Darlith y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor 2018

Darlith y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor 2018

Cyflwynwyd darlith rymus a chynhwysfawr gan Guto Prys ap Gwynfor yng Nghapel Millin, ger Hwlffordd, ar nos Wener, Medi 28, yn gosod Waldo yng nghyd-destun pantheon yr oesoedd o wir anghydffurfwyr. Fe’i rhestrodd ymhlith hereticiaid y gyfundrefn Rhufeinig sef pobol nad oedden nhw’n plygu i drefn yr un wladwriaeth pe bai hynny’n dolurio eu cydwybod.

Mynnai Guto fod y llinell ‘Gwyn eu byd yr oes a’u clyw’ o’r gerdd ‘Y Tangnefeddwyr’ yn cyfeirio nid yn unig at rieni Waldo Williams ond at holl heddychwyr y canrifoedd, – a llawer o’r rheiny yn gyn-filwyr. ‘Gado’r clod o godi’r cledd mewn byd claf / A thyngu i Nef waith a thangnefedd’ meddai’r bardd yn ei awdl ‘Tŷ Ddewi’.

“Roedd Waldo yn ddisgybl i Iesu o Nasareth”, meddai “ac yn credu bod yna werth anfeidrol i bob unigolyn a bod y sawl sy’n gaethwas i’r wladwriaeth yn gyfystyr â bod yn filwr yn ei olwg. Dyrchafai frawdoliaeth.”

Awgrymodd y darlithydd rhwng difri a chwarae fod y bardd a fagwyd yn Mynachlog-ddu a Llandysilio wedi’i enwi ar ôl heretic o’r 12ganrif o’r enw Peter Waldo a gysylltir â sect Gristnogol o’r enw y Waldensiaid. Ceir cerflun ohono yn Worms yn yr Almaen.

Cynhaliwyd Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yng Nghapel Millin am ei bod yn arfer ganddo i lochesu o fewn yr adeilad liw nos cyn troedio, neu seiclo, at y Dderwen Gam ar lan Afon Cleddau gerllaw i brofi’r bore bach. Daeth yr arfer hwnnw i ben pan gredodd yr aelodau mai trempyn oedd yn defnyddio’r adeilad ac fe glowyd y drws. Eu hymateb yn ddiweddarach oedd “Pe bawn ni ond yn gwybod mai Waldo oedd e”!

Dadorchuddiwyd plac coch gan Cerwyn Davies ar ran Cymdeithas Waldo yn un o ffenestri allanol y capel Methodistaidd i ddynodi cysylltiad yr heddychwr â’r fangre. Llywiwyd y noson gan y Parch Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Cymdeithas Waldo a darllenwyd y cerddi ‘Cwm Berllan’ a’r ‘Dderwen Gam’ gan ei nai, Teifryn Williams.