Môr o oleuni

Môr o oleuni

Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau i ddathlu geni canmlwyddiant Waldo Williams yn 2004. Yn eu plith roedd darlithoedd, cyngherddau, arddangosfeydd a sioe awyr agored wrth Garreg Waldo.

Ymhlith y rhai a fu’n darlithio a chyflwyno atgofion roedd Jâms Nicholas, Emyr Llewelyn, Dic Jones, Dewi Thomas, Vernon Beynon a David Williams. Cynhaliwyd arddangosfa yn Llyfrgell y Sir, Hwlffordd gan nifer o artistiaid a wahoddwyd i gyfrannu enghraifft o waith wedi’i ysbrydoli gan farddoniaeth Waldo.

Plant Ysgol Gynradd Maenclochog yn llefaru un o gerddi plant Waldo ar Gomin Rhos-fach

Ym mis Gorffennaf bwriadwyd llwyfannu sioe awyr agored, Môr o Oleuni o amgylch Carreg Waldo ar dair noson ond bu’n rhaid canslo’r noson gyntaf am ei bod yn pistyllio’r glaw.

Cafwyd problemau technegol dyrys ar yr ail noson ond ar y nos Sadwrn cafwyd machlud mwyn yn gefnlen i’r digwyddiad a drefnwyd gan Clychau Clochog.

Byddai Waldo, mae’n siŵr, wedi chwerthin yn swil o glywed am y trafferthion ond wedi rhyfeddu o weld y cymylau o oleuni’n symud ar draws y grib i gyfeiriad Fwêl Cwm Cerwyn wrth i’r actorion lefaru eu geiriau ar y noson olaf.

Back to top