Darlith Ieuan Wyn

Darlith Ieuan Wyn

Mae cerddi Waldo Williams yn llawn gobaith tragwyddol am well byd. Dyna oedd byrdwn darlith y prifardd Ieuan Wyn wrth draddodi seithfed Darlith Flynyddol Cymdeithas Waldo yn Llangernyw, ger Llanrwst, ar yr union ddiwrnod y cafodd Waldo ei eni sef Medi 30.

Er ei gysylltu’n bennaf â Sir Benfro roedd gan Waldo gysylltiad teuluol clos â Bro Hiraethog am fod teulu ei fam yn hanu o’r ardal. Dyna pam y codwyd cofeb i danlinellu’r cysylltiad wrth y fynedfa i Amgueddfa Syr Henry Jones, ewythr Angharad Williams.

Wrth ddadorchuddio soniodd David Williams, nai i Waldo, am rai o’r straeon oedd wedi goroesi am y teulu a fagwyd yn y bwthyn bychan. Roedd Waldo yn teimlo tynfa’r gwreiddiau, ac ynghyd â’r cysylltiad â’r Mynydd Du yn Sir Gâr, rhoddai hynny ymdeimlad iddo o berthyn i Gymru gyfan. Dyna yw byrdwn y gerdd ‘Cymru’n Un’.

david-williams

David Williams

plac-llangernyw-3Wrth gynhesu at ei destun ‘Gwelais drefn yn fy mhalas draw’ Beth oedd natur ‘gobaith’ Waldo?’ cyfeiriodd y darlithydd o Fethesda at ddiffiniad yr athronydd Iddewig, Jonathan Sacks, i egluro natur ‘gobaith’ Waldo. Nid optimistiaeth sef y gred fod pethau yn mynd i wella o ran eu hunain oedd cred Waldo ond yn hytrach ei bod yn bosib ewyllysio gobaith a sicrhau newid. Roedd gobaith yn rhinwedd gweithredol ym marddoniaeth a ffordd o fyw Waldo yn ôl Ieuan Wyn.

Cyfeiriodd at y defnydd cyson o ferfau megis ‘bydd’ a daw’ yn y cerddi yn cyfleu elfen broffwydol a hynny am fod Waldo wedi gweld ‘trefn yn fy mhalas draw’. Ac roedd y defnydd cyson o ddelwedd y tŷ fel cartref llawn cysur i’r frawdoliaeth gyfan yn brawf o obaith tragwyddol Waldo waeth beth fyddo cyflwr enbyd y byd ar brydiau.

Cyn y ddarlith bu disgyblion Ysgol Bro Cernyw yn canu ‘Byd yr Aderyn Bach’ sy’n cyfleu diniweidrwydd a rhyddid yr adar mân. Clowyd y noson gan y bytholwyrdd Tecwyn Ifan yn canu rhai o’i ganeuon sydd wedi’u dylanwadu gan Waldo. Terfynodd drwy ganu’r clasur ‘Y Dref Wen’.

Roedd y penddelw o Waldo o waith y cerflunydd, John Meirion Morris, yng nghornel yr ystafell ac i’w weld yn gwrido o bryd i’w gilydd o glywed y fath ganmoliaeth ohono. Bu ar fenthyg am gyfnod yn Amgueddfa Syr Henry Jones.

plant-llangernyw-2

Disgyblion Ysgol Bro Cernyw yn canu ‘Byd yr Aderyn Bach’