nghwmni perchennog y tir, Vernon Beynon. Bu’n sôn am ei adnabyddiaeth o Waldo ac am arfer y teulu o dreulio oriau o dan gysgod derwen yn y parc yn ystod yr haf yn darllen gan fwyaf. Dywedir mai yn y ddau barc y cafodd Waldo’r weledigaeth i gyfansoddi ‘Mewn Dau Gae’. Aed heibio Rhosaeron, y cartref teuluol, lle gwelir plac cywrain o waith y llythrennwr Ieuan Rhys ar y wal. Treuliwyd peth amser ym mynwent Capel Blaenconin ymhlith y beddau teuluol gan wrando ar Wyn Owens yn traethu cyn dychwelyd i Festri Capel Pisga i gael paned.
Cynhaliwyd yr ail daith fore Sadwrn Mehefin 29 wrth Gapel Millin ger Slebets gan gerdded lawr at y Dderwen Gam ar lan Afon Cleddau Ddu. Arferai Waldo gysgodi yn y capel yn yr oriau mân cyn mentro lawr at yr afon ar doriad gwawr. Gwelai’r profiad hwnnw o’r dydd yn deffro yng nghanol yr adar rhydio fel dadeni o’r newydd. Ond clowyd drws y capel ar ôl i’r aelodau gredu mai rhyw drempyn oedd yn cymryd mantais o’r adeilad liw nos. Deuai rhyw droeon trwstan felly ar draws Waldo byth a beunydd. Y tywysydd oedd Hefin Wyn yn cael ei gynorthwyo gan Teifryn Williams. Dychwelwyd i’r capel, nad oedd ar glo, i fwynhau paned a sgwrs bellach.
Teifryn, nai Waldo, yn darllen y gerdd ‘Y Dderwen Gam’ wrth y dderwen gam
Cynhaliwyd yr olaf o’r teithiau cerdded ddydd Sadwrn, 27 Gorffennaf pan ymwelwyd â Chas-mael lle bu Waldo’n brifathro dros dro am gyfnod. Arweinydd y daith oedd Alun Ifans, sy’n gyn-brifathro’r ysgol ei hun, ac fe gafwyd llawer o wybodaeth ganddo, nid yn unig am gysylltiadau Waldo â Chas-mael ond hanes y pentref hefyd.
Croesawyd 25 o bobol a rhai wedi teithio’r holl ffordd o Rhuthun a Madrid. Ymwelwyd â Chapel Smyrna, sgwar y pentref, yr Eglwys, yr hen ysgol a Weun Cas-mael. Darllenwyd y cerddi ‘Fel hyn y bu’ ac ‘Ar Weun Cas-mael’ gan Ann Davies.
Wedi bwyta cinio yn neuadd yr ysgol tywysodd Alun bawb o gwmpas yr oriel yn yr ysgol gan sôn am hanes y lluniau, yr artistiaid a’r modd y daethon nhw yn rhan o oriel yr ysgol.
Alun Ifans, y tywysydd, yn annerch y pererinion
Trefnwyd y Teithiau gan Llinos Penfold.