Darlith Flynyddol 2020

Darlith Flynyddol 2020

Oherwydd yr ansicrwydd a’r pryderon ynghylch y pandemig coronafeirws penderfynwyd canslo’r Ddarlith Flynyddol a oedd wedi’i threfnu ar gyfer nos Wener, 25 Medi eleni yng Nghapel Bethel, Mynachlog-ddu. Gobeithio y cawn gyfle eto i wahodd Menna Elfyn i’n hannerch. Yn y cyfamser mae darlithoedd y gorffennol wedi’u recordio ac i’w clywed ar y gwefan hwn. Cliciwch ar Achlysuron.

Bonws wedyn yw gwrando ar un o’n Llywyddion Anrhydeddus, Mererid Hopwood, yn  cyflwyno darlith fel rhan o arlwy ar y we yr Eisteddfod Genedlaethol Amgen. Mae’n werth gwrando ar ‘Daw’r Wennol yn Ôl i’w Nyth’ wrth i Mererid drafod nifer o gerddi Waldo gyda’i fflach arferol ar y sgiw bren. Ewch i’w chyrchu. Fe’i gosodwyd ar Fehefin 30.

Pleser yw cael nodi bod y gyfrol ‘Blodeugerdd Waldo, Teyrnged y Beirdd’, wedi’i golygu gan y prifardd Eirwyn George, wedi’i chyhoeddi gan Wasg y Lolfa. Ynddi ceir 62 o gerddi gan 40 o feirdd. Wrth nodi iddo ystyried dewis detholiad dywed Eirwyn “ . . . ni allwn beidio â theimlo hefyd fod yma gorff o ganu mawl sy’n haeddu cael ei ddiogelu a’i gadw yn gorff cyfan.” Bydd taliadau breindal y gyfrol yn cael eu cyflwyno i Gymdeithas Waldo.

Teg nodi hefyd bod blogiwr o’r enw Welldigger wedi postio pedair erthygl yn llawn lluniau a gwybodaeth ddifyr am Waldo ar ei flog cynhwysfawr. Chwiliwch amdano.

Mae tipyn o waith pori ar y gwefan hwn hefyd. Ydych chi wedi taro heibio ‘Beth ma’ nhw’n ei ddweud’? Fe ddaw eto haul ar fryn, fe ddaw’r wennol nôl i’w nyth.

Back to top