Darlith Emyr Llewelyn 2019

Darlith Emyr Llewelyn 2019

‘Crefydd Waldo’ oedd testun darlith Emyr Llewelyn ar achlysur traddodi nawfed Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yn Oriel y Parc, Tyddewi ar nos Wener, Medi 27. Emyr draddododd y ddarlith gyntaf hefyd yng Nghapel Bethel, Mynachlog-ddu, pan aeth ati i ddadansoddi’r awdl ‘Tŷ Ddewi’.

Y tro hwn aeth ati i gymharu cefndiroedd gwledig Iesu Grist yn Nasareth a Waldo Williams yn y Preselau gan ddod i’r casgliad bod y Cymro yn ddisgybl ffyddlon i’r Iddew am ei fod yntau hefyd am droi’r byd wyneb i waered.

Magwyd y ddau ymhlith gwerinwyr ac roedd y ddau yn ymwybodol o symbolau gorthrwm. O’i gartref gwelai’r Iesu y gaer Rufeinig Sapphorus tra gwelai Waldo dwr Normanaidd y Garn yn y pellter. Tra elai’r Iesu i’r synagog ai Waldo i gapel i glywed salm ac emyn a gweddi ac i ymglywed â phethau’r ysbryd.

Awgrymodd fod y gerdd ‘Preseli’ fel disgrifiad o’r gymdeithas wâr y canfu Waldo ei hun yn ei chanol yn adlewyrchu darluniau arlunwyr megis Millet a Monet pan fydden nhw’n portreadu gwerinwyr yn eu plyg ‘yn ymgodymu â daear ac wybren . . .’.

‘Hil y gwynt a’r glaw a’r niwl a’r ffetanau sach’ oedd fersiwn gynharaf Waldo o’r llinell flaenorol yn y gerdd meddai am fod y sach yn cadw’r trigolion yn sych wrth iddyn nhw ‘estyn yr haul i’r plant, o’u plyg’. Ystyr hynny meddai oedd trosglwyddo gwerthoedd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Ni dderbyniodd yr Iesu safonau’r synagogau’n ddi-gwestiwn a’r un modd doedd Waldo ddim yn derbyn safonau’r capeli Anghydffurfiol yn ddi-gwestiwn. Pwysleisiodd Emyr fod Waldo wedi astudio crefyddau’r Dwyrain a’i fod wedi cyfansoddi emyn yn 17 oed ond dyfynnodd nifer o gerddi cynnar wedyn oedd yn mynegi ei anfodlonrwydd gyda’r gyfundrefn grefyddol.

Mae ‘Piclo Gweledigaeth’ yn gymaint o gondemniad o brofiad Paul ag yw o bregethwyr uniongred. A’r un modd y gerdd ‘Yn Gymaint . . .’ yn gondemniad ar grefydd sefydliadol sy’n anwybyddu plant  sy’n gorfodi breuddwydio am gysuron yn eu cwsg am nas caent pan fyddan nhw’n effro.

Yn gefndir i hyn, meddai’r darlithydd, oedd sylweddoliad Waldo bod y grefydd Gristnogol wedi’i llygru pan gafodd ei mabwysiadu gan yr Ymherodraeth Rufeinig a’i defnyddio i gyfiawnhau rhyfeloedd yn gwbl groes i ddysgeidiaeth Iesu Grist. A’r ffaith na chredai y dylai gwladwriaeth arddel Cristnogaeth pe na roddai’r gorau i filwriaeth a’i gyrrodd i ymuno â’r Crynwyr.

Cred y Crynwyr yw na ellir cyfiawnhau rhyfel ar unrhyw delerau. Does dim pregethwyr yn eu hoedfaon. Ni cheir huotledd ond yn hytrach distawrwydd dwys. Rhoddir pwyslais ar Gristnogaeth ymarferol a rhoddodd Emyr enghreifftiau o Gristnogaeth ymarferol Waldo.

Treuliau nos Sul yng nghwmni Crynwr dall; am gyfnod bu’n ymweld â chyfaill ddwywaith yr wythnos i geisio ei ddiddyfnu oddi ar ddibyniaeth ar alcohol; arferai ymweld â theulu o sipsiwn ger Wdig er mwyn rhoi dau oren i’r crwt bach a phan gyffesodd un o’i neiaint ei fod wedi colli’i ffydd ni wnaeth ei ddwrdio ond yn hytrach ei annog i ganfod Duw ym mhrydferthwch natur neu ym mherthynas dyn a dyn.

Pan ddysgai mewn ysgolion eglwysig gwrthodai adrodd y Catechism gan ddweud ‘I would rather be lost by the truth than saved by a bag of tricks’. I Waldo roedd Duw i’w weld ym  mhersonoliaeth y tlotyn a’r difreintiedig. Iddo ef roedd grym yr ysbryd i’w weld yn y graig yn Nhrewman yn hytrach na’r twr o waith dyn. Yr un modd roedd Crist yn cynnig ei hun fel craig.

Uchod: Dau Grynwr yn y gynulleidfa a adwaenai Waldo’n dda – David Redpath a’i wraig Margaret

Yn gynharach lansiodd Emyr Llewelyn argraffiad newydd o’r gyfrol ‘Cerddi’r Plant’ o waith Waldo ac E. Llwyd Williams. Pwysleisiodd na ddylem gael ein twyllo gan symlrwydd llawer o’r cerddi. Mae ‘Pitran Pitran’, er enghraifft, wrth gyfeirio at y glaw yn disgyn ar doeon cartrefi pawb o bob gradd yn cyfleu cred Waldo mai cydradd yw’r ddynoliaeth gyfan. Ychwanegodd fod cyfansoddi’r cerddi hynny wedi bod yn gatharsis i Waldo wrth iddo ail-fyw ei blentyndod ei hun ac ail-fyw’r golled a deimlodd pan fu farw ei chwaer hŷn, Morfydd.

Uchod: Yr argraffiad diweddaraf o Cerddi’r Plant gyda chyflwyniad gan Mererid Hopwood

O gofio mai trigain mlynedd ynghynt y safodd Waldo fel ymgeisydd seneddol cyntaf Plaid Cymru yn Sir Benfro ac iddo ddechrau a gorffen ei ymgyrch yn Nhyddewi cafwyd teyrnged i’w asiant, Eirwyn Charles o’r Sgwâr, ger Mathri, gan Hefin Wyn.

Soniodd fod yna hwyl i’w gael yn y cyfarfodydd cyhoeddus wrth i’r canwr opera o asiant a’r bardd o ymgeisydd ateb cwestiynau ynghylch creu cyflogaeth trwy ddweud y bydden nhw’n agor ffatrïoedd gwneud iete, whilberi a chafnau moch. Ond roedd yna ddwyster hefyd wrth i un o weithwyr ffatri arfau Trecŵn holi Waldo a oedd yn wrthwynebydd cydwybodol. Ar ôl edrych i’r pellter am hydoedd dychwelodd i blith y gynulleidfa a rhoi un gair o ateb ‘Wdw’. Doedd dim angen iddo gyfiawnhau ei safbwynt.

Dadorchuddiwyd bwrdd gwybodaeth yn Oriel y Parc gan Alun Ifans yn rhoi braslun o bwysigrwydd Waldo. A thu fas i Alandale yn Heol Non yn y ddinas dadorchuddiwyd plac gan Ithel Parri-Roberts i nodi arhosiad Waldo yno. Cafwyd hanesion ei arhosiad gan y ddwy chwaer oedd yn byw yno ar y pryd, Enid ac Yvonne, ac am y cyfeillgarwch rhwng Waldo a’u tad, Johnny ‘Batch’.

Uchod: Y chwiorydd Enid ac Yvonne y tu fas i’w hen gartref Alendale yn Heol Non lle bu Waldo’n lletya am gyfnod. Rhannwyd eu hatgofion cyn dadorchuddio plac ar y wal i gofnodi’r cyfeillgarwch rhwng eu tad Johnny ‘Batch’ a Waldo.

Trannoeth trefnwyd taith gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir ac o amgylch Carn Llidi yn cael ei harwain gan Carol Owen o’r Parc Cenedlaethol a Hefin Wyn. Soniwyd am nodweddion y dirwedd a’r modd roedd Waldo wedi cyfeirio at yr ardal yn ei awdl ‘Tŷ Ddewi’.

Uchod: Rhai o’r fforddolion yn cael hoe ar y Daith Gerdded

Llun a Chelf a Cherdd a Chân

Llwyddodd arwerthiant o weithiau celf, cerddi a chaneuon gan arlunwyr ac awduron adnabyddus godi dros £9,000 i goffrau Cymdeithas Waldo mewn ychydig oriau ar fore Sadwrn, Tachwedd 16.

John ‘Cwmbetws’ Davies oedd y gŵr â’r forthwyl yn denu cynigion yn Ysgol y Frenni, Crymych. A bu cryn ymryson am rai eitemau. Gwerthwyd copi o’r argraffiad cyntaf o’r gyfrol ‘Dail Pren’ (1956), gyda llofnod Waldo arno ar gyfer ei gyfaill o fardd, Idwal Lloyd o Dre-fin, am dros £500.

Roedd dros 150 o eitemau ar werth a rhesymau amrywiol ac annisgwyl gan lawer dros gyfrannu rhoddion i’w gwerthu. Cyfrannodd Geraint Jarman bump o’i ganeuon mewn llawysgrifen am ei fod yn cofio Waldo yn galw gyda’r teulu yng Nghaerdydd pan oedd yn blentyn. Roedd eraill wrth gwrs yn edmygu bywyd egwyddorol y bardd a’r heddychwr ac yn dal i dynnu maeth o’i gerddi.

Trefnwyd a chasglwyd yr holl ddeunydd ar ran Cymdeithas Waldo gan Alun Ifans a hynny dros gyfnod o fisoedd.

Gwerthfawrogi Cerddi

Yn gynharach yn y flwyddyn cafwyd noson rhyfeddol yn Festri Bethel Mynachlog-ddu ar nos Wener, Mai 3, yn trafod rhai o gerddi dethol Waldo Williams sydd i’w gweld yn y gyfrol ‘Dail Pren’.

Llywiwyd y noson gan Wyn Owens ac Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Cymdeithas Waldo, a chafwyd cyfraniad gwiw gan y prifardd Eirwyn George yn ein goleuo ynghylch cynnwys pob un o’r cerddi a drafodwyd.

Y Sant

Trafodwyd y gerdd ddychan ‘Y Sant’ yn gyntaf sy’n cyfeirio at y modd y disgwylid i brifathro ysgol ymddwyn – rhaid iddo fod yn llwyr ymwrthodwr a fyth gael ei weld mewn tafarn yn bwrw lludded wedi wythnos o waith. Rhaid iddo fod yn selog mewn oedfaon ar y Sul a pheidio â defnyddio’r Sabath i hamddena ac anfon llythyr at hwn a’r llall. Rhaid iddo beidio damnio neb na chwaith gael ei ddamnio gan fyw bywyd dilychwin trwy wneud pob dim yn ddefodol gywir.

Roedd Waldo’n athro wrth gwrs ond prin y math hwnnw o sant a ddisgwylid gan Bwyllgor penodi. Roedd ganddo ddaliadau. Cyfansoddodd y gerdd yn  1948.

Ar Weun Cas’Mael

Roedd daliadau’r bardd yn brigo i’r amlwg yn y gerdd ‘Ar Weun Cas’Mael’. Gwelai arwyddion oesol byd natur yn fodd o drechu’r aflendid dros dro, megis ffatri arfau Trecŵn, a welai yn ei fyd. Gwelai gymdeithas yn blodeuo drachefn yn ddigaethiwed. Bu cryn drafod p’un a fyddai’n arfer gan y brodorion i ynganu Casmael fel Cashmâl. Prin oedd y dystiolaeth.

Preseli

Yn ôl Eirwyn George roedd y gerdd ‘Preseli’ yn garreg ateb yn ei galon am ei fod yn gallu uniaethu’n llwyr â’i chynnwys. Medrai ymhelaethu ar y cyfeiriadau at y patrwm o amaethu cymdogol. Sgwrsio ar y closydd fyddai cymdogion yn ystod y dydd wrth i’r gwaith barhau ond gyda’r nos byddai gwahoddiad i sgwrsio ar yr aelwydydd a chreu cymdeithas. Esboniwyd union leoliad yr ‘Efail’ y cyfeirir ati sef efail y gof ym Mhenrallt ac nid Efail-wen.

Daw’r Wennol yn Ȏl i’w Nyth

Cafwyd cryn dipyn o gyfeiriadau personol wrth drafod y cywydd ‘Daw’r Wennol yn Ȏl i’w Nyth’ sy’n sôn am diroedd bras Castellmartin yn cael eu meddiannu gan y Weinyddiaeth Ryfel. Cymaint â deuddeg modfedd o ddyfnder o bridd da yno o gymharu â rhyw bedair modfedd ar y gorau yn y cyffiniau hyn. “Does dim mor onest â phridd” medde Eirwyn “oherwydd o roi iddo fe gewch yn ôl”.

Y rhyfeddod pellach oedd bod un o’r gynulleidfa, Anna Williams, ysgrifennydd Cymdeithas Waldo, yn medru rhoi hanes ei theulu yn gorfod mudo o’u fferm rhent Bulliber (Pwll Berw?) ar Ystâd Cawdor i wneud lle i’r fyddin ar ddiwedd 1930au. Daeth arwyddocâd y gerdd gymaint â hynny’n fwy byw.

Credai Eirwyn hefyd fod proffwydoliaeth Waldo i raddau helaeth wedi dod yn wir am fod y wennol yn llythrennol wedi dychwelyd i’w nyth ar rai o safleoedd milwrol y sir sydd wedi’u gwacau. Ond amheuai a fyddid yn amaethu ar diroedd eang Castellmartin fyth eto am ei fod wedi’i gofrestru o werth gwyddonol arbennig ac yn gartref i blanhigion prin.

Cytunwyd mai da o beth fyddai cynnal cyfarfod tebyg yn flynyddol. Yn rhan o’r gynulleidfa roedd y prifeirdd Mererid Hopwood, Tudur Dylan ac Idris Reynolds.

Oedfa Awyr Agored

Cynhaliwyd oedfa wrth ymyl y garreg goffa ar Gomin Rhos-fach ar bnawn Sul, Gorffennaf 14eg. Cafwyd cwmni addolwyr o Gwm Tawe a’r Tymbl a chafwyd cyfraniadae gan y Parch Gareth Morgan Jones a’r Prifardd Robat Powel. Cyfansoddodd Robat y soned ganlynol.

‘Goleuni’r ddinas’

I fab y ddinas, beth yw darllen daear?

Ni ŵyr na medel nac anfeidrol awr

Ar heol hunanoldeb, a’r ceir cynnar

Yn llenwi’r clyw a mygu caniad gwawr.

Nid yw’n adnabod ond ei frys ei hunan,

Y sengi dall ar draws briallu byw

Heb sylwi ar gymydog a’i dro trwstan,

Heb funud fwyn i ddelwi nac i Dduw.

Er hynny, ambell waith, os oedaf ennyd

Ar briffordd ein dieithrwch, gwelaf fry

Oleuni glas yn rholio trwy’r cyfanfyd

I hawlio’r llethrau a’r ystrydoedd du.

Fe leda dydd y weledigaeth fawr

Ei rwydi cyfrin dros holl blant y llawr

Robat Powel 2019

Back to top