Darlith Robert Rhys 2017

Darlith Robert Rhys 2017

Ail-godi’r tŷ

Seiliodd Dr Robert Rhys ei ddarlith yng Nghapel Hermon, Abergwaun, ar Fedi 29 2017, i raddau helaeth, ar y cywydd mawl gorchestol hwnnw o eiddo Waldo, a draddododd ar achlysur anrhegu D. J. Williams gan Blaid Cymru yn yr un dref yn 1964.

Roedd Waldo a D.J. yn gyfeillion pennaf er y gwahaniaeth oedran o ymron 20 mlynedd rhyngddynt. Treuliodd D.J. y rhan helaethaf o’i oes waith yn athro yn Ysgol Uwchradd Abergwaun er nid o ddewis. Cynigiodd droeon am brifathrawiaethau ysgolion uwchradd eraill gan gynnwys Llandeilo, yn ei gynefin yn Nyffryn Tywi, ond ei siomi bob tro, yn ôl y darlithydd.

Dyhead cynnar D.J. oedd ymfudo i America i fod yn ‘rancher’ a dyna pam y bu’n gweithio am gyfnod fel colier yng Nghwm Rhondda i gynilo arian. Ond troi tuag at y brifysgol yn Aberystwyth ac yna i Goleg yr Iesu, Rhydychen fu ei rawd a hynny heb ddisgleirio fel y cyfryw. Wedi cyfnod byr yn athro yn Sir Fynwy fe’i penodwyd yn athro Saesneg ac Ymarfer Corff yn Abergwaun yn 1919.

Ymwelai Waldo ag aelwyd D.J. a Sian, ei wraig, yn y dref yn gyson am ei fod yn lletya yng Ngwdig a Phencaer gyda’i chwiorydd a chydnabod. Yn wleidyddol cefnogai’r ddau yr ILP cynnar gan ymdaflu i ymgyrchoedd etholiadol Willie Jenkins yn Sir Benfro. Ond yn raddol trodd y ddau at Blaid Cymru.

Mynnai Robert Rhys fod D.J. wedi bod yn ddylanwad mawr ar farddoniaeth gynnar Waldo a chynnau ynddo ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth Iwerddon. Cyfieithodd D.J. rhai o lyfrau’r Gwyddel A.E. (George William Russell) i’r Gymraeg ac roedd ei ddylanwad fel bardd i’w weld yn amlwg ar gerdd fel ‘Cofio’ a hyd yn oed llinell olaf y gerdd ‘Mewn Dau Gae’ – ‘Daw’r Brenin Alltud a’r brwyn yn hollti’.

Mynnai’r darlithydd fod y gymdeithas war a ddarluniwyd gan D.J. yn ei gyfrolau o straeon byrion ‘Storïau’r Tir Glas’ (1936) a ‘Storïau’r Tir Coch’ (1942) wedi dylanwadu ar wead y gerdd ‘Preseli’ a gyfansoddwyd yn 1947.

“Credai’r ddau mewn cynfyd heddychlon ac roedd Waldo o’r farn fod oes aur dynoliaeth, pan oedd yna well byd, wedi goroesi mewn cymunedau gwledig yma ac acw fel ardal y Preseli,” meddai.

Cyfeiriodd at y gyfrol ‘Storïau’r Tir Du’ (1949) wedyn gan esbonio mai ‘tir du’ yw cynefin pob proffwyd am eu bod yn byw mewn cymdeithas nad yw’n rhannu eu delfrydau nhw. Roedd D.J. yn rhwystredig o weld y Gymraeg yn edwino ac imperialaeth a meddylfryd trefedigaethol yn rhy araf yn cilio wrth ei fodd.

Mewn llythyr at y wasg adeg helynt Penyberth yn 1936 pan gafodd D.J. ei garcharu am naw mis am ei ran yn llosgi’r ysgol fomio disgrifiodd gynghorwyr tref Abergwaun fel ‘aliens of our own blood’ am eu bod yn condemnio’r weithred wleidyddol symbolaidd.

Y ‘tir du’ i Waldo oedd yr heniaith yn colli ei llawenydd. Mynegir yr un teimladau mewn cerddi fel ‘Fel Hyn y Bu’ ac ‘Ar Weun Cas-mael’ lle nad yw’r gymdeithas ddelfrydol y chwenychai Waldo ei chofleidio yn bodoli.

O ddeall hyn oll esboniwyd fod yna ddyfnder iasol mewn llinellau fel ‘deifio’r llaw er adfer llys/rhoi ei aradr i’r erwau/llywio’n hyf a llawenhau’ yn y cywydd mawl. A dyna esbonio arwyddocâd teitl y ddarlith, ‘Ail-godi’r tŷ: cyfeillach D.J. a Waldo’. Roedd y ddau am ail-godi tŷ ar batrwm eu delfrydau o Gymru wâr.

Yn briodol canodd Côr Abergwaun ‘Y Tangnefeddwyr’ o waith Waldo ar ddechrau’r noson a lywiwyd gan Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Cymdeithas Waldo.

The evening opened with Côr Abergwaun’s rendition of Waldo’s peace poem ‘Y Tangnefeddwyr’. Cymdeithas Waldo chairman, Eirian Wyn Lewis, hosted the event.

Côr Abergwaun sing ‘Y Tangnefeddwyr’ (The Peacemakers) at Hermon Chapel

Côr Abergwaun sing ‘Y Tangnefeddwyr’ (The Peacemakers) at Hermon Chapel