Darlith yr Athro M. Wynn Thomas 2016

Darlith yr Athro M. Wynn Thomas 2016

Mewn darlith a draddodwyd ym mhentref Rhoscrowdder, ger Penfro, gan yr Athro M. Wynn Thomas, ar nos Iau 26 Mai, 2016, ymdriniwyd, am y tro cyntaf erioed yn gyhoeddus, ag effaith yr arswyd a deimlai’r bardd Waldo Williams o ganlyniad i amhwylledd ei brifathro o dad.

Oherwydd salwch John Edwal y bu’n rhaid i’r teulu symud o Hwlffordd i Fynachlog-ddu er mwyn iddo adennill ei nerth yn awel y bryniau fel sgwlyn mewn ysgol tipyn llai ei maint. Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi marwolaeth ei rieni, bu rhaid i Waldo dderbyn triniaeth i’w chwalfa nerfol ei hun.

Dywedodd y darlithydd fod y blynyddoedd cynnar cythryblus hynny wedi gadael eu hôl ar Waldo i’r fath raddau nes i seiciatrydd nodi nad oedd erioed wedi dod ar draws cyflwr mor eithafol nes iddo ef ei hun ollwng dagrau.

Gan ddefnyddio canllawiau seicdreiddiol esboniodd yr academydd sut oedd hyn wedi ei amlygu ei hun mewn nifer o gerddi Waldo megis ‘Cwmwl Haf’, ‘Oherwydd ein Dyfod’ a ‘Caniad Ehedydd’. Soniodd fod ‘Cân Bom’ i’w chymharu â rhai o gerddi nihilistaidd Ted Hughes yn ei gyfres ‘Crow’ oherwydd ei hanobaith.

Serch hynny, mynnai fod ‘Cwmwl Haf’ hefyd yn cyfeirio at y sicrwydd a ddaeth i ran Waldo ym Mynachlog-ddu. Yr un pryd mae’r cyfeiriad at ‘ysbryd cawr mawr’ a’i fygythiadau yn cynrychioli ei dad tra bo sŵn clocs ei fam ar lawr y gegin yn ernes o’r sicrwydd newydd yn ei fywyd. Ni adawyd llonydd llwyr iddo gan bryder ac o’r herwydd roedd cyfannu’n fater creiddiol iddo.

O ran ‘Oherwydd ein Dyfod’ cafwyd arddeall mai cerdd serch oedd hon yn delio â’r fenter o lân briodas a chanfod llawenydd mewn ‘ogof ddiamser’. Mae’r cefndir o bryder yn ei amlygu ei hun drachefn. ‘Sŵn troed fy eurferch’ ddaw â sicrwydd y tro hwn.

Roedd ‘Caniad Ehedydd’ i’w chymharu â ‘To a Skylark’ o eiddo Shelley. Mynnai M. Wynn Thomas fod y cyfeiriad at Ddrudwy Branwen ‘yn nydd cyfyngder’ yn galw i gof y cam-drin ar yr aelwyd a brofwyd gan y ferch o’r Mabinogi. Ond cwyd yr ehedydd uwchlaw pob trafferth.

IMG_3868a

Traddodwyd y ddarlith yn Saesneg o dan y teitl ‘Waldo Williams – the nobility of poetry’ gan gyfiawnhau hynny trwy gyfeirio at ddiffiniadau Wallace Stevens a Seamus Heaney o bwrpas barddoniaeth. Ond pe bai’n darlithio yn Gymraeg dywedodd y byddai wedi dewis cymal o’r gerdd ‘Caniad Ehedydd’ yn deitl ‘Waldo Williams – cennad angen’.

Dr Prys Morgan
Dr Prys Morgan

Ar nodyn ysgafnach cafwyd atgofion yn cyfleu hynodrwydd Waldo gan y brodyr Prys a Rhodri Morgan wrth iddyn nhw ddadorchuddio plac i ddynodi mai ar fferm Hoplas gerllaw y cyfansoddodd Waldo’r gerdd ‘Cofio’ yn 1931. Soniodd Prys am yr ymateb annisgwyl pan ofynnodd i Waldo nodi ei hoff gerdd. Fel fflach atebodd ‘Upper Lambourne’ gan John Betjeman.

“Roedd e hyd yn oed wedi seiclo i’r pentref yn Berkshire er mwyn gweld dros ei hun yr olygfa ar doriad gwawr o’r eglwys wedi’i gorchuddio gan eiddew wrth i’r haul ei tharo yn unol â’r disgrifiad yn y gerdd. ‘O, gesoch chi eich plesio?’ meddwn i. ‘Naddo’, medde Waldo, ’roedd y ficer wedi bod yno’r noson gynt yn torri’r eiddew gyda phladur’!. ‘Wel, beth nesoch chi nesa?’, holais inne, a chael ateb hollol nodweddiadol ohono gan ddangos ei hoffter o eiriau mwys. ‘O, seiclo adre ar adenydd daufalf (dwyfol) wynt’!” Ac yn ôl yr hanesydd roedd yr hanesyn hynny, ar ryw olwg, yn dangos pa mor anodd yw hi i gyrraedd yr awen.

Rhodri Morgan
Rhodri Morgan

Atgof o’r cyfnod pan oedden nhw fel teulu yn treulio gwyliau haf ym Mrynhenllan, ger Trefdraeth, rhwng 1946 – 1950, oedd prif stori Rhodri, cyn-Brif Weinidog Cymru. Rhyfeddai at allu Waldo i lywio ei feic ar y ffordd i lawr i Bwllgwaelod trwy osod ei law ar y cyfrwy. Fe’i holodd sut oedd e’n gallu gwneud hynny. Wrth gwrs, wrth i Waldo geisio esbonio a chanolbwyntio ar y dasg roedd y beic yn mynd i bob cyfeiriad am yn ail â moelyd. Ac roedd honno’n wers bwysig i beidio ag esbonio sut i wneud rhywbeth ond dim ond ei wneud.

Roedd y ddau o’r farn fod Waldo yn athrylith ac na ellid cyfarfod â neb llai hunan bwysig. Tystient i weithred ddirgel eu tad, yr Athro T. J. Morgan, gyda chymorth yr hanesydd David Williams, yn anfon nodyn at y barnwr pan oedd Waldo’n wynebu tribiwnlys yn gofyn am gael ei ryddhau o orfodaeth filwrol ar dir cydwybod.

Roedd wedi paratoi datganiad yn sôn am frawdoliaeth ac ymyrraeth ddwyfol chwedl William Blake. Hysbysodd y byddai’n barod i wasanaethu yn y Corfflu Meddygol ond y byddai hyd yn oed wedyn yn rheidrwydd arno i geisio perswadio’r milwyr i beidio â  defnyddio arfau. Nid dyna’r datganiadau arferol a glywid yn y tribiwnlysoedd. Esboniwyd ychydig o gefndir Waldo i’r barnwr a chafodd ei ryddhau’n gwbl ddiamod. A’r eironi oedd ei fod eisoes yn rhy hen i gael ei alw i’r fyddin beth bynnag. Ond roedd am wneud safiad.

Angharad Edwards
Angharad Edwards

Llefarwyd y gerdd ‘Cofio’ gan Angharad Edwards o Faenclochog. Nododd fod ei serch tuag at y gerdd cymaint nes bod y teitl wedi’i naddu ar fwclis o’i heiddo. Trefnwyd yr achlysur gan Gymdeithas Waldo. Roedd pawb yn gytûn fod y gerdd hynod yn cynrychioli hanfod y profiad barddonol. Llwyddodd Waldo i gyfleu’r hiraeth am bob dim anghofiedig yn yr ‘un funud fach’ a’r ‘un funud fwyn’ honno.

Y gred gyffredinol yw bod y gerdd wedi llifo ohono pan oedd yn codi erfin ar ffarm ei gyfaill o heddychwr, Willie Jenkins, wrth i’r haul fachlud. Dywed fersiwn arall o’r stori ei fod yn cyrchu’r gwartheg i odro ar y pryd ac yn gweiddi ‘trwy fach, trwy fach’ arnyn nhw. Byddai ef ei hun, pan fyddai mewn hwyliau cellweirus, yn dweud mai carthu catsh y lloi a wnâi ar y pryd, a bod yr ammonia wedi cyffroi’r awen. Ond mae’n rhaid bod yna gryn fyfyrio wedi bod ymlaen llaw.

Llywiwyd y noson gan y Parch Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Cymdeithas Waldo.

* Braf oedd gweld nifer o bobl lleol yn y gynulleidfa. Dangosodd Gwen Smith fwg wedi’i wneud i gofnodi genedigaeth Willie Jenkins. Arferai fyw ym Mwthyn Hoplas a’i thasg feunyddiol oedd cyrchu llaeth o’r ffarm. Cofiai Mr Jenkins yn dda ynghyd â’i howscipar o Wyddeles, Miss Donohue, a Otto’r gwas o’r Almaen a oedd yn garcharor rhyfel. Gallai’n hawdd ddychmygu Waldo’n cyfansoddi ‘Cofio’ wrth i’r haul fachlud uwchlaw Bae Killpastion gerllaw.

Roedd Heulwen Davies o Lanboidy yn arddal perthynas â Willie Jenkins am fod ei mam-gu yn gyfnither iddo. Dangosodd lyfryn yn olrhain hanes yr achos yng nghapel y Bedyddwyr, Hill Park, Prendergast, Hwlffordd lle’r oedd tad Willie yn weinidog. Yn ystod gweinidogaeth y Parch John Jenkins y rhoddwyd y gorau i gynnal oedfaon Cymraeg yno. Hanai’r gweinidog o Lanboidy.

Back to top